API cyfieithu Google

Mae Google wedi penderfynu cau eu API ar gyfer Google Translate erbyn Rhagfyr 1 , 2011. Mae nhw’n dweud mai’r rheswm am hyn yw ‘camddefnydd helaeth’. Dyw hyn ddim yn effeithio y gwasanaeth cyfieithu ar lein nac y teclyn sy’n gallu cael ei osod ar wefannau.

Mi roedd yr API yn galluogi gwefannau a blogiau i ddarparu cyfieithiadau awtomatig yn uniongyrchol yn y wefan. Yn anffodus dwi ddim yn credu fod hyn llawer o fudd i’r Gymraeg. Roedd e’n creu cronfa anferth o destun ‘Cymraeg’ ar y we wedi ei gyfieithu o iaith arall (saesneg yn bennaf) a gan fod y cynnwys yma yn gallu cael eu gofnodi gan ymlusgwyr gwe, roedd hyn yn gallu effeithio ar ganlyniadau peiriannau chwilio.

Dwi ddim yn meddwl y bydd hi’n llawer o golled os yw’r gwefannau sy’n gwneud hynny yn diflannu. Mae’n bosib iawn fod hyn yn rhan o’r ‘camddefnydd’ mae Google yn sôn amdano.

Mae cyfieithu peirianyddol yn arf defnyddiol i rhai sydd eisiau cyfieithiad bras o unrhyw gynnwys ond gyda’r Gymraeg mae peryg iddo greu diogi neu osgoi cyfrifoldebau hefyd (Dwi’n edrych arno chi, Cyngor Torfaen).

Er hyn mae bodolaeth yr API yn cynnig posibiliadau oedd ddim yn bosib cynt, felly gobeithio bydd Google yn edrych am ffordd gwahanol o gynnig y gwasanaeth mewn ffordd sy’n haws i’w reoli. Dwi’n siwr y byddai’n bosib creu gwasanaethau defnyddiol gyda’r API (er, hoffwn i weld esiamplau o hyn yn y Gymraeg).

Diweddariad ar 20 Mehefin

Diolch i Dewi Bryn Jones am ddolen i’r erthygl yma sy’n esbonio sut mae Google am gynnig fersiwn masnachol o’r API a cynnig ychydig o resymau pam fod yr API agored yn cau lawr. Mae’n debyg fod cyfieithu peirianyddol yn bwyta ei hunan.