Updates from Chwefror, 2010 Toglu Trafodaethau mewn Sylwadau | Bysellau Brys

  • Carl Morris 10:23 PM ar 16 February 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: hybrid, , ,   

    Thema Hybrid am WordPress. Gwasg bach, help plis! 

    Bron gorffen gyda thema Hybrid am WordPress. Ychydig i fynd.

    http://docs.google.com/View?id=ddg65vwh_66d589dgf2

    Enghraifft, dychmyga fersiwn yn Gymraeg! Ti’n gallu adeiladu dy thema dy hun ar y top.

    Byddan ni rhyddhau y cyfieithiad i bawb fel côd agored dan GPL.

     
    • Carl Morris 12:45 AM ar 19 Chwefror 2010 Dolen Barhaol

      Ychydig mwy!

      Dyn ni’n gallu ail-ddefnyddio popeth yn themâu eraill. Bydd e’n hawsaf bob thema.

      Mae cenedlaethau dyfodol yn dy ddiolch di!

  • Rhodri ap Dyfrig 10:47 PM ar 15 February 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: dosbarthu digidol, dvd, , Gwales   

    Annwyl Gwales, Pan da chi’n diweddaru e… 

    Annwyl Gwales,

    Pan da chi’n diweddaru eich gwefan nesaf, wnewch chi wneud yn siwr bod pobol yn gallu lawrlwytho ffilmiau Cymraeg oddi yno?

    Does dim posib cael gafael ar Hedd Wyn rhagor hyd yn oed. Mae bron pob dysgwr dwi’n siarad â nhw eisiau gwylio ffilmiau. Ydi hi ddim yn hen bryd sortio hyn?

    Cofion cynnes,

    Rhodri

     
    • Carl Morris 1:52 AM ar 16 Chwefror 2010 Dolen Barhaol

      Mae cynllun busnes yma os rhywun eisiau wneud hwn eu hun?
      http://docs.google.com/View?id=ddg65vwh_28hdm75rks

      Dw i’n iawn gyda Hedd Wyn, er oedd rhaid i mi brynu’r fersiwn addysg am £25. Ble mae’r pris neis? GWALLGOF

    • Rhodri ap Dyfrig 10:10 AM ar 16 Chwefror 2010 Dolen Barhaol

      waw, gwych Carl. Ma angen i rywun wneud hwn. Gallai na fod arian i wneud ynddo hyd yn oed. (shock horror!)

    • Carl Morris 10:14 PM ar 16 Chwefror 2010 Dolen Barhaol

      Dw i dal yn chwilio am enwau rhaglenni. Hoffwn i wneud e rhywbryd. Ond faswn i ddim yn poeni os gallai rhywun arall wneud e cynt.

  • Rhodri ap Dyfrig 10:22 PM ar 15 February 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau:   

    Da chi’n meddwl allwn ni ofyn i Facebook a Twitter gau o lawr am wythnos i ddefnyddwyr Cymraeg er mwyn annog nhw i ddechrau blogio? ;-)

    http://bloghebenw.blogspot.com/2004/09/codi-pais-dechre-pisio.html

    Wnaeth cau maes-e yn 2004 rili annog mwy o bobol i ddechrau blogio?

     
  • Carl Morris 2:20 PM ar 12 February 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: datagov data arian   

    Arian am dy wasanaeth adeiladwyd ar data.gov.uk? 

    £100,000 os ti’n defnyddio http://data.gov.uk am wasanaeth newydd

    http://www.4ip.org.uk/blog/post/facebook_link_up_with_4_the_people/

     
  • Carl Morris 1:26 PM ar 11 February 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: ,   

    Blogiau/gwefannau newyddion sy’n cysgu 

    Ar Hedyn, dw i’n casglu Blogiau/gwefannau newyddion sy’n cysgu.

    Os ti’n gallu sgwennu mwy, bydd e’n wych. Diolch

     
  • Carl Morris 12:59 PM ar 11 February 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: cymuned, , , kingscross,   

    Newyddion lleol 

    Dw i’n meddwl am newyddion lleol ar ôl sylw Rhodri.

