Adroddiad a sgyrsiau: Hacio’r Iaith Bach, Ebrill 2010, Caerdydd (un gair: ardderchog)
Aethon ni i Chapter, Caerdydd neithiwr (26 mis Ebrill 2010) am Hacio’r Iaith Bach – sesiwn sgwrs anffurfiol iawn. Diolch i bawb am ddod. Ces i amser da iawn. Neis i cwrdd â bobol ar y tro cyntaf.
Pynciau wnaethon ni trafod:
- Moodle, Blackboard a systemau i bobol sy’n dysgu/addysgu Cymraeg
- addysg a chynnwys (chwilio am Glantaf ar YouTube, dim digon o Gymraeg – canlyniadau siomedig)
- syniad am diwrnod/wythnos i dathlu Cymraeg arlein a hybu creu cynnwys (“Pethau Bychain” – rhywbryd eleni)
- ymchwil Daniel Cunliffe a Courtenay Honeycutt, erthygl am Facebook yn y Western Mail (rhan bach o’r erthygl arlein)
- Rhyngwynebau Cymraeg a chynnwys Cymraeg, oes unrhyw cysylltiad ystadegol? Pa mor pwysig yw rhyngwynebau Cymraeg gyda disgwyliadau/canfyddiadau? Ydy pobol yn creu mwy o gynnwys Cymraeg pan maen nhw yn defnyddio rhyngwynebau Cymraeg? (Angen ymchwil caled plis!) e.e. Facebook. Ond, enghraifft arall: YouTube, paid aros am byth am gyfieithiad y rhyngwyneb cyn lanlwytho dy fideos!
- Windows a meddalwedd swyddfa ayyb yn Gymraeg. Sut i newid dy Windows
- Democratiaeth, Etholiad 2010 a The Straight Choice
- Dr Cocos a Salwch Snobs, iPhone app ar gyfer plant bach
- Syniad am wefan: cwyno am wasanaeth Cymraeg
- Arduino a hacio caledwedd (cofnod ar y ffordd gobeithio rhywle)
- Gemau / mods
- Hacio’r Iaith a sesiynau anffurfiol agored
Dw i ddim wedi sgwennu popeth yma siŵr o fod. Mae sylwadau yn agor isod.
Roedd Hacio’r Iaith Bach yn HAWDD IAWN i drefnu! Hoffwn i weld pethau tebyg gyda’r un enw neu enwau gwahanol ledled Cymru. (Sut? 1. Gofynwch un neu dau ffrind am dyddiad/lleoliad; 2. Postiwch y manylion arlein fel sesiwn agored am ddim; 3. Ewch a siarad! Dau neu tri person yw digon ond byddwch yn agored i bobol newydd.)
Gobeithio dyn ni’n gallu trefnu rhywbeth debyg yn y dyfodol. Bydden ni ychwanegu manylion i’r tudalen digwyddiadau ar wici Hedyn.

Huw Waters 11:49 AM on 27 Ebrill 2010 Permalink
Ha. Dwi wrthi’n ysgrifennu rhywbeth am microreolwyr Arduino. Dyle fo fod ar gael heddiw.
Gareth Morlais 12:03 PM on 27 Ebrill 2010 Permalink
Diolch am drefnu neithiwr Carl. Wedi edrych ar sourcecode whatdotheyknow (cwyno am wasanaeth Cymraeg), a Rails yw’r code.
Carl Morris 12:50 PM on 27 Ebrill 2010 Permalink
Huw, mae dau cofnod yn well nag un – edrych ymlaen!
Gareth, mae datblygiad yn dechrau digwydd yma
http://haciaith.com/2010/04/26/cwyno-yn-gyflym-am-wasanaeth-cymraeg-gan-sefydliadau-cyhoeddus-syniad-gwefan-gan-aluneurig/
Diolch am ddod!
Huw Waters 10:07 PM on 27 Ebrill 2010 Permalink
Yn fan hyn:
http://www.newyddsbon.com/2010/04/duemilanove-a-bakertweet/
Adroddiad a sgyrsiau: Hacio’r Iaith Bach, Ebrill 2010, Caerdydd (un gair: ardderchog) | Quixotic Quisling 11:58 PM on 27 Ebrill 2010 Permalink
[...] Sgwennais i “adroddiad” am y digwyddiad Hacio’r Iaith Bach. [...]
Y we, technoleg a meddalwedd yn Eisteddfod Glyn Ebwy 2010 | Quixotic Quisling 12:17 PM on 6 Awst 2010 Permalink
[...] Oedd e’n plesir i weld Telsa eto. Fydda i ddim yn enwi’r eraill ond dylet ti dod tro nesaf os oes gyda ti unrhyw diddordeb yn y we, blogio, technoleg a meddalwedd yn y Gymraeg – dyn ni’n croesawi unrhyw oed, unrhyw lliw, benywod a dynion. Neu trefna digwyddiad dy hun yn dy ardal (sut?). [...]