Updates from Ebrill, 2010 Toglu Trafodaethau mewn Sylwadau | Bysellau Brys

  • Carl Morris 6:26 PM ar 17 April 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: atebolrwydd, , etholiad2010,   

    mae The Straight Choice yn gofyn am taflenni Etholiad 2010 /cc @thesc 

    http://www.thestraightchoice.org/notspots.php

    Wyt ti’n byw yn unrhyw ardal isod? Cymer 5 munud i helpu atebolrwydd yn yr Etholiad.

    Aberafan
    Bro Morgannwg
    Cwm Cynon
    De Clwyd
    Delyn
    Dwyrain Abertawe
    Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr
    Dwyrain Casnewydd
    Dyffryn Clwyd
    Gogledd Caerdydd
    Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro
    Gorllewin Casnewydd
    Islwyn
    Llanelli
    Merthyr Tydfil a Rhymni
    Ogwr
    Pen-y-bont
    Pontypridd
    Preseli Sir Benfro
    Rhondda
    Tor-faen
    Wrecsam
    Ynys Môn

     
  • Dafydd Tomos 11:23 PM ar 16 April 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: isdeitlo isdeitlau cyfieithu fideo   

    Isdeitlau Ymhobman 

    Dwi newydd weld gwefan prosiect newydd gan y bobl tu ôl i chwaraewr fideo Miro, sy’n ceisio creu system agored ar gyfer isdeitlau ar fideos. Mae blog y prosiect wedi ei greu yn WordPress ac yn defnyddio’r ategyn ar gyfer creu cyfieithiadau o’r cynnwys drwy Google Translate.

    Mae e hefyd yn defnyddio ategyn, sy’n newydd i fi, o’r enw Transposh (gwefan sy’n defnyddio baneri i ddynodi iaith yn anffodus!), sy’n galluogi unrhyw ddefnyddiwr i gyfieithu’r cynnwys ar flog. Mae Google Translate yn gwneud cynnig gweddol dda ar gyfieithiad y testun ond mae’r teclyn yma yn galluogi rhywun i wella’r a chywiro’r cyfieithiad yn weddol gyflym.

    Felly dwi wedi cyfieithu’r cofnod cynta yn cyflwyno’r prosiect. Yn saesneg ‘Universal Subtitles’ yw’r enw ond dwi wedi dewis ‘Ymhobman’ yn hytrach na cyfieithiad uniongyrchol fel ‘Bydysawdol’ – unrhyw gynigion arall?

    Cyflwyniad i Isdeitlau Ymhobman.

     
    • Carl Morris 2:37 AM ar 17 Ebrill 2010 Dolen Barhaol

      Nai trio fe dros y penwythnos.

      Well na peiriant yn unig!

      Dw i’n caru Google Translate a dw i’n casau Google Translate weithiau…

  • Carl Morris 9:32 PM ar 16 April 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , ,   

    Golwg360 yn lansio blog newydd 

    Mae’r gwasanaeth newyddion ar-lein Cymraeg, Golwg360, wedi lansio blog newydd sbon o’r enw ‘Blog Golwg360’! Bwriad y blog yw i roi llwyfan canolog i newyddiadurwyr y gwasanaeth ysgrifennu darnau sy’n mynegi eu barn ar faterion y dydd.
    Yn ogystal a hyn, mae Golwg360 yn gobeithio recriwtio cyfranwyr eraill o faesydd amrywiol i gymryd mantais o’r cyfle i ddweud eu dweud ar y blog newydd…

    mwy yma

    http://www.maes-e.com/viewtopic.php?p=384174#p384174

     
  • Carl Morris 12:24 PM ar 13 April 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau:   

    Digwyddiadau technolegol yng Nghymru 

    Darllenwch!
    Paid anghofio’r tudalen Digwyddiadau yma. Mae 2 digwyddiad Hacio’r Iaith Bach ar y ffordd.

    http://hedyn.net/digwyddiadau

    Trefnwch!
    Wyt ti eisiau cynllunio Hacio’r Iaith Bach yn dy dafarn lleol? Ti angen 2 person neu mwy…

    Ychwanegwch!
    Mae unrhyw un yn gallu ychwanegu digwyddiad – Hacio’r Iaith Bach neu rhywbeth arall.

