Rhannu rhaglenni teledu

Mae gwefan newydd wedi ei lansio – Golyg – ar gyfer rhannu rhaglenni teledu Cymraeg drwy dechnoleg BitTorrent. Mae e wedi ei anelu at y Cymry alltud hynny tu allan i wledydd Prydain (a gogledd Ewrop) sydd ddim yn gallu gwylio S4C.

Mae’r ‘cipwyr’ yn recordio rhaglenni S4C oddi ar yr awyr drwy gerdyn neu focs digidol, golygu’r ffeil i dorri allan yr hysbysebion, a’i gywasgu i fformat MP4.

Dyw S4/Clic ddim ar gael yn fyd eang, a dyma’r unig ffordd y gall Cymry dramor wylio y rhaglenni Cymraeg diweddaraf. Mae angen i S4C edrych ar sut i ddarparu rhaglenni yn fyd-eang. Roedd sôn ers tipyn y byddai rhaglenni S4C ar gael yr iPlayer cyffredin ond does dim wedi dod o hyn eto.

Mae’r BBC yn paratoi fersiwn byd-eang o’r iPlayer fyddai’n platfform delfrydol i S4C. Dwi’n dyfalu y byddai angen talu i gael mynediad i’r platfform ond y byddai cyfle i werthu hysbysebion hefyd. Fe fyddai iPlayer rhyngwladol yn gyfle i gynyddu cynulleidfa S4C tu allan i Gymru.

Ond yn ôl at Golyg – mi fyddai’n ddefnyddiol os oedd fwy o bobl yn rhannu’r gwaith o lwytho rhaglenni i fyny. Mae’n cymeryd tipyn o amser ac ymdrech i wneud y gwaith ond mae e’n ymddangos i fod yn wasanaeth defnyddiol iawn yn barod.