Nid yn y swyddfa… Stori BBC am Scymraeg ar arwydd, DAL yn y siart straeon

Stori BBC am Scymraeg ar arwydd, DAL yn y siart straeon

Dw i’n sicr fod ti’n nabod y stori wreiddiol.

Dw i’n gweld y stori hon yn y siart BBC yn aml iawn. Mae pobol ryngwladol DAL yn ffeindio fe nawr.

Mae e’n un o’r straeon mwyaf poblogaidd am Gymraeg arlein – erioed!

Chwilia am “swyddfa” ar Google, y cofnod Language Hat am y stori BBC yw’r canlyniad CYNTAF.

Nes i stopio chwerthin misoedd yn ôl. Ond ro’n i eisiau gofyn – ydy’r agwedd pobol a phroffil Cymraeg arlein yn bwysig i ti? Beth allan ni dysgu am farnau pobol ddi-Gymraeg arlein?

Ydy’r barnau yn y sylwadau yma yn bwysig i ti?
http://boingboing.net/2008/10/31/email-error-on-road.html

Ydyn ni’n gallu creu “cynnwys” positif am bobol tu allan y cylch? Dylen ni meddwl am ddysgwyr a phlant hefyd.

Neu ydy pethau fel hyn yn digwydd ar hap?