Mae cynhadledd Talk About Local yma yn yr…

Mae cynhadledd Talk About Local yma yn yr Atrium, Caerdydd, heddiw.
Mae na olygyddion / cynhyrchwyr gwefannau heiprlleol dros Brydain gyfa’ yma.

Mae RhysW a finne newydd ddod allan o sesiwn am y Gymraeg ac – ar garlam braidd –  roeddwn i am rannu rhai o’r pwyntiau:

  • bu trafodaeth am gynhadledd S4C yn Aber am ryngweithiol
  • bu ychydig o anghytuno: un rhwydwaith o wefannau lleol neu uber-safle?
  • lot o son am Bapurau Bro – rhwydwaith arbennig o bapurau heiprlleol Cymraeg sydd wedi bodoli ers y 70au
  • a fydde’r Mentau yn gallu helpu wrth gydlynnu’r hyfforddiant sydd angen i hyfforddi pobl mewn sgiliau digidol?
  • canmoliaeth i Blogiadur, Umap a Lleol.net fel aggregators
  • Hywel Wiliam AIM (gynt o OFCOM) yn son am roi fideos Cymraeg via ethernet i’r teledu yn y lolfa
  • Ed o Media Wales yn dweud y bydde’r papur yn hapus i ystyried cynnwys map  gymru gyda dotiau yn dangos gwefannau lleol Cymraeg.
  • Geoff Rogers @foomandoomian yn dangos diddordeb

Gan Gareth Morlais

- gweithio i Lywodraeth Cymru fel arbennigwr y Gymraeg, technoleg a'r cyfryngau digidol - fy marn i sydd yma, nid y cyflogwr. - diddordeb arbennig mewn straeon digidol a gwefannau a hanes lleol - byw yng Nghaerdydd

7 sylw

  1. Diolch Gareth. Dyma rai meddyliau:

    Dwi’n meddwl bod trio canol rhywbeth mor ddatganoledig a Phapurau Bro mewn uber-safle yn bownd o fethu. Y gorau gellid ei wneud ydi trio cael rhywun i guradu aggregator o’r straeon gorau sydd yn y rhwydwaith (pe sefydlid rhwydwaith o gwbl).

    Ydi papurau bro yn rhy wahanol i Hyperleol? Fyddai cynnwys hyperleol yn fwy gwleidyddol/newyddiadurol ei hanfod yn hytrach na diwylliannol? Dyna yw natur lot o’t gwefannau hyperleol Saesneg dwi’n weld. Mwy am fixmystreet na be wnaeth Joni yn steddfod Sir.

    Dwi bron yn meddwl weithiau bod angen anghofio am rwydweithiau papurau bro a dechrau o’r newydd gyda blogiau lleol ar-lein. Datblygu lleisiau lleol newydd. Ond dwi ddim wedi darbwyllo fy hun bod hynny’n ddoeth eto! Byddai’n biti colli cyswllt croes-genhedlaeth ac mae llawer i;w ddysgu a’i drosglwyddo. Ond eto mae na gynulleidfaoedd gwahanol ar gyfryngau gwahanol.

    Fideo efallai yn gyfrwng mwy addas ar gyfer addasu modelau papur bro? Ond lot mwy o waith cynhyrchu / hyfforddi. Annodd dyblygu mewn nifer fawr o ardaloedd.

    Dwi ddim yn meddwl bod y mentrau yn llefydd da i gydlynu hyfforddiant. Gwell ei fod yn dod gan unigolion brwdfrydig lleol sydd eisoes yn ysgrifennu ar-lein/cynhyrchu mewn rhyw ffordd. Digon o bethau eraill gallai’r Mentrau gyfrannu – cynnwys er enghraifft.

    Nnid y macro-rwydwaith yw’r peth pwysig gyda phapurau bro, ond y rhwydwith leol. Cysylltiadau rhwng pentrefi o fewn bro. Canolbwyntio ar gael hynny’n iawn cyn dechrau meddwl ar lefel genedlaethol.

    Angen ystyried: Beth yw dalgylch papurau bro? Ydi dalgylch o’r fath yn gweithio yn yr un ffordd ar gyfer hyperleol? Mae blog yn gallu gweithio ar gyfer un stryd.

    Model top down S4C yn risky. Dipyn i’w ddysgu gan ymdrechion BBC Cymru’r Byd a’u gwaith nhw gyda phapurau bro. Fideo lleol yn rili annodd i’w gynhyrchu ar lefel gyson/safon technegol darlledu heb fuddsoddiad anferth. Gwell arbrofi gyda chwpwl o lefydd i ddechrau.

    Falch bod Umap yn plesio!

  2. Beth am ryw batrlymun gwefan wedi ei seilio ar system penodol? Oes modd defnyddio WordPress gyda phatrymlun wedi ei adeiladau gan e.e. Haciaith (pwy bynnag sy’n alluog ac eisio cyfrannu) a’i ddosrannu i fel gwefan penodol i bob dalgylch Papur Bro. Gall pob gwefan cael sawl awdur yn sgwennu am millti-sgwâr nhw, fel sy’n digwydd eisoes. Fel arfer, un person yn sôn am un tref, rhywun arall yn sôn am dau bentref lled agos etc.

    Unwaith bydd y fframwaith yn ei le, sef gwneud y gwaith anodd a thechnegol ar ran y rhai sydd fel arfer ddim yn hollol hyderus gyda TGCh, wedyn cael pob un yn bwydo mewn i un gwefan mawr sy’n gallu dewis pigion, neu arddangos crynodeb mewn adrannau gwahanol fel rhestr o eisteddfodau lleol, marwolaethau, priodasau, etc.

