Doniol.
Diolch i ffrind am y dolen.
Ar http://haciaith.com dw i wedi newid yr arwyddair i “Papur rhithfro”, gobeithio mae pawb yn hoffi fe.
Enwebwch eich hunain neu eraill yma: http://walesblogawards.co.uk/
Dw i wedi gadael sylw yna:
All the best with the preparations. I have one question.
Are Welsh language blogs being considered for ALL categories here? I think they probably should be.
I could rattle off a list of good blogs based in Wales about technology, about politics, about blogs that model good writing… and so on. It would be a glorious mixture of blogs written in English language and Welsh language. So it seems odd to make a special dedicated category called “Best Welsh Language Blog”. What do you think?
Gadewais i nages yn gofyn yr un cwestiwn hefyd. Roeddwn am gynnig cyfieithu’r wefan hefyd, ond meddyliais bod un cwestin ynglyn a’r Gymraeg yn ddigon am un diwrnod!
Mae’n edrych yn dda, ond mae bach o bryder gyda fi ei fod e’n cael ei drefnu gan bobl dw i erioed wedi clywed/gweld dim byd ganddynt yn y ‘blogfyd’ o’r blaen – nid bod hynny ynddo’i hun yn reswm i beidio ei gefnogi wrth gwrs. Hefyd, at beth mae arian y noddwyr yn mynd – at gynnal parti gwobrwyo gyda chwrw am ddim, neu i bocedi’r trefnwyr?
Yn gywr,
Sinig
Na, dylet ti cynnig i gyfieithu ar yr un pryd!
Metastwnsh am #1 tech!
Un pwrpas yn unig sydd i nosweithiau gwobrwyo. Gwneud arian i’r trefnwyr a chyfle i’r noddwyr hyrwyddo eu hunain. Grwp bychan o bobl hunan-etholedig yn gwneud eu hunain teimlo’n bwysig (ie dwi’n sinig achos dwi wedi gweld gormod o’r math yma o wobrau dros tua 14 mlynedd yn myd y cyfryngau newydd).
Gwir ond maen nhw yn gallu tyfu y sîn neu y marchnad i bawb yn fy marn i.
Ma’n bolycs llwyr dweud taw nhw ydi’r gwobrau blogio cynta. Dwi di gweld dau neu dri yn mynd a dod.
Fasa’n eitha neis cael bach o sudd dolenni allan ohonyn nhw cofia…
Ble mae nhw’n honni taw nhw yw’r cyntaf?
Dwedon nhw’r un peth am eu digwyddiad. Ymatebais i’r un peth.
http://yourcardiff.walesonline.co.uk/2010/02/17/come-to-the-first-ever-cardiff-bloggers-meet-up/#IDComment58141498
Os ti eisiau adeiladu cymuned paid â dweud “dyn ni’n gyntaf” yma!
Ond dw i’n croesawi unrhyw fenter fel hyn os mae pobol eisiau wneud e.
Mae’n dweud yn fama: http://www.guardian.co.uk/cardiff/2010/jun/03/wales-blog-awards-celebrate-welsh-blogosphere
Dwinna’n croesawu nhw hefyd. Unrhyw sylw allwn ni gael ar gyfer blogiau Cymraeg yn beth da.
Dw i ddim yn gwybod as mai melltith arall GoogleTranslate sy’n achosi hyn, ond yn ddiweddar wrth wneud chwiliadau am eiriau Cymraeg, dw i’n cael rhai canlyniadau digon anarferol, rhai yn ddigon anymunol.
Weithiau, wrth chilio am bethau Cymraeg, mae’n fendith bod cynlleied o gynnwys Cymraeg ar-lein ac os yw’r wybodaeth chi eisiau ar gael mae i’w gael ymysg llond dwrn o ganlyniadau – yr unig adeg pan nad yw hyn yn wir yw pan fydd gan air Cymraeg hyfyd ystyr gwahanol mewn iaith arall (alla i ddim meddwl ma enghriafft wrth sgwennu hwn).
Ta waeth, heddiw, chwiliais am treilars, cefn gwlad (peidiwch gofyn pam), a dyma un o’r canlyniadau
ANADDAS I’R GWEITHLE
http://www.sadistic.pl/cy/wiejskie-wesele-vt32239.htm
Falle sylwch o’r URL y lythrennau ‘cy’ yn dynodi fersiwn Cymraeg, dychmyga i fod cyfieithiad o’r wefan yma ar gael mewn sawl iaith arall.
