WalesOnline i fynd tu ôl i wal dalu?
Dyma tweet jest rwan gan Sion Barry, eu golygydd busnes nhw:

Fasech chi’n talu?
Dyma tweet jest rwan gan Sion Barry, eu golygydd busnes nhw:

Fasech chi’n talu?
Mae Golwg360 yn adrodd bod Ambrose ac Edryd yn awyddus iawn i ddatblygu yr app iSteddfod, a bod dros 1,000 o bobol wedi ei lawrlwytho.
Mae’n rhaid cyfaddef fod y ffigwr yna yn eitha syfrdanol, a llongyfarchiadau iddyn nhw am wneud cystal. Yn sicr dyna’r app Cymraeg (yn hytrach na dysgu Cymraeg) cyntaf i gyrraedd cynulleidfa fel yna. Byddai’n ddiddorol gwybod faint ddefnyddiodd o ar y maes ei hun.
Sgwn i a fydd yna fersiwn Android y flwyddyn nesa?
Yn sicr, roedd yn app gwerth yr arian, os am y map yn unig. Roedd rhai elfennau yn ddibynnol ar gyswllt data, oedd yn amharu braidd oherwydd y diffyg oedd yna yng Nglyn Ebwy. Mae’n siwr o fod yn dipyn cryfach yn ardal Wrecsam, os nad cyswllt 3G, fydd yn gwella’r profiad.
Oes na bethau hoffech chi weld arno?
Dywedodd Ambrose Choy wrth Golwg360 eu bod nhw eisiau marchnata’r rhaglen yn well cyn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.
“Dw i’n meddwl y bydd yr Eisteddfod yn gwneud mwy fyth o waith marchnata’r flwyddyn nesaf,” meddai cyn dweud eu bod yn cyfarfod gyda threfnwyr yr ŵyl ym mis Medi er mwyn trafod y dyfodol.
Newyddion da, er beth fyddai’n fuddiol yw petai’r cyfarfod yma’n un agored (ac yn cael ei hysbysebu) gan y gall fod o ddiddordeb i ‘ddarpar-ddarparwyr’ newydd ddod i wybod pa fath o wybodaeth o flae llaw sydd gan yr Eisteddfod a allant ei ddefnyddio, ac i nodi pa wasnaaethau gallant ddarparu.
Mae ffaith bod 1,000 wedi ei lawrlwytho yn ffigwr reit uchel o’i gymharu a faint sy’n ymweld â’r ‘Steddofd ei hun.
Llongyfarchiadau iddyn nhw am do figwr fast o lawrlwyddo
mis Medi – sero sylw
http://www.bbc.co.uk/blogs/thereporters/betsanpowys/2010/09/
mis Awst – sero sylw
http://www.bbc.co.uk/blogs/thereporters/betsanpowys/2010/08/
cofnod olaf gyda sylwadau ym mis Gorffenaf
http://www.bbc.co.uk/blogs/thereporters/betsanpowys/2010/07/breezing_in.html#comments
Mae rhywun wedi troi off sylwadau mewn gwirionedd. Paratoi am system well efallai?
Bydd Angharad Mair yn hapus.
Ond mae Vaughan Roderick dal yn derbyn sylwadau.
Fawr o golled – doedd y sylwadau ddim yn adeiladuol tu hwnt (i ddwued y lleiaf)
RHyfedd hefyd, pan wnaeth y BBC newid eu system sylwadau fel bod rhaid cael cyfrif BBC cyn gadael sylw, fe gafodd y blogiau Cymraeg aros gyda’r hen sustem ble gallai unrhyw un adael sylw. ‘Sgwn i a oedd hyn yn fwriadol er meyn lleihau’r rhwystrau?
Ie.. o’n i’n meddwl fod hi’n od nad oedd y ‘criw arferol’ wedi bod yn gwneud sylwadau am S4C! Wnes i’m sylwi fod y sylwadau ffwrdd. Allwch chi wastad fynd draw i WalesOnline i weld y giwed yna wrth gwrs
esboniad
http://www.bbc.co.uk/blogs/thereporters/betsanpowys/2010/10/please_leave_your_comment.html
Betsan’s Blog – and my colleague David Cornock’s blog – have both been closed to comment for some time.
Why?
