Sut i dyfu rhwydwaith blog yn gyflym… a cholli e – enghraifft scienceblogs
Erthygl da iawn gyda enghraifft scienceblogs
http://blog.coturnix.org/2010/07/27/science-blogging-networks-what-why-and-how/
Erthygl da iawn gyda enghraifft scienceblogs
http://blog.coturnix.org/2010/07/27/science-blogging-networks-what-why-and-how/
Chromoscope yw gwefan sydd yn eich gadael i grwydro ein galaeth, y Llwybr Llaethog, trwy amrediad o donfeddi penodol.
Mae ar gael yn y Gymraeg. Ymddangosa’n y Gymraeg os yw iaith eich porwr wedi ei osod i’r Gymraeg, neu fedrwch ddewis iaith ar y gwefan ei hun.
Dyma brawf Google Docs OCR gyda thestun Cymraeg – prawf gan @iestynx (diolch)
llun
testun gan Google Docs OCR
https://docs.google.com/document/pub?id=1n1q2dVyKfxxw0B9GZRUHkCG7ge_sGktyN7PGmdqq2SI
mwy am Google Docs OCR
http://googlesystem.blogspot.com/2009/09/google-docs-ocr.html
Gyda llaw dyn ni’n trafod OCR Cymraeg heno ar Twitter.
Sut oedd e, pobol?

Hacio’r Iaith – Eisteddfod Genedlaethol 2010, Glyn Ebwy
Nos Fawrth 3 Awst 2010
5:00PM – 8:00PM
The Picture House
Market Street, Glyn Ebwy, NP23 6HP
Di-wifr ar gael
Dewch i siarad gyda ni am:
blogio / technoleg / y we / Cymraeg / fideo / cyfryngau newydd / pynciau amrywiol
#haciaith
haciaith.com
Mynediad am ddim. Croeso i bawb!
Wedyn… dyn ni’n gallu mynd i’r noson comedi yng Nghlwb Rygbi Glyn Ebwy.
(Mawrth 3 Awst, “Y Babell Wên”: £4
Noson Stand-yp dan ofal Elidir Jones
Noel James / Gez Couch
Iestyn Jones / DJ Hefin Jones
a gwesteion arbennig o’r byd llenyddol
ar y cyd â Tu Chwith)
Digwyddiadau Hacio’r Iaith eraill
Gyda llaw mae pobol yn cwrdd yng Nghwyl Arall, 24ain mis Gorffenaf 2010 hefyd
Nodiadau
http://www.ethanzuckerman.com/blog/2010/07/14/a-wider-world-a-wider-web-my-tedglobal-2010-talk/
Tryloywderau
Yr Athro Chris Price
Yr Adran Gyfrifiadureg, Prifysgol Aberystwyth
Dyddiad: Dydd Mawrth 27ain Gorffennaf 2010, 5.30 ar gyfer 6 yr hwyr.
Lleoliad: Canolfan Ddelweddu, Prifysgol Aberystwyth, Campws PenglaisMae model datblygu ‘apps’ a gwerthu iPhone Apple a’r App Store wedi chwildroi’r diwydiant meddalwedd symudol. Mae’n cynnig amgylchedd sydd wedi ei rheoli ar gyfer datblygiad, marchnata a gwerthiant i ddatblygwyr yr ‘apps’.
Yn y sgwrs hon, sydd wedi ei hanelu at y rhai sydd â rhywfaint o brofiad o ddatblygu meddalwedd, bydd yr Athro Price yn trafod y broses a threfn gwaith dylunio ap ar gyfer yr iPhone, yn ogystal â phrofi a gwerthu. Bydd yn galw ar ei lwyddiant ei hunan o ddatblygu ap iPhone llwyddiannus ac yn trafod rhai o’r problemau all faglu datblygwr ap dibrofiad.
Bydd y digwyddiad yn dechrau gyda chofrestru, te a bwffe ysgafn am 5.30 y prynhawn yn y Ganolfan Ddelweddu. Bydd y sgwrs yn dechrau am 6.00 ac yn cloi gyda sesiwn holi a chyfle i rwydweithio.
Trefnir y sesiwn gan yr Adran Gyfrifiadureg, fel rhan o Software Alliance Wales http://www.softwarealliancewales.com. Cysylltwch â Margaret Walker zzy@aber.ac.uk erbyn y 23ain o Orffennaf os ydych yn bwriadu mynychu er mwyn ein cynorthwyo gyda threfniadau arlwyo.
Mae Apple yn dy raglenni di.
(Diolch)
Mwynhais i WordCamp yng Nghaerdydd llynedd, wnes i golli’r digwyddiad eleni yn anffodus ond mae Puffbox wedi cyhoeddi cofnod amdano fe.
http://puffbox.com/2010/07/20/wordcamp-uk-the-camaraderie-the-controversy/
Beth WordCamp Cymraeg fel digwyddiad bach rhywbryd? Pam lai?
http://thenextweb.com/us/2010/07/15/the-deeper-issues-behind-the-wordpress-ordeal/
Os ti’n adeiladu themâu ar WordPress a dosbarthu nhw dylet ti ddefnyddio’r drwydded GPL hefyd. Darllena’r drwydded – mae’n syml!
Carl Morris 4:44 PM ar 23 Gorffennaf 2010 Dolen Barhaol
Dw i’n hapus i wneud gweithdy WordPress os mae bobol eisiau dysgu cam-wrth-gam.
“FyWordPressCyntaf.com – does dim angen profiad o flaen llaw”
Rhys 1:05 PM ar 29 Gorffennaf 2010 Dolen Barhaol
Dw i am ddod, ond bydd hi wedi 6:00 arna i’n cyrraedd. bydda i’n gwerthfgawrogi unrhyw genhadwri ar greu blog ar WordPress – dw i eisoes wedi sortio hy hosting ayyb.
Gethin 3:53 PM ar 24 Medi 2010 Dolen Barhaol
Os wyt ti eisiau hacio’r iaith, beth am sillafu Glynebwy yn gywir Carl yn lle’r cyfieithiad slafaidd o’r Saesneg.
Carl Morris 4:24 PM ar 24 Medi 2010 Dolen Barhaol
Peidiwch â gwastraffu ynni gyfaill