Ar fwy nag un achlysur, dw i wedi bod yn cael canlyniadau tebyg ar gyfer gwefan Islamaidd.
Falle bod hwn yn swnio’n gwestiwn twp, ond ydy’r tudalennau a’r cynnwys yma’n bodoli’n barod, neu ydyn nhw jyst yn ymddangos yn awtomatig bron wrth i mi greu chwiliad Google ac yna clicio arnynt – ydy fy nghwestiwn yn gwneud sens?
Ydi, mae’n gwneud synnwyr.
Chwiliais am sawl beth yn ddiweddar, gyda chanlyniadau cymysg o’r Gymraeg a’r Saesneg yn ymddangos a wefannau trafod gyda ‘/cy/’ yn y cyfeiriad. Dwi’n meddwl fod Google Translate yn gyfrifol a hyd yn oed pecynnau iaith meddalwedd negesfyrddau. Bosib bod Google bellach yn darllen iaith y porwr ac yn arddangos canlyniadau sy’n berthnasol i’r iaith.
Bosib bod Google Translate wedi galluogi rhai datblygwyr meddalwedd i ‘ddatblygu’ pecynnau iaith i’w hunain.
Gweler: http://www.google.com/search?client=safari&rls=en&q=hacio+sony+ericsson&ie=UTF-8&oe=UTF-8
Chwiliad Google am “hacio sony ericsson”.
Nes i boeni pan welais i dy deitl, chwarae teg.
Dwi’n meddwl bod hwnna’n enill y wobr am y teitl mwyaf epic gan flog Cymraeg eleni. Efallai yn hanes blogiau Cymru.
Oedd y ddelwedd y Dai yn brwydro’r infidel yn Łódź wedi’i arfogi gyda dim byd ond arseless chaps PVC a bullwhip yn un rhy dda o lawer.
Dw i ddim yn siwr pa un o’r tri yw’r bygythiad mwyaf i foesau/ffordd o fyw y Gorllewin.
Ie wedi sylwi ar hyn ers tipyn. Mae pawb nawr yn gallu gosod ategynnau sy’n cyfieithu eu blog/gwefannau yn awtomatig i bob iaith dan haul (neu’r ieithoedd mae Google yn gyfieithu). Mae hyn yn beryglus iawn am ei fod yn boddi gweddill cynnwys Cymraeg ‘go iawn’ sydd ar y we, a fe allai wthio cynnwys gwreiddiol allan o’r canlyniadau.
Efallai y bydd Google yn sylwi ar y broblem ac yn addasu ei algorithm fel y wnaethon nhw i’r afael a gwefannau sbam oedd yn creu cynnwys ar hap, ond dwi ddim yn gweld ei fod yn hawdd gwneud hyn.
“Mae hyn yn beryglus iawn am ei fod yn boddi gweddill cynnwys Cymraeg ‘go iawn’ sydd ar y we, a fe allai wthio cynnwys gwreiddiol allan o’r canlyniadau.“
Dyna ydy fy mhryder i.
Un arall ddois ar draws heddiw:
http://www.cesarica.net/cy/t17672/live-los-angeles-angels-cleveland-indians-live-stream-free-27-4-online-tv-mlb/

Dw i’n sicr fod ti’n nabod y stori wreiddiol.
Dw i’n gweld y stori hon yn y siart BBC yn aml iawn. Mae pobol ryngwladol DAL yn ffeindio fe nawr.
Mae e’n un o’r straeon mwyaf poblogaidd am Gymraeg arlein – erioed!
Chwilia am “swyddfa” ar Google, y cofnod Language Hat am y stori BBC yw’r canlyniad CYNTAF.
Nes i stopio chwerthin misoedd yn ôl. Ond ro’n i eisiau gofyn – ydy’r agwedd pobol a phroffil Cymraeg arlein yn bwysig i ti? Beth allan ni dysgu am farnau pobol ddi-Gymraeg arlein?
Ydy’r barnau yn y sylwadau yma yn bwysig i ti?
http://boingboing.net/2008/10/31/email-error-on-road.html
Ydyn ni’n gallu creu “cynnwys” positif am bobol tu allan y cylch? Dylen ni meddwl am ddysgwyr a phlant hefyd.
Neu ydy pethau fel hyn yn digwydd ar hap?
