newid Yahoo Pipes i Python
defnyddiol
http://blog.ouseful.info/2010/09/30/yahoo-pipes-code-generator/
defnyddiol
http://blog.ouseful.info/2010/09/30/yahoo-pipes-code-generator/
Mae hi’n teimlo fel amser maith ers cynhaliwyd y digwyddiad Hacio’r Iaith 1af rwan, felly mae’n amser dechrau bwrw iddi i drefnu’r ail un. Dwi’n credu bod yr ymateb wedi bod cystal i’r un gyntaf y bydd yr ail hyd yn oed yn well.
O sgwrs ddechreuol gyda ambell berson y consensws ydi y dylen ni ei gynnal tua’r un amser a llynedd, sef diwedd Ionawr, a defnyddio’r un cyfleusterau hefyd gan eu bod yn hawdd i’w cael ac yn bosib eu cael am ddim. Dwi’n credu bod digon o le i ni dyfu a gwella yn y gofod oedd ganddon ni, ac efallai byddai defnydd o un stwidio fawr yn bosib ar gyfer cael pawb at eu gilydd gyda ychydig o drefnu o flaen llaw.
Mi fydd yna dudalen Wiki newydd ar gyfer y digwyddiad ar Hedyn cyn bo hir fel y gallwn ni drafod y manylion yn agored, ond cyn bod hynny’n digwydd oes yna syniadau pendant ganddoch chi ar gyfer yr ail un a beth ddylen ni drio ei wneud?
Mi gasgla i’r holl atebion (dwi wedi rhoi’r ebost hwn yn Bcc rhag ofn bod pobol ddim isio cyhoeddi eu ebost i bawb). Bydd yn fan dechrau da ar gyfer trafod ar y wici.
Mae rhai syniadau pendant ganddon ni ar sut i’w wella, ond hoffwn i glywed ganddoch chi yn gyntaf. Be da chi’n feddwl?
Hwyl am y tro
Rhods
Soniais am Freebase Gridworks pan ysgrifennais am OpenTech 2010. Roedd sôn bryd hynny bod Google yn mynd i’w ail-enwi a nawr maen nhw wedi gwneud: mae Google Refine yw e nawr. Rwyf wedi bod yn ei ddefnyddio am y tro cyntaf yr wythnos hon ac, fel roeddwn wedi disgwyl, mae’n declyn defnyddiol iawn i rywun sy’n gorfod glanhau data.
Wrth lanhau rwy’n golygu sicrhau bod y data wedi fformatio’n gyson, geiriau wedi eu sillafu’n gyson ac yn y blaen. Er y gellir glanhau data mewn taenlen trwy “Ffeindio a disodli” drosodd a throsodd, mae Gridworks yn gwneud y broses lawer yn haws. Ei brif nodwedd efallai yw ei ddefnydd o beth mae’n ei alw’n “agweddau” [facets]. Wrth edrych ar golofn a defnyddio “agwedd testun”, er enghraifft, ceir crynodeb o’r golofn ar ffurf crynodeb amlder. Efallai y bydd yn dangos bod y golofn yn cynnwys 6 rhes â “Caerdydd” a 2 res â “Cardydd”. Gydag un clic, gellir eu newid i gyd i “Caerdydd”. Dydw i ddim am fanylu’n fwy. Edrycher ar y fideos sy ar y ddolen uchod i gael syniad gwell. Yn anffodus, does fawr ddim o ddogfennaeth a dydy fideos ddim yn gallu cymryd lle dogfennaeth mewn gwirionedd. Os hoffech ddarllen mwy, mae’r ddolen ganlynol yn rhoi syniad am beth mae’n gallu ei wneud: Using Freebase Gridworks to Create Linked Data
Diolch, defnyddiol. (Fydd e’n iawn gyda “Gaerdydd” a threigladau?)
Mae blog gyda Chasgliad y Werin.
http://labs.peoplescollection.co.uk
Orffennwyd? Wel, maen nhw yn siarad amdano fe ar Twitter.
Dyw’r rhyngwyneb y blog ddim ar gael yn yr ail iaith yn anffodus. (Ond mae gyda nhw “hub” ar Second Life.)
Dw i newydd ffeindio GPL 2.0 yn Gymraeg(*)
Felly dw i wedi ailgyhoeddi e.
http://hedyn.net/trwydded_gyhoeddus_gyffredinol_gnu_gpl_yn_gymraeg
Mae trwyddedau yn mor bwysig. Mae fe’n rhan o adran Hedyn newydd, Trwyddedau.
Dros rhyddid.
(*) ffeindiais i GPL Cymraeg yn yr ystorfa WordPress, diolch Iwan, pwy wnaeth e?
