Updates from Awst, 2010 Toglu Trafodaethau mewn Sylwadau | Bysellau Brys
-
Carl Morris
-
Carl Morris
Bws Caerdydd a gwasanaeth dwyieithog arlein
Neu diffyg.
http://www.facebook.com/cardiffbus?v=wall&story_fbid=456408851638
-
Carl Morris
Gwerthu meddalwedd Android am arian
http://www.talkandroid.com/12009-developer-proves-that-android-is-a-lucrative-platform/
-
Carl Morris
Cysylltiadau cyhoeddus digidol Gogledd Korea
Cofnod diddorol
http://cirongruffydd.wordpress.com/2010/08/17/cysylltiadau-cyhoeddus-digidol-gogledd-korea/
-
Carl Morris
Ein Golygfa – Siarad Gyda Cyngor Cefn Gwlad Cymru @CCWTweet
Cynnwys unigryw i’r fersiwn Gymraeg. Diddorol…
http://eingolygfa.co.uk/ein-golygfa/
Gwefan WordPress hefyd wrth gwrs!
(Diolch Rhys Wynne am y dolen.)
-
Carl Morris
-
Carl Morris
Judith Kaufman: democratiaeth a’r mantais o ddwyieithrwydd
http://www.clickonwales.org/2010/08/don%E2%80%99t-get-lost-in-translation/
Un o fy hoff darnau, Y Cofnod:
Interpreting (and translation) needs to be looked at from the point of view of democracy and ownership, not only in terms of financial cost. If the suggestion to stop translating the Assembly’s Record of Proceedings last summer was acceptable to some, this shows that the close involvement of translation in improving a democratic society has not yet been understood.
-
Carl Morris
Mae YouTube wedi ychwanegu’r terfyn fideo i 15 munud
http://youtube-global.blogspot.com/2010/07/upload-limit-increases-to-15-minutes.html
-
Carl Morris
-
Carl Morris
Os wyt ti eisiau creu fideo neu erthyglau “Sut-i” yn Gymraeg fel
http://haciaith.com/2010/01/30/sesiwn-ochr-ar-greu-fideos-how-to/Basai nawr yn BERFFAITH – fideos neu erthyglau am bethau creadigol yn enwedig.
Efallai creu fersiwn Cymraeg o fideo/erthygl sy’n bodoli yn barod.
Gwnaf i sgwennu dolen i dy waith o’r wefan Pethau Bychain. Diolch!
-
-
Carl Morris
Beth yw Pethau Bychain? | Yr Addewid
Beth yw Pethau Bychain?
Beth?
Mae Pethau Bychain yn ddiwrnod i ddathlu’r iaith Gymraeg arlein ac i annog mwy o bobol i gymryd rhan yn y diwylliant Cymraeg digidol.
Pryd?
Dydd Gwener 3ydd mis Medi 2010
Pam ydyn ni’n wneud Pethau Bychain?
Rydyn ni’n or-ddibynnol ar gyfryngau wedi eu bwydo i ni yn y Gymraeg: mae’r we yn gyfle i ni furfio ein sianeli, ein gorsafoedd a’n diwylliant digidol ni ein hunain ar ein telerau ni.
Os ydyn ni am i’r Gymraeg dyfu a ffynnu yna rhai i ni greu diwylliant ar-lein Cymraeg annibynnol. Fel ddywedodd Ron Jones, pennaeth Tinopolis, yng nghylchgrawn Barn yn ddiweddar “os na fyddwn yn diogelu’r Gymraeg fel iaith ar-lein, ni all yr iaith hawlio’i lle yn y byd modern.”
Drwy wneud un o’r pethau bychain rydych yn chwarae rhan allweddol mewn llusgo’r Gymraeg mewn i’r byd digidol.
Pwy a wyr efallai taw eich pethau chi fydd yn lledu ar draws y we
Pam bod lleisiau Cymraeg ar-lein yn bwysig?
Mae’r we yn gyfrwng newydd. Mae’n bwysig iawn i weld yr iaith Gymraeg ar y teledu ac ar y radio. Mae’r un peth yn wir am y we.
Pa fath o bobol sy’n wneud pethau ar y diwrnod Pethau Bychain?