A’i agwedd anffodus canran sylwedol o’r boblogaeth tuag at y Gymraeg (a ieithoedd bychain eraill) ydy o neu jyst hoffter pobl o storiau gwirion (gweler y storis poblogaidd eraill)?
Pa bynnag un ydy o, ti’n iawn mai mond yng nghyd-destun straeon gwirion fel hyn mae’r di-Gymraeg yn darllen unrhywbeth am y Gymraeg.
Ydyn ni’n gallu creu “cynnwys” positif am bobol tu allan y cylch? Dylen ni meddwl am ddysgwyr a phlant hefyd.
Tra bod portreadu delwedd mor bositif o’r iaith a gwrthbrofi rhagfarnau di-sail yn bwysig iawn (dyna oedd prif fwriad seftydlu fy mlog Saesneg Smiling under Buses), mae’n fwy o flaenoriaeth creu cynnwys cyffrous, diddorol a pherthnasol yn Gymraeg. Dwi ddim yn dweud bod eisiau stiocio’n pennau yn y tywod, ond dw i’n ceisio peidio colli gormod o gwsg am beth mae pobl anwybodus yn feddwl am yr iaith a fedrwch chi byth newid agwedd rhai.
dw i’n ceisio peidio colli gormod o gwsg am beth mae pobl anwybodus yn feddwl am yr iaith a fedrwch chi byth newid agwedd rhai.
Dwedais i’r un pethau anwybodus yn y gorffenol. Dw i wedi dysgu llawer…
Dw i wedi dysgu… fod pobol beniog yn gallu dweud pethau dwl hefyd.
e.e. http://twitter.com/bengoldacre/status/10533126485
Gyda llaw, chwarae teg am Smiling under Buses, roedd e’n un o’r blogiau cyntaf gwelais i ar y we Cymraeg. Dw i dal yn darllen yr hen gofnodion.
http://puffbox.com/2010/06/01/directgov-unveils-syndication-api/
Fy hoff darn
Reckon you can do a better job of presenting Directgov’s content, in terms of search or navigation? Or maybe you’d prefer a design that wasn’t quite so orange? – go ahead. Want to turn it into a big commentable document, letting the citizens improve the content themselves? – well, now you can.
Mae cyfle mawr i greu systemau i ail-ddefnyddio cynnwys a thrafod e.
Papurau bro. Dw i’n meddwl amdanyn nhw heddiw.
1. Pa papurau bro sydd ar y we yn barod? Gaf i dolenni plis? Beth wyt ti’n meddwl am eu wefannau?
2. Pa papurau bro sy ddim ar y we eto? Fyddan nhw yn mynd yna gyda help neu fyddan nhw ddim?
3. Fyddan nhw yn defnyddio rhyw fath o wasanaeth CMS hawdd “mas o’r bocs”? e.e.
ydinesydd.rhywbeth.com
yrhwyd.rhywbeth.com
Neu ydy e’n well i gael gwefannau gwahanol?
Sgwenna dy atebion isod fel sylwadau, diolch yn fawr.
Rhanna’r dolen i’r cofnod hwn os ti eisiau.
Dyma’r rhai dw i’n ymwybodol ohonynt:
Taf Elai (gwefan eu hunain gyda pob rhifyn ar ffurf PDF)
Y Dinesydd (gwefan eu hunain gyda pob rhifyn ar ffurf PDF – ond mae ‘pay wall’! ers rhifyn mis Ebrill) ![]()
Glo Man (Blogger)
Llais Ogwan (gwefan eu hunain – ond nid CMS)
Eco’r Wyddfa (gwefan eu hunain – ond heb ei ddiweddaru ers y cychwyn)
Efallai bod mwy, ond dim ond yr uchod sydd a dolenni ar wefan unigol o’u herthyglau ar Wicipedia, er, gall eraill fod a gwefannau, mond nad oes dolen atynt o’u erthygl Wicipedia/does dim erthygl yn bodoli eto – mae angen gwneud ymchwiliad Google.
O bosib mae’r ffaith bod Cymru’r Byd wedi cynnig is-wefan pitw i bob papur bro wedi gwnedu i ambell un feddwl nad oes angen iddynt drafferthu cael presenoldeb go iawn ar y we na chyheddi eu erthyglau ar-lein.
