Hacio’r Iaith Bach Caeryddd, 17.6.11

Mond byrbryd bach i fwydo porthiant y cyfrif Twitter.

Bydd criw bychan yn cwrdd ym mar Gwdihŵ, rhwng 1pm a 2pm. Croeso i bawb.

Diweddariad: Waw, am gyfarfod bach amser cinio llwyddiannus.

Daeth @nwdls @rhysjj @dafyddt @malpate @IwanEv @kopetatxuri @Marshallmedia @rhysw1 [a dau berson arall dw i’n rhy crap i gofio eu henwau 🙁  – ychwanegwch eich hunain yn blwch sylw]

…a siaradom gyda gyda @carlmorris dros speaker-phone!

(Diolch @malpate am dynnu’r llun)

5 sylw

  1. Dw i’n methu dod heddiw yn anffodus. Cariad i bawb! Mae rhywbeth dros ginio yn syniad da, efallai tro nesaf.

  2. Cariad i bawb! Mae rhywbeth dros ginio yn syniad da

    Dw i’n deall mai mond digwydd bod yng Nghaeryddd heddiw am gynhadledd mae Rhodri a’r Rhys arall, ac mae’n ddigon hawdd i fi ddweud hyn gan mod i’n gweithio ganol ddinas, ond mae’n siwr bod tipyn go lew o fynychwyr digwyddiadau Hacio’r iaith erail lyn gweithio yng nghanol y ddinas.

    Falle trefnu cael cinio yn Garlands dros fowlen o gawl unwaith y mis/ pob deufis i roi’r byd technolegol yn ei le?

    Eniwe, gorfod mynd rwan, mai bron a bod yn 1pm. Gyda llaw, mae gwr arbennig am ymuno a ni heddiw. Cliw: ddim Mistar Urdd ydy o.

  3. Hysbysiad Cyfeirio: Broc môr / Cynhadledd Cyfrwng

Mae'r sylwadau wedi cau.