    Mae llawer o bobol o gwmpas y byd yn rhedeg gwefannau hyperlocal yn barod.

    e.e. King’s Cross

    http://www.kingscrossenvironment.com

    mae cyfranwyr yn “safonol”, unrhyw oedran http://www.kingscrossenvironment.com/contact.html

    Mae’n hawdd iawn i ddechrau rhywbeth fel hwn am dy gymuned…

     
    • Rhys Wynne 11:54 AM ar 12 Chwefror 2010 Dolen Barhaol

      Mae hyn mor hawdd i’w creu, mae’n, criminal bron nad oes rhai Cymraeg yn bodoli (newydd ffeindio http://caerdydd.biz/ ). Gelli’r danfon timau (fel SWAT teams!) i ardaloedd penodol a threfnu gweithdai, efallai ar ffurf End Bloglessness.

      Efallai dylai’r Thema WordPress nesa i’w leoleiddio fod yn un ar gyfer cylchgrawn?

      Rhai enghreifftiau o flogiau/wefannau lleol Cymreig:
      http://rhuthun.blogspot.com/ (canolbyntio ar iechyd y stryd fawr yn fwy na newyddion)
      http://www.capturecardiff.com/ (waw, cynhwysfawr!)
      http://www.llandaffnews.com/

    • Carl Morris 3:20 PM ar 12 Chwefror 2010 Dolen Barhaol

      Chwarae teg, http://caerdydd.biz !

      Eitha neis, ond pwy yw e?
      http://samspade.org/whois/caerdydd.biz

    • Carl Morris 3:53 PM ar 12 Chwefror 2010 Dolen Barhaol

      Gyda llaw, mae hwn yn wych.
      http://druidsrevenge.blogspot.com
      (Ynys Mon, Saesneg)

    • Carl Morris 4:02 PM ar 12 Chwefror 2010 Dolen Barhaol

    • Dafydd Tomos 6:33 PM ar 12 Chwefror 2010 Dolen Barhaol

      O’n i’n meddwl fod Menter Caerdydd tu ôl caerdydd.biz (pam dewis .biz? Pam!?). Penri Williams wnaeth ei greu e – mae’n enwog am greu cannoedd o wefannau echrydus o ran dylunio, ond lled-ddefnyddiol o ran gwybodaeth (a mi fydde nhw hyd yn oed yn fwy defnyddiol gyda cynllun a strwythur call). Dwi’n meddwl fod llawer o’r newyddion yn cael ei ‘fenthyg’ o wahanol lefydd a’r digwyddiadau o Menter Caerdydd.

    • Menna 11:56 PM ar 13 Chwefror 2010 Dolen Barhaol

      Dwi wedi cael syniad wythnos hyn a hoffwn i gael eich ymateb:

      Roeddwn i’n flin iawn i glywed fod y siop lle dwi’n prynu fy esgudiau, Sodlau Swanci, Heol y Bont, Caerfyrddin, wedi cau. Er i fi gael lot o swtff yno ar y sêl clirio stoc, ro’n i’n anhapus iawn achos ro’n i wrth fy modd gyda’r siop a gadawyd fi gyda’r cwestiwn – lle dwi’n mynd i brynu sgidiau nawr?

      Y peth yw, doedd lot o bobl sy’n siopa yng Nghaerfyrddin yn aml ddim yn gwybod am y siop tan i fi ddweud wrthyn nhw, ac os nad oes ganddoch chi’r wybodaeth leol mae’n gallu bod yn anodd ffeindio siopau da yma.

      Felly, y syniad yw gwefan gyda gwybodaeth am siopau annibynnol da gyda’r pwyslais o helpu bobl i ddod i wybod am siopau da. Hoffwn i weld map o Gymru, a pan chi’n symud drosto Caerfyrddin mae na arwydd yn popio fyny yn dweud 6 siop ddillad, 3 siop fwyd, 2 siop amrywiol (dibynnu faint o siopau o Gaerfyrddin sydd wedi eu rhestru) Wedyn bydde modd mynd i ‘siopau esgudiau Caerfyrddin’, clicio ar enw’r siop a darllen adolygiad o’r siop gan rywun sydd wedi bod yno. Byddai adolygiad yn cynnwys beth mae’r siop yn gwerthu, gwybodaeth am brisiau, gwasanaeth etc Bydd gwybodaeth am siop yn ymddangos dim ond os oes ganddon ni adolygiad o’r siop (ac wrth adolygiad, ddim eisiau pethau tu hwnt o feirniadol achos mae’n rhaid bod yn ymwybodol o chwaethau gwahanol pobl felly rhaid i’r adolygiad son am y profiad o siopa yno a be gall pobl ei ddisgwyl – heb fod yn ddisgrifiad moel basically – achos mae’r profiad o siopa mewn siopau annibynnol yn hollol wahanol i siopau cadwyn).