     
  • Carl Morris 4:47 PM ar 11 April 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: anthem,   

    Cystadleuaeth Anthem Hacio’r Iaith 

    Nai prynu diod i’r crëwr Anthem Hacio’r Iaith gorau gyda unrhyw ffeil neu ffeiliau yma:

    http://quixoticquisling.com/clywedol/haciaith/

    Fideo opsiynol.

    Defnyddia dy hoff meddalwedd/caledwedd gyda unrhyw synau eraill.

    Awgrymiad meddalwedd cerddoriaeth rhad

    http://flstudio.image-line.com/documents/download.html

    GYDA LLAW: os ti eisiau ceisio, gadawa sylw gyda dolen i Soundcloud/YouTube/gwasanaeth awdio arall

     
  • Carl Morris 3:12 PM ar 9 April 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , , , ,   

    cy.wordpress.org 

    Rydyn ni’n gweithio gyda’r cymuned WordPress ac Automattic ar wefan swyddogol WordPress Cymraeg.

    http://cy.wordpress.org

    Cynllun: rhywle canolog am WordPress Cymraeg. Bydd e’n bosib mynd i cy.wordpress.org a lawrlwytho pecyn Cymraeg heb ffwdan.

    1. Mae’r wefan cy.wordpress.org yn rhedeg WordPress gyda thema arbennig Rosetta. Dw i dal yn cyfieithu’r thema.

    2. Mae WordPress 3.0 ar y ffordd. Mae fersiwn beta ar gael yn barod. Mae gyda ni tua 2 wythnos i wneud cyfieithiadau rhwng “ymgeisydd rhyddhad” a rhyddhad swyddogol. Rydyn ni’n gallu adeiladu ar gwaith Iwan Standley a Rhos Prys. Felly bydd e’n bosib lawrlwytho’r fersiwn Cymraeg newydd ar yr un tro Saesneg, Sbaeneg a llawer o fersiynau eraill o gwmpas y byd!

    Wyt ti’n gallu helpu? Dweda yn y sylwadau os gwela di’n dda! Does dim angen profiad o flaen llaw. Dylen ni defnyddio Poedit neu meddalwedd debyg.

    Bydd y côd ar gael i bawb wrth gwrs dan trwydded GPL. Mae wordpress.com yn gallu defnyddio’r côd hefyd neu unrhyw gwasanaeth arall.

    Byddi di’n cyfrannu i’r genhedlaeth nesaf Cymraeg arlein, creu cyfleoedd gwaith newydd i dylunwyr/côdwyr ayyb, ysbrydoli pobol eraill a gobeithio dysgu rhywbeth.

     
    • Gruff Prys 11:36 AM ar 12 Ebrill 2010 Dolen Barhaol

      Helo Chris, dwi’n meddwl bod fy nhad wedi gorffen cyfieithu WordPress 3, ond mae o wedi bod yn yr Aifft yn ddiweddar. Beth am ei wahodd i redeg cy.wordpress.org efo ti? Fe wnaeth gais i WP i roi pecyn 2.9 i fyny ar wordpress.com, ond gafodd o fyth ateb gan Automattic.

    • Gruff Prys 11:37 AM ar 12 Ebrill 2010 Dolen Barhaol

      Chris??? Pwy ydi Chris??? Carl dwi’n feddwl wrth gwrs! Sori!

    • Carl Morris 2:35 PM ar 12 Ebrill 2010 Dolen Barhaol

      Iawn, diolch! Nai siarad gyda fe.

  • Carl Morris 2:23 PM ar 9 April 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , , , , , vocab   

    Cod agored BBC Vocab 

    Dw i newydd wedi ychwanegu’r dolen côd agored BBC Vocab i Hedyn

    http://hedyn.net/eraill#vocab

    Mae’r côd dan drwydded côd agored arbennig BBC. Mae’n hollol bosib creu ategion Firefox, WordPress, ayyb gyda fe.

     
  • Carl Morris 1:00 AM ar 7 April 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , , ieithyddiaeth   

    David Crystal ac ieithyddiaeth 

    Dw i newydd wedi ffeindio blog gan David Crystal, awdur ac athro enwog.

    http://david-crystal.blogspot.com

    Mae e’n sôn am ieithoedd, ieithyddiaeth ac ieithoedd lleiafrifol. Gwych!

