Clonc Cwpan y Byd: Sgwrsio byd-eang mewn 11 iaith

Am 2:30pm heddiw (11eg o Fehefin) bydd arbrawf unigryw ar wefan BBC Cymru o’r enw Clonc Cwpan y Byd:

Fel rhan o sylw’r BBC i Gwpan y Byd, ry’n ni am ddod â chefnogwyr at ei gilydd waeth pa iaith maent yn ei siarad. Mae Clonc Cwpan y Byd yn gyfle i fynd â hyn un cam ymhellach, i gael sgwrs fyd-eang, amlieithog.

Yn ôl Iwan Standley ar Radio Cymru bore’ma, bydd GoogleTranslate yn cael ei ddenfyddio fel bod pob sylw ar y negesfwrdd yn cael ei trosi i ddeg iaith arall.  Y ieithoedd fydd; Albaneg, Arabeg, Tsieinëeg, Saesneg, Perseg, Portwgaleg, Rwsieg, Sbaeneg, Swahili, Fietnamega a’r Gymraeg

Pwysleisiodd Iwan na fydd y cyfieithiadau’n berffaith a bod hyn yn gael ei wneud yn glir ar y wefan.  Dyma mae’n ddweud ar y wefan:

Ni fydd ein pwyslais ar gywirdeb y cyfieithu, ond yn hytrach ar ddod â chefnogwyr pêl-droed o bob rhan o’r byd at ei gilydd i drafod, beth bynnag fo’u mamiaith.

Mae’r BBC eisoes wedi cynnal arbrawf o sgwrsio amlieithog fel hyn o’r blaen, ond dyma’r tro cyntaf i’r Gymraeg fod yn ran ohoni.