Because some of the comments didn’t really add much to a mature public debate.
Simple.
What have we done about it?
We’ve looked again at the way comments are moderated and now, we’ve reopened both blogs to comment.
Comment in your droves; comment from any and every side of any and every political divide. Tell it as it is but as you do it, stick to the House Rules.
Here they are…

Dw i’n rhedeg gwefan o’r enw Sleeveface.
Dw i’n chwilio am luniau Sleeveface gan bobol o Gymru yn enwedig ar hyn o bryd
e.e gyda:
- artistiaid Cymraeg
- artistiaid o Gymru
- unrhyw artist rhyngwladol gyda thirwedd Cymru yn y cefndir
- unrhyw artist rhyngwladol gyda dillad Cymru
- Nadolig
- Hydref
- unrhyw beth!
Unrhyw un?
Cyfeiriad ebost am luniau: submit malwen sleeveface.com
Diolch am ddarllen.
(Os wyt ti angen help gyda phroject arlein ac eisiau postio cais ar haciaith.com, mae’n hollol iawn wrth gwrs. Ti’n gallu defnyddio’r tag helpwch.)
http://www.microsoft.com/casestudies/Case_Study_Detail.aspx?CaseStudyID=4000008238
trwy hywelm / MicrosoftCE
A’i fi sy’n dwp, neu allch chi ond gweld awduron Cymraeg ar rhyngwyneb Cymraeg, a mond rhai Saesneg ar y rhyngwyneb Saesneg?
There is a plaque in the middle of the present mountains, which it misses, keep on driving past it by accident on the way to crymych
Des i ar draws http://openplaques.org/ (drwy ddarllen am Wiki Meetup Caergrawnt 9):
Mae’n rhestru placiau sydd angen lluniau ohonynt mewn mannau pennol (eg Caerdydd) a gofyn i unigolion gyfrannu, tra mae gwefan Academi eisiau i unigolion gysylltu â nhw i riportio rhai coll. DIY pob tro i mi.
Cytuno
Wrth fewngofnodi i fy nghyfrif Bloglines echnos, dyma’r neges a oedd yn fy nisgwyl i:
As you may have heard, we are sorry to share that Bloglines will officially shut down on October 1, 2010.
Dw i ddim yn cofio pryd y dechreuais ddilyn blogiau a gwefannau newyddion trwy wasanaeth Bloglines, ond fe drawsnewidioddy y ffordd y defnyddiais y we. Yn ôl Ask.com, perchnogion y gwasanaeth, newidiadau pellach ym mhatrymu defnyddiwyr y we sy’n gyfrifol am ddod a’r gwasanaeth i ben.
The Internet has undergone a major evolution. The real-time information RSS was so astute at delivering (primarily, blog feeds) is now gained through conversations, and consuming this information has become a social experience. As Steve Gillmor pointed out in TechCrunch last year , being locked in an RSS reader makes less and less sense to people as Twitter and Facebook dominate real-time information flow. Today RSS is the enabling technology – the infrastructure, the delivery system. RSS is a means to an end, not a consumer experience in and of itself. As a result, RSS aggregator usage has slowed significantly, and Bloglines isn’t the only service to feel the impact.. The writing is on the wall.
Nhw sy’n gwybod orau, yn enwedig os ydynt wedi gweld cwymp yn nefnydd y gwasanaeth, ond byddaf i’n sicr yn gweld ei golled. Mae un defnyddiwr trist yn rantio (ei geiriau hi!):
Why does every. bloody. thing have to be a social experience? I cannot go to a library or bookstore for a book anymore, it has to be for the social aspect and friendships and connecting! And, apparently, now I cannot quickly read through hundreds of blogs and newsfeeds, no, it has to be a Facebook experience.
A gallaf uniaethu gyda sylw ar y blog uchod:
I’m certainly not going to rely on my Facebook friends to send me relevant links – they mostly post funny cat pictures. Now, I love funny cat pictures, but I use my Google Reader feeds for all of my book blogging needs, plus news commentary and cooking blogs. Few other people I know have the same style of interests as me (and feel the need/inclination to share those posts), so I prefer the self-reliance of an RSS reader!