Ddim yn siwr ble diflannodd fy sylw diwetha, ond yn gyflym, Tafod Elai, Glo Mân, Y Dinesydd, Eco’r Wyddfa a Llais Ogwan (sic), yw’r unig rai dw i’n wybod amdanynt – angen gwglo pob un o’r rhestr.
Mond un sy’n defnyddio CMS, (a Blogger ydy hwnnw gan Glo Mân). Mae dyluniad y gweddill yn ei wneud yn amhosib bron i gynnwys y newyddion ymddangos mewn chwiliadau Google (PDF’s ayyb).
Ydy is-wefannau BBC Lleol wedi gwneud i’r papurau bro feddwl nad oes angen presenoldeb ar-lein go iawn?
Mae hwn wedi bod yn troelli yn fy meddwl i ers oes. Dydi o ddim yn gwneud synnwyr i’r holl erthyglau yma fodoli mewn print yn unig pan fo arian cyhoeddus yn cael ei gyfrannu tuag at eu cynhyrchu.
Yn fy marn i dylid cael un CMS ar gyfer y cwbl, er mwyn gallu dyrchafu straeon sydd hefyd yn berthnasol tu allan i’r broydd yn haws. Haws hyfforddi a rhatach
Dydi’r BBC ddim yn mynd i allu gwneud hyn ar eu pennau eu hunain, yn arbennig gyda’r toriadau sydd i ddod.
Rhaid i rywun fuddsoddi mewn dyfodol newyddion lleol Cymraeg. Neu marw wnaiff yr holl waith gyda’r genhedlaetha a’u dyfeisiodd.
Mae Wilia (papur bro Abertawe) i’w gael yma:
http://www.menterabertawe.org/cymraeg/wilia.php
Gwelais Llais (papur Cwm Tawe) ar y we rhyw dro hefyd, ond ni allaf ei ganfod nawr.
Mae’r papurau bro yn anodd. Nid i fod yn annheg, ond mae nhw’n cael eu rhedeg fel cabals lleol gan llond llaw o wirfoddolwyr sy’ wedi arfer gwneud pethe yn eu dull DIY unigryw eu hunain.
Mi fyddai’n anodd trio cael pawb i gytuno i ddefnyddio ryw system o’r tu allan. Dwi ddim yn meddwl fyddai problem greu fersiwn electronig.. mae pawb ar ebost ac ar y cyfan mae’r testun mewn ffurff electronig. Ond a fyddai hynny yn golygu fwy o waith – mae angen y fersiwn argraffedig hefyd. Mi fyddai angen gwirfoddolwyr (lleol) i gymryd y baich o
Pan o’n fach mi roedd y Goriad yn cael ei argraffu yn y Coleg Normal gan berson lleol oedd yn arbennigwr ar DTP. Fe oedd y ‘gatekeeper’.. y ddolen bwysicaf yn y gadwyn. Roedd pawb arfer mynd lawr i helpu “blygu’r” papur a roedd teimlad fod rhywun yn gwneud rhywbeth pwysig. Sut mae ail-greu y teimlad hynny o gymuned mewn oes electronig, ond peidio dibynnu ar yr ‘arbennigwr lleol’ ar gyfer y gwaith cysodi a cyhoeddi (sy’n dal yn dueddol o ddigwydd hyd yn oed gyda’r dechnoleg newydd)?
Pwyntiau diddorol uwchben. Dyna un o’r syniadau tu ôl i wefan newydd http://www.lleol.net. Nes i siarad gyda phob un papur bro flwyddyn ddiwethaf yn sôn am y gwasanaeth newydd. Y syniad oedd rhoi cyfle hawdd iawn i bapurau bro rhoi ambell erthygl ar y wefan o dan adran newyddion lleol, gydag adran i bob papur.
Syniad o geisio cyd weithio gyda’r papurau er mwyn rhoi blas i bobol o’r papur fydd yn gobeithio cynyddu’r gwerthu. Roedd yr adran yma yn fyw am sawl mis, ond ar ôl llawer o alwadau ffôn ac e-byst dim ond dwy erthygl oedd arno. Dwi yn newid yr adran yma i fod yn adran prynu a gwerthu eitemau a fydd yn cynnwys cartrefi.
Mae’r platfform yn barod, mater o ychwanegi adran newyddion lleol. Mae’r system yn caniatáu creu cyfrifau unigol i bob papur, fydd yn ei galluogi i ychwanegi ddigwyddiadau, swyddi, hyrwyddiadau a mwy.
Dwi’n gobeithio ceisio eto yn fuan.
