RNIB a llais synthetig Cymraeg ar gyfer pobol dall
Es i i lansiad llais synthetig am bobol dall ar y maes Dydd Mercher.
Siaradodd rhywun o RNIB, yr awdur Catrin Dafydd a Leighton Andrews AC.
Ac wrth gwrs, y llais synthetig!
Mae fe’n defnyddiol iawn am wefannau, llyfrau ayyb.
Ond dw i ddim yn gallu ffeindio unrhyw beth amdano fe arlein yn anffodus! Does dim manylion gyda fi nawr.
Anfonodd Golwg newyddiadurwr felly maen nhw yn cyhoeddi rhywbeth llawn gobeithio.


Hywel 11:53 AM ar 6 Awst 2010 Dolen Barhaol
Hoffwn clywed sais synthetig sydd un tebyg i Gerallt Lloyd Owen!
Dafydd Tomos 6:12 PM ar 6 Awst 2010 Dolen Barhaol
Wnes i ddarllen y newyddion ar wefan yr RNIB ychydig ddyddiau nôl ond doedd dim sôn am le i gael y meddalwedd.
Nawr mae gwefan y cwmni Ivo yn cynnwys eitem newyddion am y ‘Welch’ voice (dyna ddechrau da iddyn nhw yn y farchnad Gymreig) ond does dal dim gwybodaeth am sut i gael y llais!
Dafydd Tomos 10:45 AM ar 3 Rhagfyr 2010 Dolen Barhaol
Mae’r stori yma yn parhau i fod yn ryw nofelti sy’n cael ei ail-gyflwyno bob hyn a hyn. Mae’r fideo yn dweud y bydd y llais ar gael yn 2011 nawr (am ddim neu mewn cynnyrch masnachol? Sneb yn dweud).
Carl Morris 12:06 AM ar 5 Rhagfyr 2010 Dolen Barhaol
Mae’r cerddorion electronica yn aros hefyd.