Mae Steve Boese yn nodi ei bod yn llawer rhy hawdd gwasgu’r botwm ‘aildrydar’, a bod rhai’n meddwl bod lledaenu a rhanu stori rhywsut yn bwysicach na darllen a gwerthfawrogi cofnod blog yn iawn yn y lle cyntaf.
Ask.com is making the determination (that very well may be true, it is hard to know), that simply consuming content in an RSS Reader is no longer ‘good enough‘. We have, as users, to be able to easily spread that content out across our social networks like Twitter and Facebook, and in turn, we need to be able to mine our networks to find and consume content pushed or shared by our connections. That news item, blog post, or funny video of kitty antics accrues more value to us, and to the network, the more that is is shared and circulated. I get it, in fact that is pretty obvious. I would love this post to get widely shared around the social web, passed from Tweet, to Facebook wall, to Google Buzz, and back around again in a self-sustaining frenzy of consumption.
But before any of that can happen, I need someone to actually read the post first.
Ychydig iawn dw i wedi ddefnyddio o Google Reader yn y gorffenol, a doeddwn i ddim yn ei hoffi ryw lawer, ond oes llawer o opsiynnau eraill gyda fi? Sut mae pawb arall yn darllen porthiannau RSS, neu ydych chi’n dipynnu ar bobl yn gosod dolenni ar Facebook, Twitter a Delicious?
Mwy o sgwrs ar Daflog
Mae’r potensial masnachol darllenwyr sy’n rhedeg ar y we yn wahanol i ddefnydd a galw. Esgus Ask yw e, allen nhw wedi dweud ‘dyn ni ddim wedi bod yn llwyddiannus gydag ein strategaeth am ddarllenwr RSS’.
Rhys, dylen ni cystadlu gyda Google! Efallai dechrau gyda’r meddalwedd yma, gwerthu hysbysebion neu rhywbeth.
(Arddang Tiny Tiny RSS)
Wps, methais y cofnod ar Daflog (gormod o danysgirifadau RSS i fynd drwyddynt ar Bloglines falle!!)
Baswn i’n foldon talu £5-£10 y flwyddyn am wasanaeth darllen RSS dibynadwy.
Faint fyddi di dalu am wasanaeth gyda dewis o ryngwyneb Cymraeg, gydag awgrymiadau hefyd? Jyst chwarae gyda’r syniad ar hyn o bryd.
Dw i’n disgwyl mwy o ddarllenwyr RSS yn y dyfodol, o bob math, nid llai.
e.e.
http://thenextweb.com/apps/2010/09/10/wordpress-com-launches-blog-subscriptions/
Sa’ isho sgwennu’r enw ond ond ewch i’r wefan yma (papur newydd).
Dyw “rheolaeth cymuned arlein” ddim yn dda iawn yna wrth gwrs. Maen gyda nhw system sgôr nawr fel Daily Mail.
Ond yn anffodus mae’n dibynnu ar cwcis – os ti’n dileu dy cwcis (Firefox: Teclynnau|Opsiynau||Preifatrwydd|dangos cwcis (efallai rhaid i ni newid eitem dewislen cynt)|dileu popeth dan yr enw W.O. Pleidleisa eto ac eto. Lan am sylw da, i lawr am sylw drwg. Mwynhewch.
Bydd yn ofalus, paid â sgwennu’r enw y wefan ar y we agored – achos dyn ni eisiau mwynhau’r system am fisoedd.
http://www.theyworkforyou.com/wrans/?id=2010-09-08b.11259.h&s=welsh+your+freedom#g11259.r0
Three potential options were considered for translating the content of Your Freedom in to other languages. Firstly, re-architecting the current system, so that it can handle multiple languages. This would mean that users could view a translated version of the site that would mirror the current site but would not translate any user generated content. While this was the best option in terms of giving equal experience to English and other language speakers, because it would involve significant changes to an off-the-shelf-product, the costs were prohibitive at £120, 000 (more than 37 times the cost of the original Your Freedom application).
Anhygoel.
(Cofnodion eraill am Your Freedom)
YCHWANEGOL: ro’n i’n meddwl basai cofnod yn well gyda’r diwedd:
Secondly, we looked at producing a static page to the existing site copy in other languages and a box into which comments/ideas could be entered. This would have ensured that ideas and comments of those submitting in other languages were gathered. However, the cost of this option was disproportionate at £1, 800 per language, or more than 50% the cost of the original application.
