Pa ffôn symudol Android?
http://www.htc.com/www/product/desire/overview.html
neu
neu rhywbeth arall?
Dw i eisiau rhedeg Android neu system meddalwedd rydd arall (nid iOS/iPhone). Diolch!
http://www.htc.com/www/product/desire/overview.html
neu
neu rhywbeth arall?
Dw i eisiau rhedeg Android neu system meddalwedd rydd arall (nid iOS/iPhone). Diolch!
http://wordpress.org/development/2010/06/thelonious/
Mae’r cyfieithiad Cymraeg ar y ffordd.
Mae Kickstarter yn wedfan crowd-sourcing (rhaid i ni gael term call am hwnna…”torf-gasglu”?) ar gyfer ariannu prosiectau newydd. Efallai taw’r un enwocaf hyd yn hyn ydi prosiect Diaspora sy’n trio gwneud rhwydwaith gymdeithasol agored. Mae nhw wedi codi dros $200k erbyn hyn, sydd yn 20 gwaith eu targed gwreiddiol. Mae Suw Charman-Anderson hefyd wedi penderfynu trio codi arian ar gyfer ei phrosiect Argleton yno.
Wrth edrych am brosiectau yn ymwneu â iaith, mi ddes i ar draws hwn:
Swnio’n eitha diddorol. Ro’n i wedi clywed am yr iaith Silbo Gomero o’r blaen (mwy), ac mae’n fy atgoffa i o’r iaith xiriga sydd gan y gweithwyr teils yn Asturias. Hynny yw, yn iaith gyfyng iawn, sydd ddim yn adnabyddus o gwbl, a chwbl ddi-statws.
Mae nhw wedi llwyddo i gael dros 100% o’u targed hefyd ond ys gwn i a oes modd codi arian ar gyfer prosiectau Cymraeg yn y dull hwn.
Mae GalegoLab wedi dechrau gwneud hynny ar gyfer yr iaith Galisieg eisoes (bydd cofnod arall ar Metastwnsh am hynny cyn bo hir)…ydi hi ddim yn bryd i ninnau wneud hefyd?
Gwefan ariannu prosiectau arall yw http://www.kiva.org/
Am 2:30pm heddiw (11eg o Fehefin) bydd arbrawf unigryw ar wefan BBC Cymru o’r enw Clonc Cwpan y Byd:
Fel rhan o sylw’r BBC i Gwpan y Byd, ry’n ni am ddod â chefnogwyr at ei gilydd waeth pa iaith maent yn ei siarad. Mae Clonc Cwpan y Byd yn gyfle i fynd â hyn un cam ymhellach, i gael sgwrs fyd-eang, amlieithog.
Yn ôl Iwan Standley ar Radio Cymru bore’ma, bydd GoogleTranslate yn cael ei ddenfyddio fel bod pob sylw ar y negesfwrdd yn cael ei trosi i ddeg iaith arall. Y ieithoedd fydd; Albaneg, Arabeg, Tsieinëeg, Saesneg, Perseg, Portwgaleg, Rwsieg, Sbaeneg, Swahili, Fietnamega a’r Gymraeg
Pwysleisiodd Iwan na fydd y cyfieithiadau’n berffaith a bod hyn yn gael ei wneud yn glir ar y wefan. Dyma mae’n ddweud ar y wefan:
Ni fydd ein pwyslais ar gywirdeb y cyfieithu, ond yn hytrach ar ddod â chefnogwyr pêl-droed o bob rhan o’r byd at ei gilydd i drafod, beth bynnag fo’u mamiaith.
Mae’r BBC eisoes wedi cynnal arbrawf o sgwrsio amlieithog fel hyn o’r blaen, ond dyma’r tro cyntaf i’r Gymraeg fod yn ran ohoni.
Neis!
