Archif Geocities fel torrent

Newyddion da. Mae pobol wedi rhyddhau tua 652gb o hen dudalennau Geocities.
http://thepiratebay.org/torrent/5923737/Geocities_-_The_Torrent

Esboniad

Archiveteam! The Geocities Torrent

Wrth gwrs roedd y gweithred Yahoo i ddileu Geocities yn ddrwg i ieithoedd mwyafrifol – heb sôn am Gymraeg.

Gobeithio bydd rhywun yn hosto fe am ein cyfleustra e.e. Archive.org.

PA WEFANNAU Cymraeg hoffet ti weld eto?

Sgwenodd Dafydd cofrestr da llynedd.

Fe roedd Geocities yn boblogaidd iawn gyda bandiau, labeli a ffansîns Cymraeg, yn cynnwys Fitamin Un, Welsh Bands Weekly, Brechdan Tywod, Radio Amgen, Llwybr Llaethog, Trawsfynydd Lo-Fi Liberation Front, Zabrinski, GHR2 a mwy.

Mae fe wedi cadw Brechdan Tywod fan hyn hefyd.

(Fy meddyliau am y we barhaus / Hacio’r Iaith fel wefan Geocities)

6 sylw

  1. Wnes i gael gafael ar uk.geocities.com o’r torrent yma. Yn anffodus dyw’r llawer o’r gwefannau Cymraeg sydd arno ddim yn gyflawn. Doedd y crafwr ddim yn gallu gweld pob ffeil – wnes i fynd drwy pethau fy hun er mwyn gwneud yn siwr fod pob elfen yna. Wna’i droi rhoi fwy fyny ar archif.rhwyd.org yn fuan (mae angen golygu’r tudalennau fel nad yw e’n trio llwytho JS/lluniau o hen wefan Geocities ayyb)

  2. Diolch Dafydd.

    Wyt ti eisiau help gydag archif.rhwyd.org? Beth am gopïau o bethau Cymraeg ar Wayback Machine? Bydd e’n neis cael copïau yn yr un lle. Neu ddolenni.

  3. Ie fasen i’n falch o unrhyw gopïau o wefannau o ffynhonnellau arall (naill ai fel dolen neu fel swp o ffeiliau statig). Er fod y Wayback Machine yn grêt, mae e’n flakey uffernol a mae’n gallu cymeryd tipyn o amser a gwaith ditectif i drio ail-adeiladau gwefannau cyflawn o’r fan yna.

Mae'r sylwadau wedi cau.