Llywodraeth Euskadi yn fodlon talu am 10,000 erthygl i’r Wikipedia Basgeg

Pan ddarllenais y canlynol ar wefan newyddion Eitb;

Lurdes Auzmendi, Deputy Secretary for Linguistic Policy in the Basque Government, stressed the importance of Microsoft’s support for the Basque language via some of its most recent tools, and highlighted “some of the key projects that will get underway this year” such as “the creation of 10,000 topics in the Basque language to be published in Wikipedia; the activation of an automatic translation system and the creation of a Public Bank of Traslation Recall.”

..ro’n i’n meddwl mai rhyw gamgymeriad oedd wedi bod wrth adrodd bod y 100,000fed erthygl wedi ymddangos ar y Wikipedia Basgeg. Ond o holi ymhellach, ces eglurhad bod Llywodraeth Euskadi (Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg) newydd osod tendr ar gyfer y gwaith o greu 10,000 erthygl.

Mae’r manylion yma mewn Basgeg a thrwy GoogleTranslate fan hyn.

Mae manylion am hyd y cytunedb (5 mis) a’i werth (169,400 Ewro),  ond allai ddim agor y ddogfen pdf.do i wybod mwy. Hoffwn wybod pa erthyglau caiff eu dewis ac o ba iaith byddant yn cyfieithu, neu a fyddant yn cael eu creu o’r newydd. Y rheswm hoffwn wybod yw gan bod erthyglau Wikipedia o mhrofiad o ddarllen rhai Saesneg (a rhai Cymraeg) yn gallu bod yn bell o ddi-duedd. Os darllenwch chi dudalen sgwrs erthyglau am bynciau llosg, megis iaith, gwleidyddiaeth a diffiniadau cenedlaethol yng Ngwlad y Basg a Catalonia, mae ffraeo ffyrnig rhwng cenedlaetholwyr Sbaenaidd/Ffrening a rhai Basgaidd. A thra bod gweinyddwyr yn ceisio dod i gyfaddawd, tydy’r canlyniadau ddim yn foddhaol bob tro. Dychmygaf bod y sefyllfa yr un fath neu’n waeth ar Wicipedai’s Sbaeneg a Ffrangeg a fyddair safbwyntiau hynny ddim yn dderbyniol gan Lywodraeth Euskadi.

Diweddariad: Er bod y llywodraeth yn bwriadu talu 170K Ewro am y gwaith, ymddengys nad ydyn wedi dod i gysylltiad gyda gweinyddwyr y Wikipedia Basgeg i drafod pa erthyglau sydd eu heisiau. Yr un hen stori!

3 sylw

  1. Swydd fel golygydd Wicipedia Cymraeg unrhyw un? 🙂

    Mae’r stori yma yn ddiddorol iawn IAWN, yn enwedig o ran diwylliant rhydd.

  2. Swydd fel golygydd Wicipedia Cymraeg unrhyw un?

    Wedi meddwl, fe gyflogdd y Llyfrgell Genedlaethol rhywun am gyfnod dros dro (o dan y cynllun Go Wales falle) i uwchlwytho rhai o’u delweddau ar Wikipedia a’r Wicipedia.

    A rwan, wedi i mi ddarllen y cyfnod blog yma, dw i’n gweld bod y Llywodraeth y Cynulliad wedi lansio cynllun grantiau o’r enw Grantiau Arloesi a Datblygu, a Grantiau Cyfoeth Cymru Gyfan 2011/12.

    Dyma sut mae’r grant yn cael ei ddisgrifio ar y blog:

    Mae CyMAL wedi cynnig cynllun grant yn 2011-12. Pwrpas yr arian yma yw annog amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd lleol i weithio mewn partneriaeth agos â grwpiau trydydd sector i greu cynnwys digidol deniadol o ansawdd uchel. Cafwyd dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yn ddiweddar, edrychaf ymlaen at ddarganfod pa brosiectau diddorol ac arloesol bydd yn cael ei ariannu’r flwyddyn yma.

    Cyfle i grwpiau (megis Mentrau Iaith?) gyflogi pobl ar brosiectau byr dymor i greu cynnwys Cymraeg am eu hardal nhw dybed? Neu falle cyflogi rhywun i gydlynnu prosiect fel hyn wedi ei ganolbwyntio ar Gymru i annog pobl i greu ac uwchllwytho cynnwys am amguedddfeydd lleol at y Wicipedia.

    Des ar draws gwefan Archifau Cymunedol Cymru yn ddiweddar hefyd sydd efo lot o gynnwys defnyddiol arno (gan gynnwys delweddau), lot ohono o dan drwydded Creative Commons. Arinawyd hwn gan Gymunedau”n Gyntaf.

Mae'r sylwadau wedi cau.