Dwi’n meddwl falle mai Jim Killock (Open Rights Group) wnaeth y cyfieithiad cynta?
Ah fi di weld e o gwmpas. Chwarae teg.
Ces i chwiliad bach ond mae 1 neu 2 o brojectau Cymraeg fe wedi mynd i’r dwylo sbamwyr “what you want when you want it”…
Mae Simon Dyda wedi sgwennu cofnod sydd yn edrych mewn i fyd newydd i mi:
“Rhwyd y Rhithfydoedd”: http://feldagrauynyglaw.blogspot.com/2010/09/rhwydd-y-rhithfydoedd.html
Fel un sydd erioed wedi ymweld â Second Life nac unrhyw rithfyd 3D arall, mae’n ddiddorol gweld sut mae’r pethau yma’n esblygu (neu fel arall, fel mae Simon yn nodi).
Ydi chwant i ‘ffycio afatarau’ yn gwthio technoleg 3D rithiol ymlaen yn yr un modd a gwnaeth o ar gyfer VHS?
Syniad am gofnod cyflym, pobol Wicipedia?
http://feldagrauynyglaw.blogspot.com/2010/09/wici-fi.html
Postia dolen isod os wyt ti eisiau.
Beth sy wedi digwydd fan hyn? Squatters?
Domain name:
adamprice.org.uk
Registrant:
Knowall I.T Limited
Registrant type:
UK Limited Company, (Company number: 03787958)
Registrant's address:
Roberts House
Lower Ground Floor
103 Hammersmith Road
London
W14 0QH
United Kingdom
Registrar:
Knowall I.T Limited t/a Knowall IT Ltd [Tag = KNOWALL]
URL: http://www.knowall.net/domains.htm
Relevant dates:
Registered on: 24-Feb-2010
Renewal date: 24-Feb-2012
Last updated: 25-Aug-2010
Registration status:
Registered until renewal date.
Name servers:
helios.knowall.net
heracles.knowall.net
hydra.knowall.net
WHOIS lookup made at 17:10:55 25-Sep-2010
Hen archif (mis Chwefror 2008)
http://web.archive.org/web/20080224145413/http://www.adamprice.org.uk/
Carl Morris 11:34 AM ar 30 Medi 2010 Dolen Barhaol
Dyn ni’n newid Hedyn felly nai postio rhywbeth yma pan fydd y tudalen yn barod.
Dw i’n hoffi Aberystwyth fel lleoliad.
Hoffwn i weld sesiwn am fideo arlein Rhodri. Efallai 2 peth. Beth wyt ti’n dysgu trwy fideobobdydd? Sut ydw i’n gallu creu fideos da gyda Flipcam? Tips sylfaenol.
Hefyd efallai sesiwn gan Rhys Wynne am Wicipedia Cymraeg – mwy am y broject, ond golygu hefyd.
(Dw i wedi enwi y dau ohonoch chi achos dych chi’n dod a dych chi’n iawn gyda fe!)
Yn gyffredinol dw i eisiau mwy o sesiynau ymarferol – sut i wneud podlediad, cerddoriaeth (gan cerddor). Technoleg yn y “byd go iawn”. Dyn ni’n disgwyl mwy o bobol sy’n defnyddio technoleg fel ‘na – gobeithio.
Sgwrs am bapurau bro arlein? Dylen ni meddwl am fformatau sy’n gweithio arlein.
Dw i eisiau gweld sesiwn gan Elin Haf Gruffydd Jones hefyd – unrhyw beth.
Enw
Dyn ni wedi cael 6 Hacio’r Iaith Bach o leia ers Hacio’r Iaith Mawr cyntaf yn Aberystwyth (mis Ionawr eleni!). Dylen ni meddwl am y ffordd gorau i hyrwyddo hwn ac i annog/helpu pobol i drefnu “cyfarfodydd” lleol (gyda’r enw Hacio’r Iaith neu unrhyw enw arall).
Iwan Davies 11:39 AM ar 30 Medi 2010 Dolen Barhaol
Shwmae pawb! Rwy’n gwethio i Telemat (Antur Teifi) nawr a rydym gyda diddordeb yn Hacio Iaith. Fel cwmni ni yn neud IT B2B a rhai B2C mewn Cymraeg. Hefyd ni yn gallu cyflenwi broadband 3G, 4G a Satellite yng Nghymru. Basically ni yn neud bron a fod popeth… Edrych mlaen at y Hacio’r iaith nesa
Rhodri ap Dyfrig 12:05 PM ar 30 Medi 2010 Dolen Barhaol
Yn sicr, hoffwn i weld cynhyrchwyr cynnwys Cymraeg ar-lein yn dod y tro hwn: pobol fideo, cerddoriaeth, blogio, delweddau.
