Hacio’r Iaith 2
Mae hi’n teimlo fel amser maith ers cynhaliwyd y digwyddiad Hacio’r Iaith 1af rwan, felly mae’n amser dechrau bwrw iddi i drefnu’r ail un. Dwi’n credu bod yr ymateb wedi bod cystal i’r un gyntaf y bydd yr ail hyd yn oed yn well.
O sgwrs ddechreuol gyda ambell berson y consensws ydi y dylen ni ei gynnal tua’r un amser a llynedd, sef diwedd Ionawr, a defnyddio’r un cyfleusterau hefyd gan eu bod yn hawdd i’w cael ac yn bosib eu cael am ddim. Dwi’n credu bod digon o le i ni dyfu a gwella yn y gofod oedd ganddon ni, ac efallai byddai defnydd o un stwidio fawr yn bosib ar gyfer cael pawb at eu gilydd gyda ychydig o drefnu o flaen llaw.
Mi fydd yna dudalen Wiki newydd ar gyfer y digwyddiad ar Hedyn cyn bo hir fel y gallwn ni drafod y manylion yn agored, ond cyn bod hynny’n digwydd oes yna syniadau pendant ganddoch chi ar gyfer yr ail un a beth ddylen ni drio ei wneud?
Mi gasgla i’r holl atebion (dwi wedi rhoi’r ebost hwn yn Bcc rhag ofn bod pobol ddim isio cyhoeddi eu ebost i bawb). Bydd yn fan dechrau da ar gyfer trafod ar y wici.
Mae rhai syniadau pendant ganddon ni ar sut i’w wella, ond hoffwn i glywed ganddoch chi yn gyntaf. Be da chi’n feddwl?
Hwyl am y tro
Rhods

Carl Morris 11:34 AM on 30 Medi 2010 Permalink
Dyn ni’n newid Hedyn felly nai postio rhywbeth yma pan fydd y tudalen yn barod.
Dw i’n hoffi Aberystwyth fel lleoliad.
Hoffwn i weld sesiwn am fideo arlein Rhodri. Efallai 2 peth. Beth wyt ti’n dysgu trwy fideobobdydd? Sut ydw i’n gallu creu fideos da gyda Flipcam? Tips sylfaenol.
Hefyd efallai sesiwn gan Rhys Wynne am Wicipedia Cymraeg – mwy am y broject, ond golygu hefyd.
(Dw i wedi enwi y dau ohonoch chi achos dych chi’n dod a dych chi’n iawn gyda fe!)
Yn gyffredinol dw i eisiau mwy o sesiynau ymarferol – sut i wneud podlediad, cerddoriaeth (gan cerddor). Technoleg yn y “byd go iawn”. Dyn ni’n disgwyl mwy o bobol sy’n defnyddio technoleg fel ‘na – gobeithio.
Sgwrs am bapurau bro arlein? Dylen ni meddwl am fformatau sy’n gweithio arlein.
Dw i eisiau gweld sesiwn gan Elin Haf Gruffydd Jones hefyd – unrhyw beth.
Enw
Dyn ni wedi cael 6 Hacio’r Iaith Bach o leia ers Hacio’r Iaith Mawr cyntaf yn Aberystwyth (mis Ionawr eleni!). Dylen ni meddwl am y ffordd gorau i hyrwyddo hwn ac i annog/helpu pobol i drefnu “cyfarfodydd” lleol (gyda’r enw Hacio’r Iaith neu unrhyw enw arall).
Iwan Davies 11:39 AM on 30 Medi 2010 Permalink
Shwmae pawb! Rwy’n gwethio i Telemat (Antur Teifi) nawr a rydym gyda diddordeb yn Hacio Iaith. Fel cwmni ni yn neud IT B2B a rhai B2C mewn Cymraeg. Hefyd ni yn gallu cyflenwi broadband 3G, 4G a Satellite yng Nghymru. Basically ni yn neud bron a fod popeth… Edrych mlaen at y Hacio’r iaith nesa
Rhodri ap Dyfrig 12:05 PM on 30 Medi 2010 Permalink
Yn sicr, hoffwn i weld cynhyrchwyr cynnwys Cymraeg ar-lein yn dod y tro hwn: pobol fideo, cerddoriaeth, blogio, delweddau.
