Updates from Ebrill, 2010 Toglu Trafodaethau mewn Sylwadau | Bysellau Brys

  • Gareth Morlais 11:16 AM ar 30 April 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , chwedlau, cube, , gem, , mabinogi,   

    Mabinogi – gwahoddiad i fewnosod gemau Cymraeg newydd are eich gwefan / blog 

    Mae Cube wedi creu pedair gem newydd ar wefan Mabinogi newydd BBC Cymru. Mae ‘na groeso i chi mewnosod rhain yn eich blog / gwefan chi.

    Telerau

     
  • Carl Morris 4:10 PM ar 29 April 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , , ,   

    Cymraeg a Facebook yn y Western Mail (erthygl lawn) 

    Trafodwch. Dydy Facebook ddim yn cyfrannu i’r broblem CYNNWYS agored ar y we. Mae cynnwys agored yn golygu agored i chwilio (Google ayyb) am blyneddoedd gyda dolenni.

    Facebook ‘could point the way for the Welsh language’; Study claims site is proving to be vital for delivering boost

    Claire Miller. Western Mail. Cardiff (UK): Apr 26, 2010. pg. 3

    Full Text (688 words)

    (Copyright 2010 Western Mail and Echo Ltd.)

    FACEBOOK could be the key to the Welsh language surviving and thriving, an academic study has claimed.

    Daniel Cunliffe, who carried out the study with Courtenay Honeycutt, said postings on the social networking site showed people becoming more accustomed to using Welsh in their everyday life and might give others the confidence to join the conversation, giving the language a boost.

    The researchers had set out to study the use of Welsh on the social networking site and found a thriving community.

    “The fact that the language is used on these sites makes people feel good about the language,” said Dr Cunliffe, of the University of Glamorgan.

    “There certainly seems to be a vibrant Welsh community on Facebook and that’s an encouraging thing.”

    The study looked at groups on Facebook where users communicated in Welsh and found, at the time of the study, 236 groups with an average of 398 members each, with the most central group in the network called How Many People Speak Welsh?.

    In 41.5% of these groups users communicated only in Welsh, with participants discussing a range of topics from sport and music, to student groups and organisations.

    The study also looked at profiles of users of the groups and found 58% of people used either just Welsh or Welsh and English for their personal details, although 29% of people had listed their details in English while having wall conversations in Welsh.

    Dr Cunliffe, who is based at the Department of Computing and Mathematical Sciences, at the University of Glamorgan, said: “What’s interesting is in those groups where Welsh is being used, they seem to have more than double the number of Welsh speakers than the proportion in Wales.

    “It appears to be an important forum for bringing together Welsh speakers.”

    Dr Cunliffe said the thriving community may encourage more people to use their language skills even if they have not been confident in the past.

    “One of the nice things about this more informal environment is that people aren’t that hung up on the correct use of the language,” he said. “It’s not going to be hostile if their spelling isn’t right or they use an English word because they can”t think of the Welsh one.”

    He is now keen to find out if young people who have attended Welsh-medium schools are using the language in their wall posts and text messages Aran Jones, who runs the website saysomethinginwelsh.com, said his experience of using Welsh on Facebook had been mixed.

    “A lot of people are coming under pressure to not use only Welsh as they have English speaking friends,” he said. “I’ve put up Facebook updates in Welsh and had friends say, ‘I can’t understand, can you write it in English’.

    “It’s a weird flashback to the 1950s or 1960s when if you spoke Welsh there was pressure to speak English.”

    However, he said use of the language on the site could help people who do not speak Welsh see that it is a thriving community language.

    Facebook has chosen to embrace the language, with speakers able to choose to experience the site in Welsh after volunteers helped to translate the site.

    The Welsh Language Society is keen to see other businesses embrace their users’ enthusiasm for the language in order to get sites translated.

    Vice-chairman Rhys Llwyd said: “The translation of Facebook into Welsh in such a small period of time by hundreds of volunteers was an amazing feat. It showed us that people, when given the chance, want to use their Welsh in all aspects of life including the latest technological developments such as social networks.

    “Having said that, Welsh Language Society members see it bizarre that social and entertainment services such as Facebook become available in Welsh before basic day-to-day services such as online banking.

    “Although it’s fun to Poke my friend and write on my brother’s wall in Welsh on Facebook, it would be more useful to be able to use my bank’s on-line service in my mother tongue.”