Thirdly, we considered incorporating a sentence of copy at the bottom of the home page text, linking people to a freely-available online translation tool. While cost-free, none of the tools available was judged to be sufficiently accurate.
Having considered options for translation of the content, it was decided that a better approach would be to enable users to submit ideas, which could then be. translated before passing on to officials working on processing and evaluating contributions. At the moment, this option is only available to Welsh speakers. Translation is being provided by the Wales Office.
Swnio fel fod cwmni Delib yn cymryd y pys. Mae nhw wedi defnyddio Plone i greu ‘app’ arbennigol sydd wedi cymryd tipyn o amser mae’n sicr. Mae gan Plone gefnogaeth da ar gyfer lleoleiddio, felly sut mae nhw’n cyrraedd £120k i’w addasu?
Cytuno ond mae unrhyw gwmni yn gallu. Caveat emptor. Ydy Nick Clegg a’r adran yn gallu gweld o gwbl pa mor ridiculous yw’r pris?
Oes gyda ni problem yn y DU gyda chyllideb o brojectau technoleg yn y sector cyhoeddus? Oes, dw i’n meddwl.
Dyw’r ffaith eu bod nhw wedi defnyddio Plone ddim yn golygu fod ei app nhw yn agored. Yn wir, ‘hosted app’ yw e o dan eu rheolaeth llwyr nhw. Dyna’r broblem gyda’r myth fod angen defnyddio open source er mwyn sicrhau nad yw rhywun wedi ei glymu i un cwmni. Mae nhw eisiau dweud bod nhw’n defnyddio system agored ond yn wir mae gymaint o ‘vendor lock-in’ a unrhyw beth arall.
Mae yna casgliad o gyrff cyhoeddus yn Lloegr wedi cael eu gorfodi i ddefnyddio meddalwedd ‘open source’. Ond perchnogol yw mewn gwirionedd (ond mewn LAMP felly yn agored!) a mae nhw’n talu degau o filoedd y mis am gefnogaeth y cwmni sy wedi datblygu’r meddalwedd.
Mae pobl yn meddwl eu bod nhw’n gallu arbed arian, ond mae nhw’n newid un ffordd o dalu am y llall (un cost am ddatblygu gwefan unwaith a symiau bach o arian i’w gefnogi dros y tymor hir, NEU ‘app’ sy’ wedi ei ddatblygu am un pwrpas yn unig gyda costau ychwanegol i’w roi ar weinydd, cefnogaeth technegol ayyb).
Mae cyrff cyhoeddus yn hoffi’r ail ddewis achos mae’n osgoi cyfrifoldebau mewnol i gynnal y gwasanaeth ac yn ticio blwch ‘service continuity’ .
Yn y gwaith, ni’n cyflenwi CMS perchnogol amlieithog, ond ni’n ddigon hyblyg i’w addasu neu ei ddatblygu ymhellach am bris rhad iawn. Mae hyn yn llawer mwy effeithiol na trio addasu rhyw feddalwedd monolithig ‘bant o’r silff’..
Diwedd y rant.
Pen Talar – y wici answyddogol
Ro’n i eisiau esbonio’r cefndir technolegol tu ôl PenTalarPedia (syniad gwreiddiol gan Menna):
Gwnes i ddefnyddio MediaWiki gyda croen Vector (yr un meddalwedd a chroen â Wicipedia). Mae’n ddefnyddio PHP a mySQL (fel WordPress).
Gosod: 30 munud neu llai gyda logo newydd. Dw i wedi tynnu mas ieithoedd eraill heblaw Cymraeg a Saesneg – arbed amser lanlwytho.
Angen ychydig mwy o waith SEO hefyd (e.e. mae Google yn dangos y wici ar tudalen 5 am chwiliad “Pen Talar”, dylai fe bod ar tudalen 1). Bydd teitlau bespoke yn helpu.
Tyfu’r cymuned: pwnc gwahanol. Ond dylet ti ymuno. Lot o hwyl.
Dw i’n rili hoffi MediaWiki nawr. (Dw i wedi trio MediaWiki o blaen ond mae’n teimlo rili neis nawr am ryw reswm.). Dw i eisiau symud Hedyn o DokuWiki i MediaWiki ond dw i angen Dydd Sadwrn llawn! Mae lot o ddolenni yn dybynnu arno fe, angen sgwennu 301 redirects i ddal pob dolen. Dw i’n casáu dolenni sydd wedi torri.
