Beth yw Pethau Bychain? | Yr Addewid

Beth yw Pethau Bychain?

Beth?

Mae Pethau Bychain yn ddiwrnod i ddathlu’r iaith Gymraeg arlein ac i annog mwy o bobol i gymryd rhan yn y diwylliant Cymraeg digidol.

Pryd?

Dydd Gwener 3ydd mis Medi 2010

Pam ydyn ni’n wneud Pethau Bychain?

Rydyn ni’n or-ddibynnol ar gyfryngau wedi eu bwydo i ni yn y Gymraeg: mae’r we yn gyfle i ni furfio ein sianeli, ein gorsafoedd a’n diwylliant digidol ni ein hunain ar ein telerau ni.

Os ydyn ni am i’r Gymraeg dyfu a ffynnu yna rhai i ni greu diwylliant ar-lein Cymraeg annibynnol. Fel ddywedodd Ron Jones, pennaeth Tinopolis, yng nghylchgrawn Barn yn ddiweddar “os na fyddwn yn diogelu’r Gymraeg fel iaith ar-lein, ni all yr iaith hawlio’i lle yn y byd modern.”

Drwy wneud un o’r pethau bychain rydych yn chwarae rhan allweddol mewn llusgo’r Gymraeg mewn i’r byd digidol.

Pwy a wyr efallai taw eich pethau chi fydd yn lledu ar draws y we

Pam bod lleisiau Cymraeg ar-lein yn bwysig?

Mae’r we yn gyfrwng newydd. Mae’n bwysig iawn i weld yr iaith Gymraeg ar y teledu ac ar y radio. Mae’r un peth yn wir am y we.

Pa fath o bobol sy’n wneud pethau ar y diwrnod Pethau Bychain?

Rydyn ni eisiau gwahodd pawb sy’n gallu siarad Cymraeg neu sy’n dysgu Cymraeg, hen ac ifanc, dynion a benywod.

Does dim angen profiad o flaen llaw.

Dylen ni drio cael awduron / beirdd / pobol ffilm sydd *yn* brofiadol hefyd ddo. Does gan lawer iawn o bobol creadigol Cymraeg ddim presenodleb ar-lein. Gallan nhw jest gyhoeddi gwaith maen nhw wedi ei wneud eisoes ar y we.

Beth yw’r tag?

pethaubychain yw’r tag – am wasanaethau gyda tagiau. Bydd e’n hawsa i ffeindio unrhywbeth gyda’r tag.

Flickr: pethaubychain
YouTube: pethaubychain
Twitter: #pethaubychain
blogiau: pethaubychain
ayyb

Beth nesaf?

Mae gyda ni Addewid.

A phaid anghofio Dydd Gwener 3ydd mis Medi 2010!

Yr Addewid

“Dwi’n gwneud addewid i greu un peth bach arlein yn y Gymraeg ar Dydd Gwener 3ydd mis Medi 2010. Gall y peth bach fod yn greu:

  • cofnod blog
  • fideo
  • darn o gerddoriaeth
  • podlediad
  • tudalen ar Wicipedia
  • ffansin cerddoriaeth
  • nonsens Photoshop
  • comic gwe
  • remix
  • stwnsh fideo
  • erthgyl academaidd
  • blog newyddion lleol
  • rhoi eich papur bro arlein
  • adolygiad ffilm
  • trosleisio/isdeitlo ffilm
  • sgetsh gomedi
  • drama Twitter
  • e-farddoniaeth
  • defnydd creadigol o fapiau Google
  • creu tudalen we o gwmpas eich hobi / cymdeithas
  • neu rhywbeth arall…

Yr unig beth rydyn ni’n gofyn ydi ei fod yn Gymraeg a’i fod am rywbeth sy’n cyffroi neu gorddi chi.”

“Bwriad y prosiect ydi cael mwy o bobol yn creu stwff difyr ar-lein a chynyddu’r gymuned Gymraeg ar y we. Drwy wneud un peth bach gallwch chi gyfrannu tuag at wneud y Gymraeg yn iaith fyw ar y we. Byddwch hefyd yn cael cynulleidfa fwy i’ch gwaith gan y bydd popeth yn cael ei dangos ar pethaubychain.com.”

3 sylw

  1. Os ydyn ni am i’r Gymraeg dyfu a ffynnu yna rhai i ni greu diwylliant ar-lein Cymraeg annibynnol. Fel ddywedodd Ron Jones, pennaeth Tinopolis, yng nghylchgrawn Barn yn ddiweddar “os na fyddwn yn diogelu’r Gymraeg fel iaith ar-lein, ni all yr iaith hawlio’i lle yn y byd modern.”

    Roedd erthygl dda gan Rhys Mwyn yn y Daily Post yr wythnos hon (11.8.10) o dan y teitl ‘Fydd y chwyldro ddim ar y teledu gyfaill, ar eich cyfrfiadur fydd o’. Mae’r erthygl yn sôn am sut mae’r teledu’n gyfrwng llai a llai pwysig a sut mae yna fideos unigol ar YouTube sydd wedi cael mwy o wylwyr na mae S4C yn dderbyn mewn blwyddyn. Byddai wedi bod yn erthygl dda i roi dolen ati o flog Pethau Bychain, ond yn eironig, dyw hi ddim ar gael ar-lein! (Mae’r Daily Post wedi stopio gosod cynnwys ei cholofnau Cymraeg ar-lein ers dros flwddyn am ryw reswm).

Mae'r sylwadau wedi cau.