Llyfrau yn y parth cyhoeddus heddiw: Gwilym Deudraeth, F Scott Fitzgerald a mwy

John Buchan, Mikhail Bulgakov, F Scott Fitzgerald… 70 mlynedd ar ôl eu marwolaethau, mae llyfrau ganddyn nhw yn dod mas o hawlfraint i’r parth cyhoeddus heddiw.

Unrhyw awduron Cymraeg?

Gwilym Deudraeth, englynwr (William Thomas Edwards) yw’r unig berson dw i’n gallu ffeindio ar hyn o bryd.

Dyn ni’n rhydd i gopïo, addasu, ailgymysgu, cyhoeddi neu ddefnyddio ei gwaith heddiw.

Dim llawer eraill ar y rhestr yma. Unrhyw un?

Hefyd o Gymru dw i wedi ffeindio WH Davies (awdur Autobiography of a Supertramp).

Blwyddyn newydd dda.

DIWEDDARIAD: mwy o Gymry o’r wefan LlGC (diolch Nic Dafis)

Rhestr llawen o awduron mas o hawlfraint heddiw (yr unig eithriad yw gweithiau sydd wedi cael eu cyhoeddi am y tro cyntaf ar ôl marwolaeth)

DAVIES, HENRY REES ( 1861 – 1940 ), hynafiaethydd

DAVIES, JOHN ( 1868 – 1940 ), awdur

DAVIES, JOHN BREESE ( 1893 – 1940 ), llenor a cherddor .

DAVIES, THOMAS HUWS ( 1882 – 1940 ), ysgrifennydd comisiynwyr eiddo’r Eglwys yng Nghymru, llenor, a chasglydd llyfrau

DAVIES, WILLIAM HENRY ( 1871 – 1940 ), bardd ac awdur

EDWARDS, WILLIAM ( 1851 – 1940 ), arolygwr ysgolion Ei Fawrhydi

EDWARDS, WILLIAM THOMAS (‘ Gwilym Deudraeth ’ 1863 – 1940 ), bardd

EVANS, DAVID CLEDLYN ( 1858 – 1940 ), ysgolfeistr, daearegydd a hynafiaethydd

EVANS, THOMAS HOPKIN ( 1879 – 1940 D.W.B. , 1120-1). Cerddor

GRIFFITHS, WILLIAM ( 1859 – 1940 Bywg. , 289)

HUGHES, HENRY MALDWYN ( 1875 – 1940 ), diwinydd a gweinidog Wesleaidd

JONES, JOHN (‘ Ioan Brothen ’ 1868 – 1940 ), bardd

JONES, ROBERT THOMAS ( 1874 – 1940 ), arweinydd Llafur

LLEWELLYN, Syr DAVID RICHARD ( 1879 – 1940 ), BARWNIG, perchennog glofeydd

OWEN, GWILYM ( 1880 – 1940 D.W.B. , 1145), gwyddonydd ac athro anianeg yng ngholeg y brifysgol yn Aberystwyth

PRICE, PETER ( 1864 – 1940 ), gweinidog (A)

REES, EDWARD WALTER (‘ Gwallter Dyfi ’ 1881 – 1940 ), rheolwr banc a cheidwad cledd yr Orsedd

ROBERTS, THOMAS ROWLAND (‘ Asaph ’ 1857? – 1940 ), cofiannydd

THOMAS, Syr DANIEL (LLEUFER) ( 1863 – 1940 ), ynad heddwch cyflogedig

10 sylw

  1. Buasai’n wych gweld rhai o’u gwaith arlein ac yn rhydd. (ac ar gael trwy wefannau confensiwnal fel Amazon ayyb) – oes unrhyw gynlluniau?

  2. Gobeithio, dw i’n methu ffeindio llawer o Gwilym Deudraeth arlein felly bydd rhaid i ni sganio rhywbeth.

Mae'r sylwadau wedi cau.