     
  • Hywel Jones 11:34 PM ar 27 April 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: Yahoo_Pipes,   

    Yahoo Pipes: adroddiadau Estyn 

    Es i gynhadledd AGI Cymru fis Rhagfyr diwethaf. Daliodd un o’r cyflwyniadau’n arbennig fy sylw, sef yr un ar Mobile GIS Mashups gan ddyn o Oxford Archaeology. Roedd yn frwd iawn am botensial Yahoo Pipes.  Doeddwn i ddim wedi dod ar ei draws cyn hynny a phenderfynais gael golwg arno rywbryd.

    Adroddais ar f’ymdrechion i geocodio lleoliadau ysgolion meithrin yn anghynhadledd Haciaith yn Aberystwyth ym mis Ionawr ac roedd gen i ddiddordeb felly i weld beth oedd Yahoo Pipes yn gallu ei wneud.

    Es ati i ddysgu sut i greu Pipe a dwi  wedi cyhoeddi dau ohonynt yn ddiweddar. Mae’r ddau’n eich galluogi i chwilio am adroddiad gan Estyn ar ysgol ond bod un yn dod o hyd i’r adroddiad Cymraeg (os oes un) a’r llall yn dod o hyd i adroddiadau Saesneg. Os ceisiwch nhw, fe welwch nad yw’r geocodio’n ddibynadwy iawn, yn enwedig yn y fersiwn Gymraeg. Mae’n amlwg nad yw API Yahoo yn llwyddiannus iawn am adnabod cyfeiriadau Cymraeg ond dydy’r Pipe sy’n chwilio am adroddiadau Saesneg ddim yn geocodio’n dda iawn chwaith. Y broblem yw bod Estyn yn cyhoeddi’r adroddiadau fel pdfs, a’r Pipe -rwy’n tybio – yn gorfod chwilio fersiwn html y pdf am rywbeth sy’n edrych fel cyfeiriad a dydy cyfeiriadau Cymraeg ddim yn edrych fel cyfeiriadau iddo.

    Mae’r Pipe yn codi darn ar hap o’r pdf i’w rhoi ym maes y disgrifiad. Os yw’r darn yn cynnwys enw’r ysgol a rhif yr ysgol mae’r Pipe yn rho’r enw’n deitl, a’r rhif yn y disgrifiad.

    Ta beth, rhowch gynnig arnyn nhw. Os ydych yn gallu awgrymu ffordd o’u gwella byddwn yn falch o glywed.

    Pipe chwilio am adroddiad Cymraeg
    Pipe chwilio am adroddiad Saesneg

     
  • Carl Morris 11:21 AM ar 27 April 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , Blackboard, , , , , , , Moodle, , ,   

    Adroddiad a sgyrsiau: Hacio’r Iaith Bach, Ebrill 2010, Caerdydd (un gair: ardderchog) 

    Aethon ni i Chapter, Caerdydd neithiwr (26 mis Ebrill 2010) am Hacio’r Iaith Bach – sesiwn sgwrs anffurfiol iawn. Diolch i bawb am ddod. Ces i amser da iawn. Neis i cwrdd â bobol ar y tro cyntaf.

    Pynciau wnaethon ni trafod:

    • Moodle, Blackboard a systemau i bobol sy’n dysgu/addysgu Cymraeg
    • addysg a chynnwys (chwilio am Glantaf ar YouTube, dim digon o Gymraeg – canlyniadau siomedig)
    • syniad am diwrnod/wythnos i dathlu Cymraeg arlein a hybu creu cynnwys (“Pethau Bychain” – rhywbryd eleni)
    • ymchwil Daniel Cunliffe a Courtenay Honeycutt, erthygl am Facebook yn y Western Mail (rhan bach o’r erthygl arlein)
    • Rhyngwynebau Cymraeg a chynnwys Cymraeg, oes unrhyw cysylltiad ystadegol? Pa mor pwysig yw rhyngwynebau Cymraeg gyda disgwyliadau/canfyddiadau? Ydy pobol yn creu mwy o gynnwys Cymraeg pan maen nhw yn defnyddio rhyngwynebau Cymraeg? (Angen ymchwil caled plis!) e.e. Facebook. Ond, enghraifft arall: YouTube, paid aros am byth am gyfieithiad y rhyngwyneb cyn lanlwytho dy fideos!
    • Windows a meddalwedd swyddfa ayyb yn Gymraeg. Sut i newid dy Windows
    • Democratiaeth, Etholiad 2010 a The Straight Choice
    • Dr Cocos a Salwch Snobs, iPhone app ar gyfer plant bach
    • Syniad am wefan: cwyno am wasanaeth Cymraeg
    • Arduino a hacio caledwedd (cofnod ar y ffordd gobeithio rhywle)
    • Gemau / mods
    • Hacio’r Iaith a sesiynau anffurfiol agored

    Dw i ddim wedi sgwennu popeth yma siŵr o fod. Mae sylwadau yn agor isod.

