Casgliad y Bobl
Ble mae’r beta?
http://www.peoplescollection.org
Cefndir (Saesneg yn unig)
http://ydiafol.blogspot.com/2010/05/dileu-ubuntu-o-system-gic-ddeuol.html
Paid anghofio ail-osod neu trio Fedora yn lle!
Mae gwefan http://globalvoicesonline.org/ yn chwilio am bobol i drosi deunydd i’r Gymraeg. Dyma ebost dderbyniais i gan Ayesha Saldanha (trwy rywun arall). Mae Ayesha yn gyfrannwr a fu’n byw yng Nghaerdydd, sydd nawr yn byw yn Bahrain, ac yn cyfrannu llawer i’r wefan am y Dwyrain Canol:
I thought of contacting you about a website I write for, called Global Voices Online. It’s a site which covers blogs and citizen media around the world.
Global Voices also has sister sites in many different languages; this is called the Lingua project: http://globalvoicesonline.org/lingua/
Volunteer translators (I should mention that nearly everyone involved in GV is a volunteer) translate GV posts into other languages – from French, Japanese, and Macedonian to Aymara! It occurred to me that you might know people interested in starting a Welsh Lingua site. It’s even something that students might be interested in doing as a project.
Many Lingua sites, once up and running, establish good relationships with mainstream media. For example, Italian GV is paid to provide material to La Stampa.
Have a look at the links and let me know if you think there is potential for a GV Cymraeg…I think it would be really exciting! If you have any questions get back to me – and if you or anyone else you know is interested in getting involved, I can put you in touch with the relevant people at GV.
Os oes diddordeb gan unrhywun yna gallwch gysylltu â nhw yn y blwch yma: http://globalvoicesonline.org/lingua/#get-involved
Neu gadwch neges yn y sylwadau a rodda i fanylion cyswllt Ayesha i chi.
Dyma’r drwydded. Diddorol achos mae’n bosib rhedeg safle newyddion gyda’u cynnwys nhw.
http://creativecommons.org/licenses/by/3.0/
Mae’n bosib teipio dy nodau arbennig i mewn Google Search gyda Virtual Keyboard. (Enghraifft)
Dewisa “Welsh”
http://spreadsheets.google.com/viewform?formkey=dHBoYWc3TFdCNm1mLTVVZzVfUWF2cWc6MQ
Bwysig bod pobol yn gwneud hyn.
Wnaeth hwn i fi feddwl am sut mae Google yn delio gyda diacritics. Dyma esboniad (hen efallai?) o sut: http://googlewebmastercentral.blogspot.com/2006/08/how-search-results-may-differ-based-on.html
Wyddwn i ddim o’r blaen bod posib cyfyngu chwiliad i dermau sydd a’r diacritics ynddo drwy roi ‘+’ cyn y term chwilio
e.e. http://www.google.co.uk/search?hl=en&q=%2B%C5%B5y&aq=f&aqi=&aql=&oq=&gs_rfai= vs http://www.google.co.uk/search?hl=en&q=%C5%B5y&aq=f&aqi=&aql=&oq=&gs_rfai=
Mae sylw yna am Rwmaneg yn ddiddorol
http://googlewebmastercentral.blogspot.com/2006/08/how-search-results-may-differ-based-on.html?showComment=1183638850068#c7634560923040387620
Google Translate
http://translate.google.com/?hl=en#eu|cy|email
newyddion
http://googleresearch.blogspot.com/2010/05/five-more-languages-on.html
Unrhyw awgrymiadau blogiau Basgeg?
http://eibar.org/blogak/luistxo/ – blog Luistxo, sydd hefyd yn blogio’n Saesneg yn achlysurol
http://www.aurki.com/ – blogiadur
http://www.bilbohiria.com/ – blog gwefan Bilbo Hiria, gorsaf radio Basgeg Bilbo – maen nhw’n joio’u regge!
http://www.irratia.com/ blog ar gyfer rhaglen radio am dechnoleg + cerddoriaeth ar Bilbo Hiria
http://sustatu.com/ – Slashdot Basgeg – (esboniad difyr yma am sut mae cyfranu ato)
Mae Rory Cellan-Jones yn siarad, Nos Wener, 04 Mehefin 2010 am 19:30
http://hedyn.net/digwyddiadau#rory_cellan-jones_llyfrgell_genedlaethol_cymru
Diolch i Rhodri ap Dyfrig am y wybodaeth.
bookleteer helps people share their stories, ideas, drawings and photographs in dynamic ways that are accessible to others all over the world. Create PDF files that can be downloaded, printed out and made up as shareable paper books and cubes using Proboscis’ unique Diffusion eBooks and StoryCubes.
Use bookleteer to create story books, portfolios, learning diaries, newsletters, workshop or project notebooks, essays, project documentation, exhibition catalogues, game props, or whatever you can imagine.
bookleteer isn’t just print on demand, its publishing on demand!
Dyma gopi o ebost sgwennais i at fynychwyr Hacio’r Iaith heddiw. Croeso i chithau ymateb iddo yma:
Wnes i ddim llwyddo i gasglu cyfeiriadu ebost pawb yn ystod Hacio’r Iaith felly dyma ebostio’r rhai hynny sydd gen i. Ychydig yn hwyr, ond gwell hwyr na hwyrach…
Yn anffodus does gen i ddim cyfeiriad ar gyfer sawl un (Owain Hughes, Eleri James, ac Emyr Thomas). Byddwn yn falch pe gallech chi basio’r neges ymlaen iddyn nhw os ydych chi mewn cyswllt.
Mae holl sesiynau Hacio’r Iaith rwan ar gael ar un ai fideo neu sain draw ar Hedyn|Trefnu’r Dydd Jest dilynwch y dolenni sydd yn yr amserlen.
