Ebost at griw Hacio’r Iaith…be nesa?

Dyma gopi o ebost sgwennais i at fynychwyr Hacio’r Iaith heddiw. Croeso i chithau ymateb iddo yma:

Wnes i ddim llwyddo i gasglu cyfeiriadu ebost pawb yn ystod Hacio’r Iaith felly dyma ebostio’r rhai hynny sydd gen i. Ychydig yn hwyr, ond gwell hwyr na hwyrach…

Yn anffodus does gen i ddim cyfeiriad ar gyfer sawl un (Owain Hughes, Eleri James, ac Emyr Thomas). Byddwn yn falch pe gallech chi basio’r neges ymlaen iddyn nhw os ydych chi mewn cyswllt.

Mae holl sesiynau Hacio’r Iaith rwan ar gael ar un ai fideo neu sain draw ar Hedyn|Trefnu’r Dydd Jest dilynwch y dolenni sydd yn yr amserlen.

Hac Bach

Dim ond nodyn bach sydyn ydi hwn i ddweud ein bod ni rwan wedi cynnal dau Hacio’r Iaith Bach ers un mis Ionawr, a’r ddau wedi bod yn llwyddiannus yn eu ffyrdd eu hunain. Dim ond cyfarfodydd bach anffurfiol oedden nhw (er bod yr un dwetha wedi tagio mlaen i gynhadledd Mercator er mwyn cael chydig yn fwy o bobol!).

Gallwch chi weld rhai o’r fideos ar http://haciaith.com

Be am i chi drefnu un bach lle rydach chi? Oes rhywun yn gêm i ymgynnull mewn tafarn neu gaffi yn y gogledd? Sa’n dda cael un bach yng Ngwynedd/Môn.

Haciaith Mawr

Dwi’n dechrau meddwl am yr un nesa diwrnod/2 ddiwrnod o hyd hefyd.

Oes unrhyw syniadau ganddoch chi?

Roedd awgrymiadau fan hyn i wneud rhai mwy thematig: fideo, ymgyrchu, lleol ayyb

Oes unrhyw awch am hyn neu ddylid jest gwneud un cyffredinol eto?

Dwi’n credu byddai mis Medi/ Hydref yn adeg da i gynnal un. Be da chi’n feddwl?

Sesiwn Hacio Go Iawn?

Hefyd, oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn gwneud digwyddiad penodol ar gyfer hacio a rhaglennu? Weithiodd y pnawn hacio ddim yn Ionawr, ond dwi’n siwr y gellid gwneud rhywbeth difyr dros nos a gyda mwy o amser. Mae na lwyth o ddata ar gael sy’n ffrwythlon i’w hacio ar gyfer pwrpasau defnyddiol, neu gallen ni wneud cyfieith-a-thon ar gyfer pobol sydd heb sgiliau côdio ond sydd eisiau ymuno yn yr hwyl.

Hwyl

Rhods

o.n. Gallwn ni symud y drafodaeth hon i http://hedyn.net os oes na ddipyn o ymatebion.