Cwyno yn gyflym am wasanaeth Cymraeg gan sefydliadau cyhoeddus – syniad gwefan gan @aluneurig
Syniad gwefan – cwyno yn gyflym am wasanaeth Cymraeg gan sefydliadau cyhoeddus
Mae’n bosib gyda peiriant WhatDoTheyKnow neu FixMyStreet gan mySociety, ar gael dan trwydded cod agored

Rhodri ap Dyfrig 10:14 AM on 27 Ebrill 2010 Permalink
Syniad gwych. Allai o fod yn brosiect ar gyfer Cymdeithas yr Iaith? Werth cysylltu efo nhw i weld os gallan nhw roi cymorth.
Rhys Wynne 12:48 PM on 27 Ebrill 2010 Permalink
Dw i wedi bod yn sgwrsio am hyn gyda Alun yn y gorffenol, felly roedd yn dda gallu ei drafod ymhellach a chael barn eraill amdano.
Os ydy Cymru i gael Comisiynydd Iaith, byddai gwasanaeth o’r fath yn ardderchog ar gyfer casglu tystiolaeth, sparduno mwy i gwyno wrth iddynt weld bod eraill wedi gwneud hefyd, a gwneud y broses yn haws.
Mae cod WhatDoTheyKnow yma a FixMyStreet yma
WDTK v FMS
Yn bersonol, dw i’n meddwl mai WDTK yw’r opsiwn orau, gan ei fod yn handlo dogfennau’n well ac wedi ei selio o gwmpas sefydlaidau, tra mae FixMyStreet wedi ei adeiladu o gwmpas lleoliadau. Hefyd ar gyfer arwyddion gwallus, mae unrhyw lun Scymraeg gyda geodata wedi ei fapio’n barod
Dw i wedi bod yn meddwl mwy am y peth neithiwr a beth fyddai angen i ni wneud
Cyn dechrau, penderfynu ar
-pa sefydliadau sydd am gael eu cynnwys
-sut byddwn yn cyslltu/trosglwyddo cwynion atynt
-pwy arall faith gopi awtomatig o’r cwyn (BYIG, CYIG?)
-sut mae gerio pethau / pa fath o gwynio’n i’w hannog
Technegol (ddim yn siwr ym mha drefn)
-Mae’r cod wedi ei selio ar Ruby on Rails, felly angen ffeindio codwyr
-Llwytho’r cod ar weinydd
-Addasu’r geirfa + Cymreigio/Lleoleiddio
Pawb
-Addasu’r geirfa
-Lleoleiddio
-Dod o hyd i fanylion cyswllt (ebost) swyddogion iaith / adrannau cwynion sefydliadau cyhoeddus (+ unrhyw gwmniau eraill sy’n dod o dan Ddeddf Iaith 1993?)
Gareth Morlais 2:34 PM on 27 Ebrill 2010 Permalink
Rhys, dwi di lawrlwytho’r source. Oes na un directory sy’n dal yr holl ffeiliau iaith plis?
David John Evans 2:03 PM on 16 Mai 2010 Permalink
@Gareth – nag oes
Beth bynnag, dwi wedi cael yr enw parth http://cwyno.org .
Mae’r côd WDTK yn cuddio tu ôl i’r tudalen flaen diflas ‘na ar fy ngweinydd i.
Dwi’n cyfarwydd â RoR ac yn hollol fodlon i wneud unrhyw waith codio sy’ eisiau.
Cyn hynny, oes well i ni cwrdd eto (o dan baner Cymdeithas efalla’) i trafod yn union pa fath o wefan bydd hwn, sef y ‘functionality’ ayyb?
Rhys 8:55 PM on 16 Mai 2010 Permalink
Go dda David. Dw i’n cîn i gwrdd eto. Oes yna nrhyw waith cib a rhaw all nob-datblygwyr helpu gyda? Cysyllta i gyda Alan (rhag ofn nad ydi o’n dilyn y blog yma) ac efallai gallwn gwrdd eto’n fuan. dw i’n nabod un neu ddau aelod o CYIG, ac mae yna Rali y penwythnos nesa yma yng Nghaerdydd dw i’n meddwl – efallai bydd rhywun a diddordeb yno.
David John Evans 9:28 PM on 17 Mai 2010 Permalink
Wel, fasa hi’n syniad da cael blog, neu hyd yn oed paragraff neu ddau i esbonio pwynt y wefan (gwaith addas i rywun hefo cefndir cyfreithiol?). Siwr bydd angen dipyn bach o waith dylunio hefyd.
alun 6:04 PM on 18 Mai 2010 Permalink
Wel mae’n dda i weld bod na gymaint o diddordeb yn y syniad!
Fe hoffem cyfarfod fyny i drafod ymhellach beth fedrwn gwneud. Hoffwn fod yn ymwneud ar wefan ar sail parhaol, gwaith hybu, ymatebion, gweinyddu etc Er nid oes gennyf unrhyw syniadau am redeg y fath wefan. Ond mae fy nghefndir proffesiynol mewn datblygu iaith gymraeg yn y gwasanaethau cyhoeddus, fel mae gennyf cryn dipyn o arbenigedd.
