Cwyno yn gyflym am wasanaeth Cymraeg gan sefydliadau cyhoeddus – syniad gwefan gan @aluneurig

Syniad gwefan – cwyno yn gyflym am wasanaeth Cymraeg gan sefydliadau cyhoeddus

Mae’n bosib gyda peiriant WhatDoTheyKnow neu FixMyStreet gan mySociety, ar gael dan trwydded cod agored

16 sylw

  1. Dw i wedi bod yn sgwrsio am hyn gyda Alun yn y gorffenol, felly roedd yn dda gallu ei drafod ymhellach a chael barn eraill amdano.

    Os ydy Cymru i gael Comisiynydd Iaith, byddai gwasanaeth o’r fath yn ardderchog ar gyfer casglu tystiolaeth, sparduno mwy i gwyno wrth iddynt weld bod eraill wedi gwneud hefyd, a gwneud y broses yn haws.

    Mae cod WhatDoTheyKnow yma a FixMyStreet yma

    WDTK v FMS
    Yn bersonol, dw i’n meddwl mai WDTK yw’r opsiwn orau, gan ei fod yn handlo dogfennau’n well ac wedi ei selio o gwmpas sefydlaidau, tra mae FixMyStreet wedi ei adeiladu o gwmpas lleoliadau. Hefyd ar gyfer arwyddion gwallus, mae unrhyw lun Scymraeg gyda geodata wedi ei fapio’n barod

    Dw i wedi bod yn meddwl mwy am y peth neithiwr a beth fyddai angen i ni wneud

    Cyn dechrau, penderfynu ar
    -pa sefydliadau sydd am gael eu cynnwys
    -sut byddwn yn cyslltu/trosglwyddo cwynion atynt
    -pwy arall faith gopi awtomatig o’r cwyn (BYIG, CYIG?)
    -sut mae gerio pethau / pa fath o gwynio’n i’w hannog

    Technegol (ddim yn siwr ym mha drefn)
    -Mae’r cod wedi ei selio ar Ruby on Rails, felly angen ffeindio codwyr
    -Llwytho’r cod ar weinydd
    -Addasu’r geirfa + Cymreigio/Lleoleiddio

    Pawb
    -Addasu’r geirfa
    -Lleoleiddio
    -Dod o hyd i fanylion cyswllt (ebost) swyddogion iaith / adrannau cwynion sefydliadau cyhoeddus (+ unrhyw gwmniau eraill sy’n dod o dan Ddeddf Iaith 1993?)

  2. @Gareth – nag oes 🙂

    Beth bynnag, dwi wedi cael yr enw parth http://cwyno.org .
    Mae’r côd WDTK yn cuddio tu ôl i’r tudalen flaen diflas ‘na ar fy ngweinydd i.

    Dwi’n cyfarwydd â RoR ac yn hollol fodlon i wneud unrhyw waith codio sy’ eisiau.

    Cyn hynny, oes well i ni cwrdd eto (o dan baner Cymdeithas efalla’) i trafod yn union pa fath o wefan bydd hwn, sef y ‘functionality’ ayyb?

  3. Go dda David. Dw i’n cîn i gwrdd eto. Oes yna nrhyw waith cib a rhaw all nob-datblygwyr helpu gyda? Cysyllta i gyda Alan (rhag ofn nad ydi o’n dilyn y blog yma) ac efallai gallwn gwrdd eto’n fuan. dw i’n nabod un neu ddau aelod o CYIG, ac mae yna Rali y penwythnos nesa yma yng Nghaerdydd dw i’n meddwl – efallai bydd rhywun a diddordeb yno.

  4. Wel, fasa hi’n syniad da cael blog, neu hyd yn oed paragraff neu ddau i esbonio pwynt y wefan (gwaith addas i rywun hefo cefndir cyfreithiol?). Siwr bydd angen dipyn bach o waith dylunio hefyd.