Cymraeg
http://www.bbc.co.uk/cymru/chwaraeon/clonc/#follow-420794
Saesneg
http://www.bbc.co.uk/worldservice/worldcupteamtalk/#follow-420794
Swahili
http://www.bbc.co.uk/swahili/worldcupteamtalk/#follow-420794
Wps, wnes i gamgymeriadau sillafiad…
Rheolau am gymunedau arlein a chyfieithu
1. Rhaid i ti dangos y neges yn yr iaith wreiddiol. (Efallai?)
@Carl,
Beth wyt ti’n feddwl, bod e’n dweud ‘Cymraeg’ yn lle ‘Welsh’ neu ‘Kiwelsh’ wrth dy neges wreiddiol?
neu son yn gyffredinol am wefannau eraill sy’n danogs gynnyrch GoogleTranslate, ac y dylent fod yn arddangos y testun gwreiddiol bob tro er mwyn gwenud yn glir mai cyfieithiad mae pobl yn ei ddarllen?
Rhaid i mi ddweud, pan o’n i’n gwrando ar y radio o’n i ddim yn meddwl byddai yna lot o bwynt i hyn, ac er bod rhai yn dod allan fel garbwl llwyr, mi synnias ar pa mor gywir oedd yr un Tsieinëeg > Cymraeg yma (ag eithrio’r bit am ‘cynffon’!)
@Carl, dw i’n gweld beth ti’n feddwl rwan – yn y linell ‘Newid Iaith’.
Dw i’n meddwl “dangos testun gwreiddiol bob tro er mwyn gwenud yn glir mai cyfieithiad mae pobl yn ei ddarllen”.
Dw i newydd wedi darllen papur academaidd gan Daniel Cunliffe am gymuned arlein o brifathrawon gyda chyfieithu gan berson. Efallai mae e dal yn bwysig i ddangos y fersiwn wreiddiol i atgoffa pobol.
http://code.google.com/edu/languages/google-python-class/
Dan drwydded Creative Commons hefyd. Cyfieithiad am ysgolion ayyb?
Syniad yn unig. Beth bynnag, mae unrhyw berson sy’n cyfieithu’r cwrs yn ennill cyri cyw iâr neu fadarch (dim python ar gael yn anffodus).
http://yourcardiff.walesonline.co.uk/2010/06/09/cardiff-council-social-media-twitter-strategy/
Ond mae’n 50% iawn.
Podlediad byr
Dw i ddim yn hoffi’r geiriau “language barrier” o gwbl. Amlieithrwydd arlein yw’r datrysiad…
http://murmur.bangor.ac.uk/?p=103
Cysill
Rhaglen sy’n canfod ac yn cywiro camgymeriadau ieithyddol mewn dogfennau Cymraeg yw Cysill. Mae’n gallu adnabod camgymeriadau teipio, sillafu a gramadeg, gan gynnwys camdreiglo. Yn ogystal ag awgrymu cywiriadau lle bo’u hangen, yn achos camgymeriadau gramadegol mae’n egluro natur y gwall er mwyn eich helpu i osgoi’r gwall yn y dyfodol.Cysgeir
Rhaglen arall sydd i’w chael o fewn Cysgliad yw Cysgeir, sef casgliad o nifer o eiriaduron gwahanol ar ffurf electronig cyfleus. Mae’n cynnwys cannoedd ar filoedd o gofnodion, ond eto mae’n hawdd dod o hyd i’r cofnod perthnasol yn gyflym diolch i’w ryngwyneb clyfar, cyfeillgar.
Beth sy wedi digwydd i Cysgliad i’r Mac, oedd e’n am ddim yn wreiddiol?
Rhys 12:55 PM ar 18 Mehefin 2010 Dolen Barhaol
Byddan nhw’n cymharu ffonau Android yn rhifyn nesaf o gylchgrawn Linux Format
Carl Morris 1:09 PM ar 18 Mehefin 2010 Dolen Barhaol
Dw i erioed wedi prynu Linux Format o blaen, nai ofyn am bapur brown – fel cylchgrawn porn.
Huw Waters 8:27 PM ar 27 Mehefin 2010 Dolen Barhaol
HTC Evo a Samsung Galaxy S ar eu ffordd.