Hac Bach
Dim ond nodyn bach sydyn ydi hwn i ddweud ein bod ni rwan wedi cynnal dau Hacio’r Iaith Bach ers un mis Ionawr, a’r ddau wedi bod yn llwyddiannus yn eu ffyrdd eu hunain. Dim ond cyfarfodydd bach anffurfiol oedden nhw (er bod yr un dwetha wedi tagio mlaen i gynhadledd Mercator er mwyn cael chydig yn fwy o bobol!).
Gallwch chi weld rhai o’r fideos ar http://haciaith.com
Be am i chi drefnu un bach lle rydach chi? Oes rhywun yn gêm i ymgynnull mewn tafarn neu gaffi yn y gogledd? Sa’n dda cael un bach yng Ngwynedd/Môn.
Haciaith Mawr
Dwi’n dechrau meddwl am yr un nesa diwrnod/2 ddiwrnod o hyd hefyd.Oes unrhyw syniadau ganddoch chi?
Roedd awgrymiadau fan hyn i wneud rhai mwy thematig: fideo, ymgyrchu, lleol ayyb
Oes unrhyw awch am hyn neu ddylid jest gwneud un cyffredinol eto?
Dwi’n credu byddai mis Medi/ Hydref yn adeg da i gynnal un. Be da chi’n feddwl?
Sesiwn Hacio Go Iawn?
Hefyd, oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn gwneud digwyddiad penodol ar gyfer hacio a rhaglennu? Weithiodd y pnawn hacio ddim yn Ionawr, ond dwi’n siwr y gellid gwneud rhywbeth difyr dros nos a gyda mwy o amser. Mae na lwyth o ddata ar gael sy’n ffrwythlon i’w hacio ar gyfer pwrpasau defnyddiol, neu gallen ni wneud cyfieith-a-thon ar gyfer pobol sydd heb sgiliau côdio ond sydd eisiau ymuno yn yr hwyl.Hwyl
Rhods
o.n. Gallwn ni symud y drafodaeth hon i http://hedyn.net os oes na ddipyn o ymatebion.
Diolch am yr ebost, dw i eisiau ymateb yma yn gyhoeddus. Mae’n well i rannu meddyliau a’r trafodaeth gyda pethau fel ‘na.
Hacio’r Iaith Mawr – bydd Medi/Hydref yn wych! Beth am rhywbeth cyffredinol – ond rhaid i ni wneud pethau ymarferol? Hoffwn i dysgu mwy am fideo Rhod – os ti eisiau trefnu dy sesiwn dy hun? Ydy’r Brifysgol ar gael eto?
Codio/rhaglennu – Dw i’n meddwl bod popeth yn hacio ond bydd e’n wych i gael rhywbeth. Syniad da. Mae’r syniad yn gwahanol iawn i Hacio’r Iaith – rhaid i ni trefnu mwy. (Dyma pam wnaeth y sesiwn hacio ddim yn llwyddiannus rili ym mis Ionawr.)
Hacio’r Iaith Bach – HAWDD IAWN i drefnu yn dy ardal, angen 2 neu mwy, tips fan hyn
Dyma bigion o’r ymatebion eraill hyd yn hyn:
Duncan Brown: “beth am Hacio Bywyd Cefn Gwlad?”
Erddin Llwyd yn credu bod “gwell cyfle o gael mics gwahanol o bobl os ti’n gwneud haciaith cyffredinolish”
Telsa Gwynne: “mae cyfieith-a-thon yn swnio’n hwyl [...] llawer haws dod at gasgliadau am dermau
neu gywair neu beth bynnag pan fydd pawb yn yr un stafell.”
Mae yna gytundeb bod mis Medi yn adeg da, cyn i’r Prifysgolion ail-agor eto.
Mae’n edrych yn bosib y bydd yna Hacio’r Iaith Bach yn ystod Gwyl Arall yng Nghaernarfon ar y 23-25 Gorffennaf…i’w gadarnhau…
Diolch am rhannu, syniadau gwych!
Dyn ni’n gallu datblygu’r syniad Telsa, cyfieith-a-thon, yn bendant.
Hacio’r Iaith Bach yn ystod Gwyl Arall – edrych ymlaen! (Pryd? Nos Sadwrn neu Sul falle?)
Diolch am gadw’r bêl i rolio, Rhodri. Licio’r syniad o Hacio’r Iaith Bach yn ystod Gwyl Arall hefyd -fues i ddim i’r wyl llynedd ond awydd mynd leni ta beth.
Mae’r sesiynnau bach lleol yn gweithio’n dda – daeth tri wyneb newydd i’r digwyddiad yng Nghaerdydd nad oedd yn Aber y tro cyntaf.
O ran sesiwn hacio, mae ychydig bach o drafodaeth wedi bod ynglyn â’r wefan cwyno.org ac efallai mai o gwmpas hwn y gelli’r trefnu’r sesiwn hacio ‘go iawn’ cyntaf.
Fel Telsa, dw i’n meddwl bod lleoleiddio yng nghwmni eraill yn gallu bod yn fwy cynhyrchiol /llai unig. Dw i’n gwybod bod Telsa a Rhys Jones (ac eraill) yn Abertawe yn gwenud lot o leoleiddio, a bod criw Meddal yn brysur ochrau Bangor – beth petai ni’n cael diwrnod o leoleidido ar ddau safle (de a gogledd) ar yr un pryd a bod cyswllt skype/fideo cyson rhwng y ddau safle?
Gyda llaw, mae llawer o hen lyfrau Cymraeg sydd angen eu scanio.
Carl Morris 9:32 PM ar 31 Mai 2010 Dolen Barhaol
http://beta.peoplescollectionwales.co.uk
Diolch i fy ffynhonnell