    Roedd Hacio’r Iaith Bach yn HAWDD IAWN i drefnu! Hoffwn i weld pethau tebyg gyda’r un enw neu enwau gwahanol ledled Cymru. (Sut? 1. Gofynwch un neu dau ffrind am dyddiad/lleoliad; 2. Postiwch y manylion arlein fel sesiwn agored am ddim; 3. Ewch a siarad! Dau neu tri person yw digon ond byddwch yn agored i bobol newydd.)

    Gobeithio dyn ni’n gallu trefnu rhywbeth debyg yn y dyfodol. Bydden ni ychwanegu manylion i’r tudalen digwyddiadau ar wici Hedyn.

     
  • Carl Morris 11:37 PM ar 26 April 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , , Cysgair, , Excel, , , To Bach, , Word   

    Sut i newid dy feddalwedd i Gymraeg – Windows, Word, Excel, Office, Facebook, Cysill, Cysgair, To Bach 

    Fideo cynorthwyol i bobol sy ddim yn gwybod sut i newid feddalwedd i Gymraeg

     
  • Carl Morris 11:13 PM ar 26 April 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , , , , plant   

    Meddalwedd ar gyfer plant bach ar iPhone gyda @malpate 

    Stori ar gyfer plant bach ar iPhone

    Beth yw’r enw meddalwedd, unrhyw un?

     
  • Carl Morris 10:49 PM ar 26 April 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , gwasanaethau, ,   

    Cwyno yn gyflym am wasanaeth Cymraeg gan sefydliadau cyhoeddus – syniad gwefan gan @aluneurig 

    Syniad gwefan – cwyno yn gyflym am wasanaeth Cymraeg gan sefydliadau cyhoeddus

    Mae’n bosib gyda peiriant WhatDoTheyKnow neu FixMyStreet gan mySociety, ar gael dan trwydded cod agored

     
    • Rhodri ap Dyfrig 10:14 AM ar 27 Ebrill 2010 Dolen Barhaol

      Syniad gwych. Allai o fod yn brosiect ar gyfer Cymdeithas yr Iaith? Werth cysylltu efo nhw i weld os gallan nhw roi cymorth.

    • Rhys Wynne 12:48 PM ar 27 Ebrill 2010 Dolen Barhaol

      Dw i wedi bod yn sgwrsio am hyn gyda Alun yn y gorffenol, felly roedd yn dda gallu ei drafod ymhellach a chael barn eraill amdano.

      Os ydy Cymru i gael Comisiynydd Iaith, byddai gwasanaeth o’r fath yn ardderchog ar gyfer casglu tystiolaeth, sparduno mwy i gwyno wrth iddynt weld bod eraill wedi gwneud hefyd, a gwneud y broses yn haws.

      Mae cod WhatDoTheyKnow yma a FixMyStreet yma

      WDTK v FMS
      Yn bersonol, dw i’n meddwl mai WDTK yw’r opsiwn orau, gan ei fod yn handlo dogfennau’n well ac wedi ei selio o gwmpas sefydlaidau, tra mae FixMyStreet wedi ei adeiladu o gwmpas lleoliadau. Hefyd ar gyfer arwyddion gwallus, mae unrhyw lun Scymraeg gyda geodata wedi ei fapio’n barod

      Dw i wedi bod yn meddwl mwy am y peth neithiwr a beth fyddai angen i ni wneud

      Cyn dechrau, penderfynu ar
      -pa sefydliadau sydd am gael eu cynnwys
      -sut byddwn yn cyslltu/trosglwyddo cwynion atynt
      -pwy arall faith gopi awtomatig o’r cwyn (BYIG, CYIG?)
      -sut mae gerio pethau / pa fath o gwynio’n i’w hannog

      Technegol (ddim yn siwr ym mha drefn)
      -Mae’r cod wedi ei selio ar Ruby on Rails, felly angen ffeindio codwyr
      -Llwytho’r cod ar weinydd
      -Addasu’r geirfa + Cymreigio/Lleoleiddio

      Pawb
      -Addasu’r geirfa
      -Lleoleiddio
      -Dod o hyd i fanylion cyswllt (ebost) swyddogion iaith / adrannau cwynion sefydliadau cyhoeddus (+ unrhyw gwmniau eraill sy’n dod o dan Ddeddf Iaith 1993?)

    • Gareth Morlais 2:34 PM ar 27 Ebrill 2010 Dolen Barhaol

      Rhys, dwi di lawrlwytho’r source. Oes na un directory sy’n dal yr holl ffeiliau iaith plis?