Gwaith da a syniad ardderchog. Gobeithio ddalith o’r dychymyg.Mae cod MediaWiki (fel cod un rhyw wiki) yn gallu bod yn ddryslyd i newbie (newyddun?) – falle ei bod yn werth gosod dolen amlwg rhywle at gyfarwyddiadau fformatio sydd ar gael ar Wicipedia?
Dw i eisiau symud Hedyn o DokuWiki i MediaWiki ond dw i angen Dydd Sadwrn llawn!
Byddwn i’n hoff o weld Hedyn yn gweithio gyda MediaWki ganmod i’n lot mwy cyfarwydd gyda’r cod ac mae’n llawer mwy hyblyg (+ galla i wedyn fynd ymlaen gyda fy syniad o gategoreiddio blogiau Cymraeg).
Mae lot o ddolenni yn dybynnu arno fe, angen sgwennu 301 redirects i ddal pob dolen.
Os ydy hyn yn golygu lot o waith ailadroddus y gall mwnci ei wneud, baswn i’n fodlon helpu rhyw bnawn Sadwrn gwlyb.
Rhys, swnio’n dda. Dylen ni trefnu dyddiad gweithdy Hedyn. Os mae unrhyw un arall eisiau helpu, gadawa sylw yma. Diolch.
PenTalarPedia – Dw i wedi trwsio’r teitlau am fwy o SEO. Mae Google yn darllen y teitlau felly dw i wedi rhoi “Pen Talar”, geiriau ar wahan ar bob tudalen.
Mae Twiki yn opsiwn arall gyda WYSIWYG, efallai mwy cyfeillgar i ddefnyddwyr. Efallai tro nesaf. CywPedia neu rywbeth.
Dwi’n nabod rhywun sydd eisiau dechrau rhywbeth wici-aidd ond sydd ddim rhy keen ar markup Wikipediaidd. A fyddai hwn yn testbed da ar gyfer Twiki?
Rydych chi’n gallu trio TWiki Sandbox.
Mae TWiki yn côd agored ond rhaid i chi cofrestru cyn i chi trio’r fersiwn ar y wefan TWiki.
http://twiki.org/cgi-bin/view/TWiki/TWikiRegistration
e.e.
http://twiki.org/cgi-bin/view/Sandbox/CarlMorrisSandbox
Pethau eraill
1. Mae llawer o declynnau gwahanol gyda TWiki tu allan y wici. Efallai dylech chi droi off popeth eraill.
2. Dyn ni angen cyfieithu TWiki hefyd!
fersiwn Almaeneg…
http://pentalarpedia.com/wici/PenTalarPedia_-_Deutsche_version
Dw i ddim wedi defnyddio “gofodau enwau” eto. Efallai yn y pen draw.
Chwarae teg i Annette, tra bod sawl person wedi cyfrannu at y fersiwn CYmraeg, hi yn unig sydd wedi ei gyfieithu i’r Almaeneg.
Falle dylid meddwl am roi dolen o bob erthygl Almaeng i’r gwreiddiol Cymraeg (a vice-versa) – jobyn i rhywun sy’n wiki obsessive
…pam bod pawb yn edrych arna i?
Dw i eisiau ychwanegu dolenni fel fersiynau gwahanol Wicipedia. Profi…
Carl Morris 2:58 PM ar 24 Medi 2010 Dolen Barhaol
Meh
Ond diolch am bostio
Rhodri ap Dyfrig 8:58 AM ar 26 Medi 2010 Dolen Barhaol
Rhan fwyaf wnaeth ymateb ar Twitter, wedi dweud na fasen nhw. Ond ambell un wedi dweud y bydden nhw’n talu am app neu fersiwn iPad.
Yn bersonol, dwi’n credu bydai’n gyfle da i Golwg360 godi eu gêm o ran newyddiaduraeth, ond bydde’r BBC yn siwr o ddwyn llawer o’r traffig. Byddai’n ergyd i blwralieth newyddion yn sicr, achos does dim amheuaeth y byddai y niferoedd darllen yn disgyn.