“Dwi’n mynd o iSteddfod i iSteddfod…”

Mae Golwg360 yn adrodd bod Ambrose ac Edryd yn awyddus iawn i ddatblygu yr app iSteddfod, a bod dros 1,000 o bobol wedi ei lawrlwytho.

Mae’n rhaid cyfaddef fod y ffigwr yna yn eitha syfrdanol, a llongyfarchiadau iddyn nhw am wneud cystal. Yn sicr dyna’r app Cymraeg (yn hytrach na dysgu Cymraeg) cyntaf i gyrraedd cynulleidfa fel yna. Byddai’n ddiddorol gwybod faint ddefnyddiodd o ar y maes ei hun.

Sgwn i a fydd yna fersiwn Android y flwyddyn nesa?

Yn sicr, roedd yn app gwerth yr arian, os am y map yn unig. Roedd rhai elfennau yn ddibynnol ar gyswllt data, oedd yn amharu braidd oherwydd y diffyg oedd yna yng Nglyn Ebwy. Mae’n siwr o fod yn dipyn cryfach yn ardal Wrecsam, os nad cyswllt 3G, fydd yn gwella’r profiad.

Oes na bethau hoffech chi weld arno?