    • David John Evans 2:03 PM ar 16 Mai 2010 Dolen Barhaol

      @Gareth – nag oes :)

      Beth bynnag, dwi wedi cael yr enw parth http://cwyno.org .
      Mae’r côd WDTK yn cuddio tu ôl i’r tudalen flaen diflas ‘na ar fy ngweinydd i.

      Dwi’n cyfarwydd â RoR ac yn hollol fodlon i wneud unrhyw waith codio sy’ eisiau.

      Cyn hynny, oes well i ni cwrdd eto (o dan baner Cymdeithas efalla’) i trafod yn union pa fath o wefan bydd hwn, sef y ‘functionality’ ayyb?

    • Rhys 8:55 PM ar 16 Mai 2010 Dolen Barhaol

      Go dda David. Dw i’n cîn i gwrdd eto. Oes yna nrhyw waith cib a rhaw all nob-datblygwyr helpu gyda? Cysyllta i gyda Alan (rhag ofn nad ydi o’n dilyn y blog yma) ac efallai gallwn gwrdd eto’n fuan. dw i’n nabod un neu ddau aelod o CYIG, ac mae yna Rali y penwythnos nesa yma yng Nghaerdydd dw i’n meddwl – efallai bydd rhywun a diddordeb yno.

    • David John Evans 9:28 PM ar 17 Mai 2010 Dolen Barhaol

      Wel, fasa hi’n syniad da cael blog, neu hyd yn oed paragraff neu ddau i esbonio pwynt y wefan (gwaith addas i rywun hefo cefndir cyfreithiol?). Siwr bydd angen dipyn bach o waith dylunio hefyd.

    • alun 6:04 PM ar 18 Mai 2010 Dolen Barhaol

      Wel mae’n dda i weld bod na gymaint o diddordeb yn y syniad!
      Fe hoffem cyfarfod fyny i drafod ymhellach beth fedrwn gwneud. Hoffwn fod yn ymwneud ar wefan ar sail parhaol, gwaith hybu, ymatebion, gweinyddu etc Er nid oes gennyf unrhyw syniadau am redeg y fath wefan. Ond mae fy nghefndir proffesiynol mewn datblygu iaith gymraeg yn y gwasanaethau cyhoeddus, fel mae gennyf cryn dipyn o arbenigedd.

      Ar mater arall, dwi’n yn falch i weld fod popeth di symud yn gyflym. Dwi ddim, i fod yn hollol onest, ddim yn hoff o syniad o defnyddio cyfeiriad http://www.cwyno.org. Credai bod na rhywbeth negatif neu ‘downbeat’ amdano fo. Oes na siawns i ni feddwl am enw rhwybeth mwy creadigol, gyda ychydig o hiwmor?

      ee. http://www.asiffeta.com fel (asiffeta, di hwn ddim yn y gymraeg)?
      e.e. http://www.mawredd.com (eto mawredd, di hwn ddim yn gymraeg)?

    • alun 6:05 PM ar 18 Mai 2010 Dolen Barhaol

      nai feddwl am syniadau enw gwell!

    • Rhys Wynne 9:20 PM ar 29 Mai 2010 Dolen Barhaol

      @David, Ia, byddai blog bach falle’n syniad. Mi wna i setio un i fyny.

      ..ond yn cytuno bod angen meddwl am enw gwell na cwyno.org (er mae’n enw iawn am rwan i bobl gyferio ato).

      Cynnig fi ydy OesGydaNiDdewis.com – bach o lond ceg falle, ond mae’n dilyn steil enwi gwefannau MySociety, ddim cweit mor negyddol a ‘cwyno’, ac yn tynnu coes ychydig ar ymgyrch (teilwng) BYIG, sef Mae gen ti dewis.

    • Carl Morris 9:59 PM ar 29 Mai 2010 Dolen Barhaol

      Fersiwn wreiddiol yw Mae gen ti ddewis? (“gen” ac unigol), felly fersiwn newydd yw Oes gen i ddewis?… Mae’r brawddeg yn dda iawn ond ydy e’n rhy agos i’r fersiwn Bwrdd yr Iaith am yr enw? Bydd yn dda fel slogan dan y teitl yn fy marn i.

      Mae Cwyno.org yn tyfu gyda fi. “Brand” da, hawdd i sillafu a byr iawn am Twitter ayyb (mae Cwyno.org yn byrrach na tinyurl.com) Mae’n eitha negyddol ond dyn ni’n gallu creu gwefan neis/moesgar. Mae David yn barod i ddechrau gyda fe!