      Dwi ddim yn gwybod union sut ond hoffwn i wneud ychydig o arian i dalu adolygwyr (dim i ddechrau wrth gwrs ond nes ymlaen) Y rheolau yw: 1) rhaid i’r siop fod yn annibynnol 2) rhaid fod yr adolygwr wedi bod yn y siop! Roeddwn i’n meddwl dechrau gyda siopau ffasiwn i ddechrau a gweithio mas o fan na, ond mae’n dibynnu pwy sydd a diddordeb cyfrannu hefyd.

      Gobeithio byddai pobl eisiau cyfrannu a sgwennu rhywbeth byr am eu hoff siop er mwyn rhannu’r gwybodaeth gyda pobl eraill am siopau da (ac wrth gwrs hybu siopau annibynnol yr un pryd ond y nod yw ffeindio siopau bach da ym mhob rhan o Gymru)

      Menna

      Re Penri Williams, credu mai fe sy’n rhedeg gwefan Mudiadau Dathlu’r Gymraeg http://www.dathlu.org/index.php

    • Carl Morris 8:13 PM ar 14 Chwefror 2010 Dolen Barhaol

      Menna, dw i’n hoffi’r syniad.

      Dw i’n hapus i adeiladu’r wefan. Fy athroniaeth yw:
      Dechrau rhywbeth nawr
      Tyfu dros amser

      Cynnwys yw’r peth pwysicach. Efallai dechrau gyda 20-30 erthygl – cyn “lansiad”. Ti’n gallu gwneud mapiau a phopeth hwyrach. Dw i’n hapus i gyfrannu heb arian ar y cychwyn.

      Enw
      Ro’n i’n mynd i awgrymu “Pethau Bychain”. Dw i’n hoffi “chain” ar y diwedd. Ond mae rhywun yn defnyddio’r un enw yn barod. Enw yw’r peth nesaf?

    • Rhys Wynne 2:20 PM ar 17 Chwefror 2010 Dolen Barhaol

      Menna, byddai diddordeb mawr gyda fi gyfrannu at wefan o’r fath (cyn belled nad dim siopai sgidiau merched yn unig fydd arno). Fel mae’n digwydd, mae @iwan1davies yn adeiladu rhywbeth tebyg fel rhan o’r gwrs prifysgol, ond roedd problem technegol gyda fo yn ystod Hacio’r Iaith, felly ges i ddim cyfle i’w weld.

      Mae nifer fawr o wefannau adolygu i’w cael wrth gwrs, ond dim un yn Gymraeg, ac mae’r unig un sy’n canolbwyntio ar Gymru yn eitha symol.

      Fy hoff un i ydy qype,com a dw i'n tagio llefydd ble mae gwasanaeth Cymraeg arno.

      Mae Chris Cope wedi meddwl am rhywbeth tebyg hefyd:

      Un peth dw i ddim yn cydfynd a ti yw talu pobl am eu adolygiadau. Efallai bod modd rhoi anrhegion neu rhywbeth fel gwobr i’r cyfranwyr mwyaff ffyddlo, ond yn y bon dylai’r gallu bod a ffordd hawdd i ddarllen barn/cyngor/awgrymiadau pobl eraill like minded am lefydd eraill fod yn ddigon o wobr i bobl yn fy marn i.

      Liciwn i weld rhywbeth fel hyn ar gyfer bwytai (upmarket) Cymru. Mae’r adolygiadau yn Barn yn wych a byddai adeiladu gwefan/gwasnaeth o amgylch eu hadolygiadu nhw, gan fanteisio e eu ‘brand’ yn syniad da yn fy marn i.