Rydyn ni eisiau gwahodd pawb sy’n gallu siarad Cymraeg neu sy’n dysgu Cymraeg, hen ac ifanc, dynion a benywod.
Does dim angen profiad o flaen llaw.
Dylen ni drio cael awduron / beirdd / pobol ffilm sydd *yn* brofiadol hefyd ddo. Does gan lawer iawn o bobol creadigol Cymraeg ddim presenodleb ar-lein. Gallan nhw jest gyhoeddi gwaith maen nhw wedi ei wneud eisoes ar y we.
Beth yw’r tag?
pethaubychain yw’r tag – am wasanaethau gyda tagiau. Bydd e’n hawsa i ffeindio unrhywbeth gyda’r tag.
Flickr: pethaubychain
YouTube: pethaubychain
Twitter: #pethaubychain
blogiau: pethaubychain
ayybBeth nesaf?
Mae gyda ni Addewid.
A phaid anghofio Dydd Gwener 3ydd mis Medi 2010!
Yr Addewid
“Dwi’n gwneud addewid i greu un peth bach arlein yn y Gymraeg ar Dydd Gwener 3ydd mis Medi 2010. Gall y peth bach fod yn greu:
- cofnod blog
- fideo
- darn o gerddoriaeth
- podlediad
- tudalen ar Wicipedia
- ffansin cerddoriaeth
- nonsens Photoshop
- comic gwe
- remix
- stwnsh fideo
- erthgyl academaidd
- blog newyddion lleol
- rhoi eich papur bro arlein
- adolygiad ffilm
- trosleisio/isdeitlo ffilm
- sgetsh gomedi
- drama Twitter
- e-farddoniaeth
- defnydd creadigol o fapiau Google
- creu tudalen we o gwmpas eich hobi / cymdeithas
- neu rhywbeth arall…
Yr unig beth rydyn ni’n gofyn ydi ei fod yn Gymraeg a’i fod am rywbeth sy’n cyffroi neu gorddi chi.”
“Bwriad y prosiect ydi cael mwy o bobol yn creu stwff difyr ar-lein a chynyddu’r gymuned Gymraeg ar y we. Drwy wneud un peth bach gallwch chi gyfrannu tuag at wneud y Gymraeg yn iaith fyw ar y we. Byddwch hefyd yn cael cynulleidfa fwy i’ch gwaith gan y bydd popeth yn cael ei dangos ar pethaubychain.com.”
-
Rhys Wynne
Os ydyn ni am i’r Gymraeg dyfu a ffynnu yna rhai i ni greu diwylliant ar-lein Cymraeg annibynnol. Fel ddywedodd Ron Jones, pennaeth Tinopolis, yng nghylchgrawn Barn yn ddiweddar “os na fyddwn yn diogelu’r Gymraeg fel iaith ar-lein, ni all yr iaith hawlio’i lle yn y byd modern.”
Roedd erthygl dda gan Rhys Mwyn yn y Daily Post yr wythnos hon (11.8.10) o dan y teitl ‘Fydd y chwyldro ddim ar y teledu gyfaill, ar eich cyfrfiadur fydd o’. Mae’r erthygl yn sôn am sut mae’r teledu’n gyfrwng llai a llai pwysig a sut mae yna fideos unigol ar YouTube sydd wedi cael mwy o wylwyr na mae S4C yn dderbyn mewn blwyddyn. Byddai wedi bod yn erthygl dda i roi dolen ati o flog Pethau Bychain, ond yn eironig, dyw hi ddim ar gael ar-lein! (Mae’r Daily Post wedi stopio gosod cynnwys ei cholofnau Cymraeg ar-lein ers dros flwddyn am ryw reswm).
-
Carl Morris
Diddorol.
Fydd y chwyldro ddim ar y teledu gyfaill, ar eich cyfrifiadur fydd o (gan Rhys Mwyn)
http://www.thefreelibrary.com/Fydd+y+chwyldro+ddim+ar+y+teledu+gyfaill,+ar+eich+cyfrifiadur+fydd+o.-a0234113052


Carl Morris 6:29 PM ar 15 Awst 2010 Dolen Barhaol
Pwy fydd yr un cyntaf yn Gymraeg?!