Llywodraeth Cymru v Facebook

Llywodraeth Cymru v Facebook a phlatfformau rhwydwaith cymdeithasol

The Welsh Assembly Government employs filtering software on its ICT systems which actively block any attempt to access web-sites categorised as inappropriate. Social Networking sites are captured by this software, and as a result there have been no incidents of staff accessing any of the sites you name.

Oh da iawn.

Heblaw ffonau poced ac Ubuntu ar co’bach.

Fy prif bwynt: os wyt ti erioed wedi meddwl pam bod cyfathrebu arlein y Llywodraeth yn wael, dyna’r ateb.

Dyw’r staff ddim yn gallu cael mynediad i declynnau cyfathrebu achos mae’r Llywodraeth yn meddwl bod nhw yn fabanod.

Datganiad: dw i wedi gwneud gwaith i’r Llywodraeth Cymru fel ymgynghorydd ond dw i’n hapus i siarad am eu methiannau nhw i ddatblygu’r defnydd arlein yng Nghymru (ond allen nhw ymweld haciaith.com o gwbl?).

Testun o gais FOI

http://wales.gov.uk/publications/accessinfo/disclosurelogs/dlgov2010/2010/dlgov64/?skip=1&lang=cy

(Dim fersiwn Cymraeg ar gael ar hyn o bryd yn anffodus.)