Tyllau mawr yn @Golwg360 fel mis Ionawr 2011. Ble mae’r straeon?

Mwy na mis yn ôl yr ail-lansiad, mae tyllau mawr yn yr archif straeon Golwg360. Mae llawer o straeon o’r adran newyddion cyn 26 mis Ionawr 2011 ar goll.
Cer i http://www.golwg360.com a chwilia o gwmpas.

Un o’r manteision mawr am newyddion ar-lein yw’r archif o straeon trwy amser… dolenni, cyfeiriadau ar bethau fel Wicipedia Cymraeg, ymchwil, hanes, mwy o dudalennau am hysbysebion, ayyb.

Rydyn ni’n hoffi Golwg360. Gawn ni’r newyddion yn ôl plis?

Enghreifftiau
“Dogfennau’r Holocost yn mynd ar-lein” (26 mis Ionawr 2011)
dolen: http://www.golwg360.com/UI/News/ViewNewsDetails.aspx?ID=19466
pen taith am y dolen: adre
chwilio am y teitl: dim canlyniad

“Cyhuddo Prifysgol Bangor o ‘wahaniaethu yn erbyn y Gymraeg’” (26 mis Ionawr 2011)
dolen: http://www.golwg360.com/UI/News/ViewNewsDetails.aspx?ID=19457
pen taith am y dolen: adre
chwilio am y teitl: dim canlyniad

“Jo Yeates: Cadw dyn yn y ddalfa” (24 mis Ionawr 2011)
dolen: http://www.golwg360.com/UI/News/ViewNewsDetails.aspx?ID=19399
pen taith am y dolen: adre
chwilio am y teitl: dim canlyniad

Problem wahanol, dyw hen ddolenni ddim yn gweithio o gwbl.

Enghraifft
“Carwyn Jones wedi ei ‘synnu a’i siomi’ gan honiadau” (30 mis Medi 2011)
dolen: http://www.golwg360.com/UI/News/ViewNewsDetails.aspx?ID=16258
pen taith am y dolen: adre
Dychmyga, rydyn ni wedi dilyn y dolen o flog neu gwefan fel Wicipedia. Rydyn ni’n bwriadu gadael nawr achos mae’r tudalen adre yn hollol amherthnasol ond os rydyn ni’n chwilio o gwmpas mae’r stori i gael!
http://www.golwg360.com/archif/28483-carwyn-jones-wedi-ei-synnu-ai-siomi-gan-honiadau

4 sylw

  1. Mae’r mwyafrif o’r (21) dolen dolen at Golwg360 o Wicipedia yn gweithio yn ffodus, ond ddim i gyd.

    Chwarae teg, mae rhywun wedi cael job gont yn glanhau i fyny ar ôl llanast rhywun arall, ac yn edrych fel bod nhw’n gwneud job go dda arni. Y drwg ydy, mae pob adnodd prin sy’n cael ei wario ar ‘welliant’ y wefan ond yn mynd at ddod ar wefan i’r safon isaf posib ddylai fod ar y cychwyn, ac felly sdim lot o gyfle i wneud gwellianau mwy arwyddocaol (ee RSS unigryw i’r gwahanol adrannau).

  2. Rwyt ti angen rheswm eithriadol i beidio defnyddio meddalwedd cod agored dyddiau yma. Fel arfer mae cod agored yn dod gyda safonau agored a rhydd hefyd.

    Pa ffrydiau RSS wyt ti eisiau achos rydyn ni’n gallu trio eu creu fel project?

  3. Pa ffrydiau RSS wyt ti eisiau achos rydyn ni’n gallu trio eu creu fel project?

    Meddwl mwy ar gyfer ‘Pwy all fod eisiau ffrydiau RSS’ ydw i.

    dyma rai enghreifftiau o wefannau a allai fod a diddordeb danogs ffrwd RSS adran neu is-adran penodol:

    Cwlwm Busnes Caerdydd > http://www.golwg360.com/newyddion/arian-a-busnes
    Gwefan Pethe/Cyngor Celfyddydau Cymru…. > http://www.golwg360.com/celfyddydau
    Gwefan Y Selar > http://www.golwg360.com/celfyddydau/roc-a-phop
    Yr Eisteddfod Genedlaethol/ Cymdeithas Eisteddfodau lleol… > http://www.golwg360.com/celfyddydau/eisteddfodau
    Tu Chwith > http://www.golwg360.com/celfyddydau/llen
    Cochion Caerdydd (cefnogwyr Wrecsam) > http://www.golwg360.com/chwaraeon/pel-droed (neu gwell fyth http://www.golwg360.com/chwaraeon/pel-droed/wrecsam)
    UCAC, CBAC > http://www.golwg360.com/newyddion/addysg
    Cyngor Cefn Gwlad. FUW, NFU Cymru, Ffermwyr Ifanc Cymru > http://www.golwg360.com/newyddion/cefn-gwlad
    haciaith.cymru > http://www.golwg360.com/newyddion/gwyddoniaeth-a-thechnoleg
    BlogMenai / Hen Rech Flin, IWA (Jôc!), StrataMatrix… > http://www.golwg360.com/newyddion/gwleidyddiaeth

    Petai http://www.golwg360.com/newyddion/cymru hefyd gyda is-adran pellach ar gyfer sir (neu hyd yn oed tref, byddai Awdurdodau lleol, Mentrau Iaith, Gwefannau hyper-lleol, Guardian Cardiff (?). Papurau Bro efallai eisiau ychwanegu ffrwd i’w gwefan nhw

    Mond syniadau ydy’r rhain a gymerodd dau fynud i fi feddwl amdanynt. Dof yma i ychwnaegu mwy mae’n siwr. mwy.

  4. Mae fy archif i yn cynnwys pob stori fyny at yr ail-ddyluniad (wel falle ddim popeth, ond yn sicr dy enghreifftiau di). Y gwahaniaeth wrth gwrs yw mod i ddim yn dileu pethau. Roedd tueddiad yn yr hen wefan i ddileu hen stori er mwyn creu fersiwn newydd gyda ID newydd.

    Er enghraifft, wrth chwilio yn fy archif i mae 26 stori am ‘Jo Yates’ ond 20 yn Golwg360.

    Ond mae un stori wedi ei gofnodi tri gwaith yn fy archif, wrth i’r stori ddatblygu:

    “Mae dyn 32 oed wedi ei arestio heddiw ar ddrwgdybiaeth o lofruddiaeth Joanna Yeates”

    “Mae dyn 32 oed sy’n cael ei amau o lofruddio Joanna Yeates yn cael ei holi gan yr heddlu”

    “Mae dyn 32 oed wedi ei gyhuddo o lofruddio Joanna Yeates.”

    Dwi’n gobeithio fydd y broblem yna ddim yn digwydd yn y wefan newydd.

Mae'r sylwadau wedi cau.