Hacio’r Iaith Bach – Gweithdy WordPress, Caerdydd

Canolfan Chapter

Hacio’r Iaith Bach – Gweithdy WordPress
Nos Fawrth 31ain mis Awst 2010
7:00PM tan hwyr

Prif bar, Chapter
Market Road
Treganna
Caerdydd
CF5 1QE

#haciaith
haciaith.cymru

wifi ar gael

Dw i wedi bod yn siarad gyda Rhys Wynne am WordPress. Dyn ni’n edrych at WordPress yn Chapter, Caerdydd mis yma. Ro’n i’n meddwl dylen ni agor y sesh.

Dere draw os wyt ti eisiau gwybod am WordPress, sut i adeiladu gwefan dy hun (fel haciaith.cymru neu quixoticquisling.com ayyb), sut i ddefnyddio FTP, sut i ychwanegu themau ac ategion.

Efallai byddi di’n dysgu rhywbeth. Does dim angen unrhyw brofiad gwefannau, mySQL, FTP neu WordPress o flaen llaw, na chyfrifiaduron chwaith.

Croeso i bawb.

5 sylw

  1. Briaidd yn fyr rhybudd i mi mae arnaf ofn. Dydw i ddim yn meddwl y byddaf yn gallu dod.

Mae'r sylwadau wedi cau.