Adroddiad a sgyrsiau: Hacio’r Iaith Bach, Ebrill 2010, Caerdydd (un gair: ardderchog)

Aethon ni i Chapter, Caerdydd neithiwr (26 mis Ebrill 2010) am Hacio’r Iaith Bach – sesiwn sgwrs anffurfiol iawn. Diolch i bawb am ddod. Ces i amser da iawn. Neis i cwrdd â bobol ar y tro cyntaf.

Pynciau wnaethon ni trafod:

  • Moodle, Blackboard a systemau i bobol sy’n dysgu/addysgu Cymraeg
  • addysg a chynnwys (chwilio am Glantaf ar YouTube, dim digon o Gymraeg – canlyniadau siomedig)
  • syniad am diwrnod/wythnos i dathlu Cymraeg arlein a hybu creu cynnwys (“Pethau Bychain” – rhywbryd eleni)
  • ymchwil Daniel Cunliffe a Courtenay Honeycutt, erthygl am Facebook yn y Western Mail (rhan bach o’r erthygl arlein)
  • Rhyngwynebau Cymraeg a chynnwys Cymraeg, oes unrhyw cysylltiad ystadegol? Pa mor pwysig yw rhyngwynebau Cymraeg gyda disgwyliadau/canfyddiadau? Ydy pobol yn creu mwy o gynnwys Cymraeg pan maen nhw yn defnyddio rhyngwynebau Cymraeg? (Angen ymchwil caled plis!) e.e. Facebook. Ond, enghraifft arall: YouTube, paid aros am byth am gyfieithiad y rhyngwyneb cyn lanlwytho dy fideos!
  • Windows a meddalwedd swyddfa ayyb yn Gymraeg. Sut i newid dy Windows
  • Democratiaeth, Etholiad 2010 a The Straight Choice
  • Dr Cocos a Salwch Snobs, iPhone app ar gyfer plant bach
  • Syniad am wefan: cwyno am wasanaeth Cymraeg
  • Arduino a hacio caledwedd (cofnod ar y ffordd gobeithio rhywle)
  • Gemau / mods
  • Hacio’r Iaith a sesiynau anffurfiol agored

Dw i ddim wedi sgwennu popeth yma siŵr o fod. Mae sylwadau yn agor isod.

Roedd Hacio’r Iaith Bach yn HAWDD IAWN i drefnu! Hoffwn i weld pethau tebyg gyda’r un enw neu enwau gwahanol ledled Cymru. (Sut? 1. Gofynwch un neu dau ffrind am dyddiad/lleoliad; 2. Postiwch y manylion arlein fel sesiwn agored am ddim; 3. Ewch a siarad! Dau neu tri person yw digon ond byddwch yn agored i bobol newydd.)

Gobeithio dyn ni’n gallu trefnu rhywbeth debyg yn y dyfodol. Bydden ni ychwanegu manylion i’r tudalen digwyddiadau ar wici Hedyn.

6 sylw

Mae'r sylwadau wedi cau.