Hacio’r Iaith Bach – Gweithdy WordPress, Caerdydd

Hacio’r Iaith Bach – Gweithdy WordPress
Nos Fawrth 31ain mis Awst 2010
7:00PM tan hwyr
Prif bar, Chapter
Market Road
Treganna
Caerdydd
CF5 1QE
#haciaith
haciaith.com
wifi ar gael
Dw i wedi bod yn siarad gyda Rhys Wynne am WordPress. Dyn ni’n edrych at WordPress yn Chapter, Caerdydd mis yma. Ro’n i’n meddwl dylen ni agor y sesh.
Dere draw os wyt ti eisiau gwybod am WordPress, sut i adeiladu gwefan dy hun (fel haciaith.com neu quixoticquisling.com ayyb), sut i ddefnyddio FTP, sut i ychwanegu themau ac ategion.
Efallai byddi di’n dysgu rhywbeth. Does dim angen unrhyw brofiad gwefannau, mySQL, FTP neu WordPress o flaen llaw, na chyfrifiaduron chwaith.
Croeso i bawb.


Sioned 9:16 AM ar 27 Awst 2010 Dolen Barhaol
Www, swnio’n ddiddorol iawn guys – gobeithio dod draw os allai!
Hywel 10:19 PM ar 30 Awst 2010 Dolen Barhaol
Briaidd yn fyr rhybudd i mi mae arnaf ofn. Dydw i ddim yn meddwl y byddaf yn gallu dod.
Rhys 1:53 PM ar 31 Awst 2010 Dolen Barhaol
Bydda i a Mal yna hefyd.
Carl Morris 11:11 AM ar 1 Medi 2010 Dolen Barhaol
Diolch i bawb am ddod.
Llun gan @malpate
http://tweetphoto.com/42553778
Hywel, roedd e’n fyr rhybudd ond ro’n i eisiau agor ein sesh i bobol eraill. Efallai gwnaf i ddigwyddiad arall yn y dyfodol.
Cam cyntaf gyda WordPress | Gwenu Dan Fysiau 1:12 PM ar 3 Medi 2010 Dolen Barhaol
[...] ati i greu blog/gwefan yn defnyddio’r meddalwedd cod-agored WordPress. Dyma ffrwyth ein noson yn Chapter. Y gobaith ydy mudo cynnwys Gwenu Dan Fysiau ar Blogger yma, ond yn y cyfamser, dw i am roi [...]