Bantylein – diffiniad
Mae bantylein yn cyflenwi arlein.
Bantylein – dim mynediad rhyngrwyd, heb signal, wedi cau’r gliniadur, wedi cuddio ffoniau, ayyb
Mae’r ystyr bantylein yn glir a chywir. Mae’r term yn lot well na’r ‘byd go iawn’ achos mae arlein yn rhan o’r byd go iawn (ti’n gallu torri’r gyfraith yna, prynu stwff, wneud dy fancio yna, cwrdd â chyd-weithwyr neu briod newydd). Dw i’n argymell y gair fel term swyddogol i’r gymuned Hacio’r Iaith.


Dafydd Tomos 10:38 AM ar 5 Awst 2010 Dolen Barhaol
Ddim yn hoffi’r term o gwbl, sori.
Carl Morris 2:29 PM ar 5 Awst 2010 Dolen Barhaol
Ha ha, beth wyt ti’n dweud am ‘offline’?
Dafydd Tomos 2:33 PM ar 5 Awst 2010 Dolen Barhaol
‘oddi ar lein’. Mae ‘bant’ yn ferf a felly mae ‘bantylein’ yn swnio fel ryw scymraeg i fi. Falle fod angen term arall am y byd ‘ddim ar lein’ ond alla’i ddim meddwl am ddim byd addas nawr.
Gareth 4:23 PM ar 5 Awst 2010 Dolen Barhaol
Mae’n swnio fel ‘pantyline’ – Neud fi feddwl am BodyForm…. “Wooooaaahhhhh BodyForm…..”
Melys 4:29 PM ar 5 Awst 2010 Dolen Barhaol
Alla’i weld o’n bogs Paradox “Sandra, sgen ti bantylein ga’i?”
Nic Dafis 4:31 PM ar 5 Awst 2010 Dolen Barhaol
Cigfyd? Ti yw’r ail ganlyniad Google am hwnna, Carl.
Sara 4:57 PM ar 5 Awst 2010 Dolen Barhaol
Rili ddim yn hoffi’r term, siwr gen i
bo dipyn o ferched yn teimlp run fath ond ddim isho deud, cofn neud ffys. Mae un cam i fyny o ‘zmgtamponsLOLgrooooss’ – digon o hiwmor plentynaidd a blokey ar y we Gymraeg yn barod jolch!
Be ‘ddarlein?
Sara 5:01 PM ar 5 Awst 2010 Dolen Barhaol
Sori, teipio ar ffôn bach! Be *am* ‘ddarlein!
Carl Morris 6:42 PM ar 5 Awst 2010 Dolen Barhaol
Diolch am y sylwadau. Ymddiheuriadau am unrhyw drosedd.
Gareth 7:47 PM ar 5 Awst 2010 Dolen Barhaol
Oddi ar-lein, i ffwrdd o’r we, off