Mae angen hefyd trefnu rhaio o’r sesiynau o flaen llaw – gan gadw nifer o slots ar gyfer unrhywun sydd eisiau cyflwyno ar y dydd. Efallai 50/50. Roedd y system Open Grid chydig yn rhy freeform efallai.
Rhys Wynne 12:38 PM ar 30 Medi 2010 Dolen Barhaol
Maen ahebygol y bydda i yna yn anffodus gan bydd babi mis oed gyda fi gobeithio erbyn hynny.
Mae un neu ddau myfyriwr yn Aber wedi bod yn cyfrannu tipyn at y Wiicipedia’n ddiweddar, efallai gallaf eu hannog nhw i roi sesiwn.
Marc Thomas 6:38 PM ar 30 Medi 2010 Dolen Barhaol
Hoffe ni ddod i roi cyflwyniad ar safle we Cymraeg newydd Lleol.net, fedrai rhoi cyflwyniad yn son am hanes y wefan, syniadau a’r dyfodol.
Hywel M 10:39 PM ar 30 Medi 2010 Dolen Barhaol
Gobeithio y gallaf ddod. O ran dysgu, byddwn yn hoffi gweld sesiynau ymarferol, e.e. ar Google App Inventor ar gyfer Android neu Fusion Tables (http://code.google.com/intl/cy-GB/apis/fusiontables/). Oes arbennigwr Cymraeg ar y rheini yn rhywle tybed? O ran cyfrannu, mae gen i fymryn o brofiad yn defnyddio Yahoo Pipes, Google Refine a ScraperWiki ymhlith pethau eraill a phe bai diddordeb hwyrach y gallwn arwain sesiwn neu roi cyflwyniad o ryw fath.
Mei 11:10 AM ar 1 Hydref 2010 Dolen Barhaol
Dwi’n gobeithio dod. Dwi’n cynnig rhoi ‘workshop’ ar WordPress dwyieithog. Os oes digon o alw, nai ddechra paratoi rwbath.
Rhys Wynne – mae gen i dri! Dim esgus…
Rhys Wynne 7:38 AM ar 5 Hydref 2010 Dolen Barhaol
Mae’r uchod yn swnio’n rhy ddiddorol i’w fethu, felly caiff y babi fwydo a newid ei glwt ei hun.
Beth am neilltuo slot awr ar gyfer cyflwyniadau mini – slotiau ‘Dw i’n CAOLN….’ lle mae gan rhwyun 10 munud i ddweud pam eu bod yn caru gwasanaeth, gwefan, app neu darn o kit arbennig. Baswn i’n gwenud un am delicious.com
Carl Morris 12:13 PM ar 7 Hydref 2010 Dolen Barhaol
Dw i’n CAOLN Anologue
Nici Beech 8:36 PM ar 7 Hydref 2010 Dolen Barhaol
Oes na ddyddiad pendant dan sylw? Faswn i wrth fy modd yn dod tro ma
Carl Morris 10:12 PM ar 7 Hydref 2010 Dolen Barhaol
Nici, dyn ni’n meddwl am ddiwedd mis Ionawr 2011.
Efallai Dydd Gwener a Dydd Sadwrn gyda’n gilydd.
Carl Morris 6:41 AM ar 9 Hydref 2010 Dolen Barhaol
Newydd trwsio sylw Rhys.
Rhodri ap Dyfrig 10:05 AM ar 11 Hydref 2010 Dolen Barhaol
Diolch i bawb am eich sylwadau, dyma rai dwi wedi eu derbyn drwy ebost:
– creu gwefannau dwyieithog gyda CMSs cod agored fel WordPress, Drupal, ayb
- rhywbeth am lleol.net
- sut i greu gwefan newyddion hyperlocal Cymraeg
trafod technoleg yng nghyd-destun yr amgylchedd a newid hinsawdd
Bydd pob syniad roddir yma yn cael ei drosglwyddo i’r Wici.
Oes na awch mewn gwneud rhan ohono fel BarCamp go iawn, sef dros nos?
Carl Morris 8:21 PM ar 11 Hydref 2010 Dolen Barhaol
DROS NOS!!!
Oes.
Gyda darn yn ystod y dydd hefyd.
Sioned 1:16 PM ar 19 Hydref 2010 Dolen Barhaol
Hia bawb – ddim lot i’w gynnig o ran gwneud cyflwyniadau ac ati, ond yn sicr o fod eisiau dod flwyddyn nesa’ – am gadw golwg yma ac ar y wiki wrth fynd mlaen.
Gareth Jones 4:06 PM ar 17 Rhagfyr 2010 Dolen Barhaol
App ar gyfer Haciaith ar gael nawr http://stwnsh.com/happiaith