Dyfodol adnoddau Bwrdd yr Iaith Gymraeg? /cc @ybwrdd

Dw i newydd ychwanegu dolen i’r rhestr o dermau ffonau symudol gan Bwrdd yr Iaith Gymraeg i Hedyn.
http://hedyn.net/wici/Geiriaduron#Termau_technolegol.2Farbennig

Dw i’n chwilio’r wefan Bwrdd yr Iaith Gymraeg nawr am drysorau. Unrhyw ffefrynnau?

Wrth gwrs mae’r Bwrdd yn dod i ben cyn hir – fydd y ddolenni yna yn parhau? Dylen ni copïo’r data nawr ac annog rhannu.

e.e.
http://hedyn.net/wici/Termau_lleoleiddio_rhyngwynebau_ffonau_symudol

1 sylw

  1. Hmmm. Mae rhai o dermau mae Bwrdd yr Iaith yn ei ddefnyddio mymryn yn wahanol i rhai sy’n cael eu defnyddio eisoes mewn cyfieithiadau eraill e.e. Ubuntu.

    Hefyd mae wedi cyfieithu rhywbeth fel “AC wall charger” i “gwefrydd wal AC” pan fo CE am cerrynt eiledol yn cael ei ddefnyddio ers blynyddoedd mewn papurau arholiad TGAU am alternating current, a dylai fod yn reit adnabyddus.

Mae'r sylwadau wedi cau.