     
  • Carl Morris 5:01 PM ar 3 April 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , ,   

    Android Cymraeg 

    Sgwrs yma

    http://www.maes-e.com/viewtopic.php?f=15&t=27816&p=384105#p384105

     
  • Carl Morris 7:31 PM ar 2 April 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , , ,   

    Paid prynu iPad 

    fy marn i

    http://quixoticquisling.com/2010/04/paid-prynu-ipad-os-oes-unrhyw-ddiddordeb-gyda-ti-yn-yr-iaith/

    Dw i eisiau prynu uned amgen a datblygu shwmaePad.

     
    • Rhodri ap Dyfrig 3:12 PM ar 4 Ebrill 2010 Dolen Barhaol

      Neu Bangor-aye-Pad. Dwi’n gynyddol siomedig nad oes yn 2010 unrhyw ffordd o gael Cymraeg ar yr Apple Mac. Cachu.

    • Alan Chamberlain 11:09 PM ar 4 Ebrill 2010 Dolen Barhaol

      Dw i’n chwilio am rywbeth fel gliniadur touchscreen ar hyn o bryd. Wyt ti wedi gweld un rhywbeth fod ti’n lico? Wyt ti wedi gweld y HP TouchSmart tm2t?

    • Carl Morris 12:15 AM ar 5 Ebrill 2010 Dolen Barhaol

      Rhodri, ti’n gallu defnyddio Ubuntu a rhyngwyneb GNOME gyda’r lleoleiddiad? Ti’n gallu cael cychwyn-deuol gyda OS X (“the world’s most advanced OS”)?

      Bydd Dafydd, Iestyn, Rhys, Telsa a Thomas yn hapus i ffeindio rhywun arall i helpu hefyd. :-)
      http://l10n.gnome.org/teams/cy

      Alan, dw i wedi gweld e ond does dim profiad gyda fi. Rhywun arall?

    • Rhodri ap Dyfrig 10:41 AM ar 13 Ebrill 2010 Dolen Barhaol

      Ond dwi ddim eisiau Ubuntu – dwi eisiau Mac! Doeddwn i ddim wir yn hoffi Ubuntu ar yr Eeepc. Sori Linux fans ond mae’n well o lawer gen i Vista neu OS X. Dydi’r ffaith bod o ar gael yn Gymraeg ddim yn deal-breaker o ran dewis pa OS i’w ddefnyddio. Mae’n rhywbeth rhy hanfodol i’r profiad o ddefnyddio’r cyfrifiadur.

    • Carl Morris 1:39 PM ar 13 Ebrill 2010 Dolen Barhaol

      Iawn, mae gen ti ddewis Rhodri!

      Mae Apple yn creu pethau da, dw i’n deall.

      Y breuddwyd yw profiad Cymraeg 100% ar pob cyfrifiadur – os ti’n dewis.

      Fydd Apple ddim yn arwain. Pwy fydd yn arwain a dylanwadu cwmniau mawr? Côd agored, Linux, Android, mwy na thebyg.

      Ond dydy Apple ddim yn barod eto. Er enghraifft, bydda i’n eitha siomedig os dw i’n gweld iPad yn yr ysgolion Cymraeg. Dydy’r Gymraeg ddim ar gael heblaw nifer bach o apps. Y neges i’r plant yw: dydy Cymraeg ddim yn pwysig yn y byd technoleg.

      “Dylanwad” yw fy hoff gair ar hyn o bryd. Dyma pham dw i’n hoffi Richard Stallman. Oedd e’n afresymol. Creuodd e Free Software Foundation. Dechreuodd e mudiad. Dychmygu byd heb GPL. Dim Linux, dim Firefox, dim WordPress, dim Apache, dim Perl, dim PHP, dim Ruby on Rails…

      Mae newid yn hollol bosib.

      Heddiw? Mae Apple yn hybu eu meddalwedd nhw. Ond mae amgen côd agored Cymraeg yn bodoli. Ydy pobol normal yn gwybod bod amgen yn bodoli? Pwy sy’n hybu’r amgen?

      Gyda llaw, beth faset ti wneud gyda £1m?

    • Rhodri ap Dyfrig 4:33 PM ar 13 Ebrill 2010 Dolen Barhaol

      >> Y breuddwyd yw profiad Cymraeg 100% ar pob cyfrifiadur – os ti’n dewis.

      Mae byw dy fywyd mewn dull eilradd yn diflasu rhywun weithia. Gorfod gofyn am daflenni yn dy iaith, gorfod cwyno am bopeth…mae defnyddio OS Linux, sydd dal ddim digon hawdd i’w ddefnyddio a’i lwytho yn rhoi profiad cyfrifiadura eilradd.