  3. Roedd tri prif gwestiwn yn y sesiwn

    1. A’i rhywdwaith ffurfiol, falle o dan syniad ‘S4C Lleol’ arfaethedig (?) neu debyg fyddai orau, yntau rhywbeth mwy llac ble mae gwefannau annibynol yn cael ei casglu mewn un man.

    Ar y diwrnod awgrmywyd, a fel mae Rhodri’n nodi yn y sylwadau, nid yw top-down yn addas i rhywbeth fel hyn, a bod peryglon ar ddibynnu ar BBC Lleol, gan y gallai crebychiad pellach mewn buddsoddiand yn y dyfodol beryglu bywyd hir dymor unrhyw brosiect. Hefyd, byddai derbyn nawdd cyhoeddwus (drwy’r Bwrdd?) yn gallu rhwystro blog lleol rhag bod yn partizan (cafodd y Bwrdd ei ferniadau am ariannu RHAG wrth iddyn nhw ymgyrchu yn erbyn y Blaid Lafur). Galwch weld cyngor/cynhorydd lleol dan y lach yn ddigon parod i godi’r peth.
    Rhoddodd Nicky Getgood (un o drefnywr yr anghynadledd) enghraifft o wefan The YamYam a wnaeth job dda o fod yn aggregator o wefannau hypel-lleol.

    2. Dod a Phapurau Bro ar-lein v’s creu gwefannau hyper-lleol o’r newydd?

    Mantais papur bro yw ei fod wedi ei sefydlu, felly mae gennych ‘brand’ (nid o anghenraid yn un positif!) a rhwydwaith prod o gyfranwyr. ‘Sdim rhaid iddo fod yn ‘FixMyStreet NEU Joni Jones yn steddfod’ – gall gynnwys y ddau.
    Anfantais paprau bro yw bod nhw yn hynnod o geidwadol o ran cynnwys a rheolaeth. Roedd un gplygydd yn cwyno nad oedd neb yn helpu/cyfrannu, felly daeth criw o bobl newydd i’r cyfarfod blynyddol a chynnig helpu, dim ond i’r golygydd anwybyddu bod awgrym a chynnig help a bwrw mlaen ar liwt ei hun. Falle byddai cael blog lleol fel cystadleuaeth yn help i gorddi pethau (er gwell).

    3. Sut mae darbwyllo/galluogi/hyfforddi pobl i greu gwefan ar-lein.

    Oes rhwystrau technolegol? Na, nid os yw eraill yn gallu creu gefannau hyper lleol. Angen ysbyrdoliaeth a enghraift o wefan hyper lleol Cymraeg da i eraill ddilyn. Rhai papurau bro a phentrefi gyda presenoldeb ar-lein yn barod. Ydy o’n haerllug o’n rhan ni i feddwl bod nhw eisiau/angen bod ar lein? Gofynais i Nicky sut mae Talk About Local yn cyrraedd grwpiau. Mae’n nhw’n cael eu gwahodd gan ganolfannau UK Online (sy, er gwaetha’r enw, ond yn gwethredu’n Lloegr!) , pan mae nhw’n teimlo bydd o fudd yn lleol ac y byddai diddordeb. Soniodd Nicky mai Learndirect falle sy’n darparu gwasanaeth tebyg yng Nghymru.
    Tra dw i ddim yn meddwl mai’r Mentrau Iaith yw’r pobl gorau i ddarparu’n hyfforddiant na chynnal/creu y gwefannau (ddim yn meddwl bod yn iawn i staff cyfogedig wneud bet ddylai fod yn wirfoddol), efallai gelli’r eu defnyddio nhw i gydlynu hyfforddiant a bod pobl o’r tu allan yn mynd yno i’w ddarparu. Mae hyn yn gyfle masnachol i rhywun, neu beth am sefydlu rhyw is-grwp o fewn Hacio’r Iaith i hyrwyddo hyn. Gallwn fapio papurau bro ar googlemaps (i weld pa rai sy a sy ddim ar-lein) a gweld lle bydd y ymateb gorau ar y cychwyn falle.

    Gol: Mwy i ddod, mwy i ddod (+ cywiro typos a gosod dolenni) – daeth sesiwn yny llyfrgell i ben.

  4. Bosib gall hwn helpu?

    http://www.webmonkey.com/2009/07/source_code_offers_a_glimpse_of_the_magic_behind_everyblockdotcom/

    Mae’n defnyddio OpenStreetBlock sy’n defnyddio OpenStreetMap. Yn syml, mae OpenStreetMap yn fersiwn Wikipedia o Google Maps – mapiau ti’n gallu eu newid ac ychwanegu.

    Mae OpenStreetBlock yn nol gwybodaeth o OpenStreetMap via hydred/lledred a wedyn yn trosi’r wybodaeth i’r stryd agosaf h.y. rhoi gwybodaeth mwy dealladwy o rifau.

    Mae EveryBlock yn ceisio crafu gwybodaeth wedi ei leoli o fewn milltir sgwâr gan newid rhifau hydred/lledred fewn i rywbeth fel ‘Ffordd Abergele’ ym Mae Colwyn (http://www.baecolwyn.com), wedyn ceisio pigo unrhyw wybodaeth sy’n digwydd o gwmpas y stryd ene.

Mae'r sylwadau wedi cau.