blog Llyfrgell Genedlaethol… ar Blogspot
Dw i newydd wedi ffeindio’r blog Llyfrgell Genedlaethol… ar Blogspot.
Beth ydyn ni’n meddwl? Mae’n well na dim byd. OND dw i’n meddwl bod sefydliad mawr yn gallu rhedeg blog eu hun ar enw parth eu hun. Dyn ni’n siarad am y Llyfrgell GENEDLAETHOL yma.
Dw i ddim yn gallu ffeindio dolen i’r blog o’r brif wefan. (Wyt ti’n gallu?)
http://www.llgc.org.uk/index.php?id=2&L=1
Ond dw i newydd wedi ffeindio blogiau British Library hefyd am gymhariaeth.
Maen nhw yn defnyddio… Typepad!


Rhodri ap Dyfrig 12:45 PM ar 1 Medi 2010 Dolen Barhaol
Ma blog yr Archif Sgrin a Sain yn defnyddio WordPress: http://blog.archif.com/?L=1
Gwd blog, ac mae’n defnyddio system ddywieithog ar yr un gosodiad WP. Dwi’n credu wnaethon nhw addasu fo’n benodol ar gyfer y blog yma.