      Mae’n gachu nad oes gan Apple unrhyw fwriad i gynnwys ieithoedd eraill heb sôn am ieithoedd lleiafrifol, ond dwi ddim yn teimlo bod gen i ddewis. Y dewis yw Windows / Mac, ar hyn o bryd. Efallai y daw Ubuntu i fod yn system sydd yn hawdd i’w ddefnyddio ar desktops, fel sydd wedi digwydd gyda Android ar ffonau symudol, ond ar hyn o bryd mae’n or-gymleth, hyd yn oed i gîc (honedig) fel fi.

      Roedd Xandros ar yr Eeepcs i ddechrau – newidiais i o i Eeebuntu, oedd yn Gymraeg. Gret. Gofynnodd y system os o’n i isio diwedaru’r feddalwedd i roi bug fixes. Dwedais ‘ydw’, ond fe lwythodd o fersiwn gyfan o Ubuntu arno yn lle’r fersiwn ysgafn Eeebuntu oedd gen i yn wreiddiol. Dwi rwan wedi gorfod ail-osod Eebuntu (ar drydydd partition achos sgen i ddim clem sut ma gneud y sdwff disg galed na) ac mae’r peiriant yn rhedeg yn araf. Dwi’n galw hynna’n brofiad cwsmer gwael, ac oherwydd mod i wedi trio ei gael yn Gymraeg.

      Oes bai arna i am fynd am yr ‘opsiwn hawdd’, sydd yn anffodus yn brofiad Saesneg? Mae rhywun yn trio byw ei fywyd yn y Gymraeg gymaint ag sydd bosib, ac yn trio bod yn ‘afresymol’. Mae bywyd siaradwr Cymraeg yn ‘afresymol’ yn ôl confensiynau y gymdeithas da ni’n byw ynddi!

      >> Gyda llaw, beth faset ti wneud gyda £1m?

      faswn i’n rhoi addysg cynhyrchu cynnwys gwe Cymraeg i bob cymuned sy’n siarad yr iaith a gweld os byddai rhywbeth yn tyfu. Dwi o’r farn ar hyn o bryd taw nid y caledwedd na’r feddlawedd sydd bwysig ond meddylfryd y bobol sy’n defnyddio nhw. Ella wedyn fydd pobol ddim yn ofn defnyddio meddalwedd Gymraeg.

    • Carl Morris 5:05 PM ar 13 Ebrill 2010 Dolen Barhaol

      Trafodaeth dda, dyma pam mae Hacio’r Iaith yn bodoli!

      Dwedais i ‘breuddwyd’ am reswm. Pam lai eh?

      >> faswn i’n rhoi addysg cynhyrchu cynnwys gwe Cymraeg i bob cymuned sy’n
      >> siarad yr iaith a gweld os byddai rhywbeth yn tyfu.

      Syniad cyffrous. Mae’n hollol bosib wneud y dau (meddalwedd a phobol). Rydyn ni wedi dechrau yn barod – gobeithio.

      Pwy yw’r blogwr newydd nesaf? Dechrau gyda hedyn bach a thyfu. Dylanwad!

      Dylwn i fynd ond dw i’n meddwl amdano fe yn bendant. :-)

    • Huw Waters 4:11 PM ar 28 Mai 2010 Dolen Barhaol

      Gan mai ‘hacio’ yw hwn, oes rhywun wedi ystyried gwneud hyn i unrhyw ddarn o galedwedd yn ei perchnogaeth? Dwi di bod yn edrych sut i hacio fy nheledu newydd Panasonic Viera a cheisio cael yr EPG yn y Gymraeg. Dwi’n meddwl bod modd gwneud hyn gan fod rhan o’r feddalwedd yn un cod agored, ac mae pyrth ‘Common Interface’ a cherdyd SD.

    • Carl Morris 11:36 PM ar 28 Mai 2010 Dolen Barhaol

      Huw, sa’ i’n gwybod ond mae’n werth trio am ychydig o hwyl!

c
ysgrifennu cofnod newydd
j
cofnod nesaf/sylw nesaf
k
cofnod blaenorol/sylw blaenorol
r
ymateb
e
golygu
o
dangos/cuddio sylwadau
t
mynd i'r brig
l
mynd i fewngofnodi
h
dangos/cuddio cymorth
esc
diddymu