      Beth am
      - cwyno.org am y wefan y gwasanaeth
      - blog.cwyno.org am y blog (dolen i’r blog o bob tudalen)
      - “Oes gen i ddewis?” fel slogan (pob tudalen)
      - gwasanaeth 100% Cymraeg felly dw i’n awgrymu meddalwedd rydd WordPress am y blog
      ?

    • Carl Morris 11:35 PM ar 29 Mai 2011 Dolen Barhaol

      Des i yma… waa blwyddyn wedyn i’r dim! Unrhyw alw am y wasanaeth yma?

      Yn y cyf-amser dw i wedi dechrau tudalen Hedyn fel prawf.
      http://hedyn.net/wici/Troseddau_Google_Translate_a_chyfieithu_peirianyddol

    • Rhys Wynne 1:03 PM ar 14 Mehefin 2011 Dolen Barhaol

      Dan ni yn crap…

      Yn y cyfamser, mae’r Bwrdd yn hyrwyddo ffurflen gwyno eu hunain
      Hefyd, dyma enghraifft o system/syniad tebyg o gasglu cwynion/enghreifftiau o awdurdodau lleol yn camfihafio: Curating Crimes Against Democracy

    • Carl Morris 1:42 PM ar 14 Mehefin 2011 Dolen Barhaol

      Ond mae’r Bwrdd yn dod i ben cyn hir…

    • Colin Nosworthy 2:02 PM ar 14 Mehefin 2011 Dolen Barhaol

      Fi’n siwr y byddai gan y Gymdeithas ddiddordeb mawr yn hyn. Allai rhywun ebostio fi gyda’r hyn sydd angen gwneud. Gallwn ni ddarparu gwesteai a phob math o beth

    • Carl Morris 2:18 PM ar 14 Mehefin 2011 Dolen Barhaol

      Gwendid y darpariaeth Bwrdd yw’r preifatrwydd y cynnwys (bydd e’n defnyddiol i weld y sylwadau o leiaf – fel cwsmer). Dylen ni ddechrau gyda rhywbeth syml iawn yn fy marn i. Beth am brototeip fel addasiad o feddalwedd blog neu wici neu meddalwedd mySociety?

      e.e. gyda blog syml iawn fel prototeip, mae pob cofnod neu tudalen yn cwmni, e.e. HSBC yw cofnod, Cynulliad yw cofnod (!), BT yw cofnod. Mae’r thema wedi cael ei haddasu i golli’r dyddiau a phethau diangen. Wedyn dylen ni i gyd gadael sylw i brofi’r peth ac wedyn datblygu mwy. Dw i ddim yn meddwl bydd proses dylunio enfawr yn gweithio yma.

      Nai ddatblygu rhywbeth yn y dyddiau nesaf. Sail am drafodaeth agored. Bydd unrhyw canlyniad dan GPL gyda chynnwys dan CC-BY.

      Croeso i bobol eraill datblygu arbrofion wrth gwrs.

    • Colin Nosworthy 3:44 PM ar 14 Mehefin 2011 Dolen Barhaol

      Rydych chi i gyd yn wych. Angen teitl fel “Mae gen ti hawl” yn hytrach na ‘dewis’.

  • Carl Morris 1:53 PM ar 22 April 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , is-deitlau,   

    Is-deitlau YouTube 

    Sut

    http://quixoticquisling.com/2010/04/sut-i-wneud-is-deitlau-ar-youtube/

     
  • Carl Morris 3:24 PM ar 18 April 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , film   

    Filmdash 

    Syniad da – creuwch ffilm byr mewn 48 awr.

    http://filmdash.com

    Enillwr eleni.

    http://filmdash.com/2010/03/17/winner-film-dash-2010/

     
  • Carl Morris 11:34 PM ar 17 April 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , cod post,   

    Cod post API 

    Ewch i’r tudalen
    openlylocal.com/areas/postcodes/DY_CÔD_POST_YMA
    am wybodaeth ddefnyddiol yn dy ardal.

    Defnyddiwch priflythyren neu lythrennau bach. Dim gofod.

    e.e. http://openlylocal.com/areas/postcodes/CF51QE
    (Chapter Caerdydd, lleoliad Hacio’r Iaith Bach mis yma)

    Ychwanegwch .xml neu .json am fersiwn XML/JSON. Peidiwch anghofio lledred a hydred. Mwynhewch.

     
c
ysgrifennu cofnod newydd
j
cofnod nesaf/sylw nesaf
k
cofnod blaenorol/sylw blaenorol
r
ymateb
e
golygu
o
dangos/cuddio sylwadau
t
mynd i'r brig
l
mynd i fewngofnodi
h
dangos/cuddio cymorth
esc
diddymu