Ar mater arall, dwi’n yn falch i weld fod popeth di symud yn gyflym. Dwi ddim, i fod yn hollol onest, ddim yn hoff o syniad o defnyddio cyfeiriad http://www.cwyno.org. Credai bod na rhywbeth negatif neu ‘downbeat’ amdano fo. Oes na siawns i ni feddwl am enw rhwybeth mwy creadigol, gyda ychydig o hiwmor?
ee. http://www.asiffeta.com fel (asiffeta, di hwn ddim yn y gymraeg)?
e.e. http://www.mawredd.com (eto mawredd, di hwn ddim yn gymraeg)?
alun 6:05 PM on 18 Mai 2010 Permalink
nai feddwl am syniadau enw gwell!
Rhys Wynne 9:20 PM on 29 Mai 2010 Permalink
@David, Ia, byddai blog bach falle’n syniad. Mi wna i setio un i fyny.
..ond yn cytuno bod angen meddwl am enw gwell na cwyno.org (er mae’n enw iawn am rwan i bobl gyferio ato).
Cynnig fi ydy OesGydaNiDdewis.com – bach o lond ceg falle, ond mae’n dilyn steil enwi gwefannau MySociety, ddim cweit mor negyddol a ‘cwyno’, ac yn tynnu coes ychydig ar ymgyrch (teilwng) BYIG, sef Mae gen ti dewis.
Carl Morris 9:59 PM on 29 Mai 2010 Permalink
Fersiwn wreiddiol yw Mae gen ti ddewis? (“gen” ac unigol), felly fersiwn newydd yw Oes gen i ddewis?… Mae’r brawddeg yn dda iawn ond ydy e’n rhy agos i’r fersiwn Bwrdd yr Iaith am yr enw? Bydd yn dda fel slogan dan y teitl yn fy marn i.
Mae Cwyno.org yn tyfu gyda fi. “Brand” da, hawdd i sillafu a byr iawn am Twitter ayyb (mae Cwyno.org yn byrrach na tinyurl.com) Mae’n eitha negyddol ond dyn ni’n gallu creu gwefan neis/moesgar. Mae David yn barod i ddechrau gyda fe!
Beth am
?
Carl Morris 11:35 PM on 29 Mai 2011 Permalink
Des i yma… waa blwyddyn wedyn i’r dim! Unrhyw alw am y wasanaeth yma?
Yn y cyf-amser dw i wedi dechrau tudalen Hedyn fel prawf.
http://hedyn.net/wici/Troseddau_Google_Translate_a_chyfieithu_peirianyddol
Rhys Wynne 1:03 PM on 14 Mehefin 2011 Permalink
Dan ni yn crap…
Yn y cyfamser, mae’r Bwrdd yn hyrwyddo ffurflen gwyno eu hunain
Hefyd, dyma enghraifft o system/syniad tebyg o gasglu cwynion/enghreifftiau o awdurdodau lleol yn camfihafio: Curating Crimes Against Democracy
Carl Morris 1:42 PM on 14 Mehefin 2011 Permalink
Ond mae’r Bwrdd yn dod i ben cyn hir…
Colin Nosworthy 2:02 PM on 14 Mehefin 2011 Permalink
Fi’n siwr y byddai gan y Gymdeithas ddiddordeb mawr yn hyn. Allai rhywun ebostio fi gyda’r hyn sydd angen gwneud. Gallwn ni ddarparu gwesteai a phob math o beth
Carl Morris 2:18 PM on 14 Mehefin 2011 Permalink
Gwendid y darpariaeth Bwrdd yw’r preifatrwydd y cynnwys (bydd e’n defnyddiol i weld y sylwadau o leiaf – fel cwsmer). Dylen ni ddechrau gyda rhywbeth syml iawn yn fy marn i. Beth am brototeip fel addasiad o feddalwedd blog neu wici neu meddalwedd mySociety?
e.e. gyda blog syml iawn fel prototeip, mae pob cofnod neu tudalen yn cwmni, e.e. HSBC yw cofnod, Cynulliad yw cofnod (!), BT yw cofnod. Mae’r thema wedi cael ei haddasu i golli’r dyddiau a phethau diangen. Wedyn dylen ni i gyd gadael sylw i brofi’r peth ac wedyn datblygu mwy. Dw i ddim yn meddwl bydd proses dylunio enfawr yn gweithio yma.
Nai ddatblygu rhywbeth yn y dyddiau nesaf. Sail am drafodaeth agored. Bydd unrhyw canlyniad dan GPL gyda chynnwys dan CC-BY.
Croeso i bobol eraill datblygu arbrofion wrth gwrs.
Colin Nosworthy 3:44 PM on 14 Mehefin 2011 Permalink
Rydych chi i gyd yn wych. Angen teitl fel “Mae gen ti hawl” yn hytrach na ‘dewis’.