Mae angen hefyd trefnu rhaio o’r sesiynau o flaen llaw – gan gadw nifer o slots ar gyfer unrhywun sydd eisiau cyflwyno ar y dydd. Efallai 50/50. Roedd y system Open Grid chydig yn rhy freeform efallai.
Rhys Wynne 12:38 PM on 30 Medi 2010 Permalink
Maen ahebygol y bydda i yna yn anffodus gan bydd babi mis oed gyda fi gobeithio erbyn hynny.
Mae un neu ddau myfyriwr yn Aber wedi bod yn cyfrannu tipyn at y Wiicipedia’n ddiweddar, efallai gallaf eu hannog nhw i roi sesiwn.
Marc Thomas 6:38 PM on 30 Medi 2010 Permalink
Hoffe ni ddod i roi cyflwyniad ar safle we Cymraeg newydd Lleol.net, fedrai rhoi cyflwyniad yn son am hanes y wefan, syniadau a’r dyfodol.
Hywel M 10:39 PM on 30 Medi 2010 Permalink
Gobeithio y gallaf ddod. O ran dysgu, byddwn yn hoffi gweld sesiynau ymarferol, e.e. ar Google App Inventor ar gyfer Android neu Fusion Tables (http://code.google.com/intl/cy-GB/apis/fusiontables/). Oes arbennigwr Cymraeg ar y rheini yn rhywle tybed? O ran cyfrannu, mae gen i fymryn o brofiad yn defnyddio Yahoo Pipes, Google Refine a ScraperWiki ymhlith pethau eraill a phe bai diddordeb hwyrach y gallwn arwain sesiwn neu roi cyflwyniad o ryw fath.
Mei 11:10 AM on 1 Hydref 2010 Permalink
Dwi’n gobeithio dod. Dwi’n cynnig rhoi ‘workshop’ ar WordPress dwyieithog. Os oes digon o alw, nai ddechra paratoi rwbath.
Rhys Wynne – mae gen i dri! Dim esgus…
Rhys Wynne 7:38 AM on 5 Hydref 2010 Permalink
Mae’r uchod yn swnio’n rhy ddiddorol i’w fethu, felly caiff y babi fwydo a newid ei glwt ei hun.
Beth am neilltuo slot awr ar gyfer cyflwyniadau mini – slotiau ‘Dw i’n CAOLN….’ lle mae gan rhwyun 10 munud i ddweud pam eu bod yn caru gwasanaeth, gwefan, app neu darn o kit arbennig. Baswn i’n gwenud un am delicious.com
Carl Morris 12:13 PM on 7 Hydref 2010 Permalink
Dw i’n CAOLN Anologue
Nici Beech 8:36 PM on 7 Hydref 2010 Permalink
Oes na ddyddiad pendant dan sylw? Faswn i wrth fy modd yn dod tro ma
Carl Morris 10:12 PM on 7 Hydref 2010 Permalink
Nici, dyn ni’n meddwl am ddiwedd mis Ionawr 2011.
Efallai Dydd Gwener a Dydd Sadwrn gyda’n gilydd.
Carl Morris 6:41 AM on 9 Hydref 2010 Permalink
Newydd trwsio sylw Rhys.
Rhodri ap Dyfrig 10:05 AM on 11 Hydref 2010 Permalink
Diolch i bawb am eich sylwadau, dyma rai dwi wedi eu derbyn drwy ebost:
– creu gwefannau dwyieithog gyda CMSs cod agored fel WordPress, Drupal, ayb
trafod technoleg yng nghyd-destun yr amgylchedd a newid hinsawdd
Bydd pob syniad roddir yma yn cael ei drosglwyddo i’r Wici.
Oes na awch mewn gwneud rhan ohono fel BarCamp go iawn, sef dros nos?
Carl Morris 8:21 PM on 11 Hydref 2010 Permalink
DROS NOS!!!
Oes.
Gyda darn yn ystod y dydd hefyd.
Sioned 1:16 PM on 19 Hydref 2010 Permalink
Hia bawb – ddim lot i’w gynnig o ran gwneud cyflwyniadau ac ati, ond yn sicr o fod eisiau dod flwyddyn nesa’ – am gadw golwg yma ac ar y wiki wrth fynd mlaen.
Gareth Jones 4:06 PM on 17 Rhagfyr 2010 Permalink
App ar gyfer Haciaith ar gael nawr http://stwnsh.com/happiaith