  5. Wel mae’n dda i weld bod na gymaint o diddordeb yn y syniad!
    Fe hoffem cyfarfod fyny i drafod ymhellach beth fedrwn gwneud. Hoffwn fod yn ymwneud ar wefan ar sail parhaol, gwaith hybu, ymatebion, gweinyddu etc Er nid oes gennyf unrhyw syniadau am redeg y fath wefan. Ond mae fy nghefndir proffesiynol mewn datblygu iaith gymraeg yn y gwasanaethau cyhoeddus, fel mae gennyf cryn dipyn o arbenigedd.

    Ar mater arall, dwi’n yn falch i weld fod popeth di symud yn gyflym. Dwi ddim, i fod yn hollol onest, ddim yn hoff o syniad o defnyddio cyfeiriad http://www.cwyno.org. Credai bod na rhywbeth negatif neu ‘downbeat’ amdano fo. Oes na siawns i ni feddwl am enw rhwybeth mwy creadigol, gyda ychydig o hiwmor?

    ee. http://www.asiffeta.com fel (asiffeta, di hwn ddim yn y gymraeg)?
    e.e. http://www.mawredd.com (eto mawredd, di hwn ddim yn gymraeg)?

  6. @David, Ia, byddai blog bach falle’n syniad. Mi wna i setio un i fyny.

    ..ond yn cytuno bod angen meddwl am enw gwell na cwyno.org (er mae’n enw iawn am rwan i bobl gyferio ato).

    Cynnig fi ydy OesGydaNiDdewis.com – bach o lond ceg falle, ond mae’n dilyn steil enwi gwefannau MySociety, ddim cweit mor negyddol a ‘cwyno’, ac yn tynnu coes ychydig ar ymgyrch (teilwng) BYIG, sef Mae gen ti dewis.

  7. Fersiwn wreiddiol yw Mae gen ti ddewis? (“gen” ac unigol), felly fersiwn newydd yw Oes gen i ddewis?… Mae’r brawddeg yn dda iawn ond ydy e’n rhy agos i’r fersiwn Bwrdd yr Iaith am yr enw? Bydd yn dda fel slogan dan y teitl yn fy marn i.

    Mae Cwyno.org yn tyfu gyda fi. “Brand” da, hawdd i sillafu a byr iawn am Twitter ayyb (mae Cwyno.org yn byrrach na tinyurl.com) Mae’n eitha negyddol ond dyn ni’n gallu creu gwefan neis/moesgar. Mae David yn barod i ddechrau gyda fe!

    Beth am
    – cwyno.org am y wefan y gwasanaeth
    – blog.cwyno.org am y blog (dolen i’r blog o bob tudalen)
    – “Oes gen i ddewis?” fel slogan (pob tudalen)
    – gwasanaeth 100% Cymraeg felly dw i’n awgrymu meddalwedd rydd WordPress am y blog
    ?

  8. Fi’n siwr y byddai gan y Gymdeithas ddiddordeb mawr yn hyn. Allai rhywun ebostio fi gyda’r hyn sydd angen gwneud. Gallwn ni ddarparu gwesteai a phob math o beth

  9. Gwendid y darpariaeth Bwrdd yw’r preifatrwydd y cynnwys (bydd e’n defnyddiol i weld y sylwadau o leiaf – fel cwsmer). Dylen ni ddechrau gyda rhywbeth syml iawn yn fy marn i. Beth am brototeip fel addasiad o feddalwedd blog neu wici neu meddalwedd mySociety?

    e.e. gyda blog syml iawn fel prototeip, mae pob cofnod neu tudalen yn cwmni, e.e. HSBC yw cofnod, Cynulliad yw cofnod (!), BT yw cofnod. Mae’r thema wedi cael ei haddasu i golli’r dyddiau a phethau diangen. Wedyn dylen ni i gyd gadael sylw i brofi’r peth ac wedyn datblygu mwy. Dw i ddim yn meddwl bydd proses dylunio enfawr yn gweithio yma.

    Nai ddatblygu rhywbeth yn y dyddiau nesaf. Sail am drafodaeth agored. Bydd unrhyw canlyniad dan GPL gyda chynnwys dan CC-BY.

    Croeso i bobol eraill datblygu arbrofion wrth gwrs.

  10. Rydych chi i gyd yn wych. Angen teitl fel “Mae gen ti hawl” yn hytrach na ‘dewis’.

Mae'r sylwadau wedi cau.