Gyda tamed o ymdrech ag amser dwi’n siŵr fod modd ychwanegi function talu am gopiau electroneg.
Dwinnau’n gweld y safbwynt yna Dafydd, ac wedi ystyried taw angen rhywbeth gwahanol yn llwyr sydd ei angen.
O gynnig gael CMS benodol ar gyfer y papurau bro presennol, o leia byddai cyfle i rywfaint o’r gwaith gael ei roi ar-lein, gan gynyddu ystod y darllenwyr. Ond efallai bod arbrawf Lleol.net yn dangos pa mor annodd fyddai ceisio argyhoeddi (a hyfforddi) y timau lleol i wneud hynny.
Un broblem o ran cael pobol newydd i gymryd rhan yn y broses o gynhyrchu newyddion a straeon lleol ydi bod na drefn sefydledig sydd siwr o fod yn annodd iawn ei newid. Efallai y byddai cael cytundeb i atgynhyrchu peth o erthyglau y papurau bro ar-lein yn ddigonol o ran cydweithrediad, a bod yna fath gwahanol o newyddion ac erthyglau yn dod trwy wasanaethau lleol ar-lein. Mae fideo yn un elfen sydd yn bwysig iawn i’w ddatblygu yn fy marn i ac mae ffyrdd o dynnu gwybodaeth o bob math o ffynhonellau eraill trwy RSS.
Y broblem wedyn ydi trefniant: sut mae ysbrydoli (neu ariannu) rhwydwaith newydd o wefannau lleol Cymraeg? Roedd Papurau Bro siwr o fod yn ddibynnol ar un neu ddau o bobol ym mhob ardal i wthio’r prosiect ymlaen. Dwi’n credu na fyddai’n annodd ffeindio tri ardal lle byddai na ddigon o weithgaredd gwe yn barod (blogiau, trydarwyr, podledu, fideo) i allu creu rhywbeth sydd yn tynnu rhain at eu gilydd mewn ffordd chydig yn fwy naturiol i’r we. Mae trawsblannu cynnwys ond yn parhau yr un dull.
Dwi’n gwybod nad oes gen i gymaint a hynny o ddiddordeb mewn clywed am hanes ysgolion ac esglwysi, ond mae gen i ddiddordeb mewn cael straeon Cymraeg, adolygiadau lleol, hanesion y cyngor tref a sir, gwybodaeth am ddigywddiadau ac ati. Dydi papurau bro ddim yn gallu darparu y rhanm fwyaf o’r pethau hyn oherwydd ei fod yn gyfrwng araf.
Ond mae chwant y we am newydd-deb yn codi ei broblemau ei hun. Mae papurau bro yn fisol ac yn stryglo i gael stwff at ei gilydd bob mis. Byddai’n ddymunol cael diweddariadau wythnosol i wasanaeth gwe, ar y lleia, ond mi wn y byddai yna gofnodau lle byddai’n annodd tynnu pethau at eu gilydd. Ond, efallai trwy gyfuno gweithgaredd presennol byddai hynny’n bosib.
Ti’n iawn bod y plygu yn elfen bwysig o bapurau bro yn hanesyddol, er bod llai a llai o hynny’n digwydd gyda dulliau argraffu gwell. Byddai cyfarfodydd golygyddol yn gallu parhau yr un math o deimlad o undod ac ymdeimlad o ddyletswydd a brogarwch. Hyddorddiant sydd ei angen fwy na dim.
Mae angen rhywun i’w drio rhywbryd a gweld beth ddeuai ohono.
Newydd ffeindio gwefan Clonc (ardal Llanbed) rwan tra’n isdeitlo Fferm Ffactor.
Sori Rhys, roedd dy sylw cyntaf wedi bod yn aros yn y ciw sbam.
Diolch, dw i wedi diweddaru Hedyn. Dych chi’n gallu ychwanegu mwy yma.
http://hedyn.net/blogiau_lleol_-_papurau_bro_arlein
Meddyliau go iawn yn fuan!
Rhys Wynne 3:44 PM ar 3 Mehefin 2010 Dolen Barhaol
Dim ond cyn belled a bod cofnod rheolaidd gyda ti am pwy sydd wedi marw yn ddiweddar.
Carl Morris 4:01 PM ar 3 Mehefin 2010 Dolen Barhaol
Gwefan Brechdan Tywod ar Geocities.
(Distawrwydd.)