      Yr unig broblem gyda Chymru yn arbennig yn Gymu Cymraeg yw e fod mor fach a bod pawb yn nabod pawb, ac felly efallai ofn pechu gyda adolygiadau gwael.

    • Menna 7:57 PM ar 17 Chwefror 2010 Dolen Barhaol

      Diolch Rhys.

      Dwi’n hoffi gwefan qype – mae’n edrych fel y fath o beth o’n i’n meddwl amdano.

      Yr unig beth yw dwi ddim eisiau gwefan sydd on yn rhestru llefydd Cymraeg, sy’n cael ei redeg gan Gymry Cymraeg yn unig – mae’n siwr bod rhai pobl yn chwilio am rhywbeth fel hyn ond dwi ddim eisiau hynna. O ran hybu’r Gymraeg, fy syniad i yw y byddai’r adolygiad yn cynnwys un frawddeg yn cyfeirio at a oes gwasanaeth Cymraeg ar gael e.e. ‘Roedd yn braf gweld arwyddion Cymraeg ac roedd y ferch tu ôl y til yn ceisio deall pan nes i siarad Cymraeg â hi’ neu ‘Er ei bod hi’n dda iawn siopa yno, roedd hi’n siomedig nad oedd un arwydd Cymraeg ag ystyried ei bod yng Nghaerfyrddin.’ Yn ogystal â rhoi gwybodaeth i’r darllenydd, mae hefyd yn rhoi neges i’r siop bod hyn yn bwysig i’r cwsmer yng Nghymru (credu gallen ni ebostio dolen i’r adolygiad at y siop falle?)

      O ran talu adolygwyr – fi’n cytuno gyda ti am yr egwyddor. O’n i jyst yn meddwl os mae’n mynd yn dda galle fod ffordd o wneud arian, neu bod y siopau yn rhoi ‘vouchers’ ar y wefan neu rhywbeth!

      Dwi’n dwli ar adolygiadau Barn hefyd…gallen ni gael dwy ran i’r adran _siopau a _bwytai os bydde rhywun arall eisiau rhedeg yr adran fwytai? Gad fi wybod os oes diddordeb gyda ti.

      Pan dwi’n darllen cylchgrawn Lonely Planet dwi’n hoffi edrych ar y maps bach o ardaloedd lle mae gyda nhw dots gwahanol lliwiau am lle bwyta, siopau a atyniadau, sy’n gret achos os dwi’n gweld clwstwr o wahanol liwiau ar bwys ei gilydd dwi’n meddwl ‘w, gallen i fynd i’r amgueddfa yna, siop yna ac wedyn i’r caffi dros y ffordd’.

      Dwi wedi meddwl am enw posib: Lle Da
      Achos ma pobl o hyd yn dweud ‘ma hwnna’n le da i….’ neu ‘….. – lle da!’
      http://www.lleda.com

    • Rhys Wynne 9:52 PM ar 17 Chwefror 2010 Dolen Barhaol

      Cytuna gyda ti na ddylid dim ond cynnwys busnesau sydd a siaradwyr Cymrag yn unig, ac mai cael gwefan a chynnwys Cymraeg yw’r bwriad. Ta beth, mae ambell gyfeiriadur busnes Cymraeg yn bodoli, e.e. http://www.llearywe.com, a gobeithio bydd http://www.lleolimi.co.uk/ yn fyw yn fuan).

      Mae siopa a bwyta yn mynd law yn llaw, felly gall y ddau beth gyd fynd ar un gwefan.

      O ran mapiau, pan dw i’n ymweld a dinas newydd, dw i wastad eisiau syniad o pa mor agos at ei gilydd fydd popeth dw i am ymweld a nhw. Dw i’n eitha licio Tagzania (roedd rhyngwyneb Cymraeg, ond mae wedi diflannu ers uwchraddio), ond galli di greu rhai hefyd yn defnydio MyMaps ar GoogleMaps (fel wnaeth Rhys Llwyd)

      Mae’r enw’n holl bwysig, a tra dw i’n meddwl bod Lle Da yn enw grêt, rhaid bod yn ofalus na all yr URL fod ag ystyr amgen (Ai jyst fi sydd a meddwl brwnt yn gweld http://www.lleda.com yn ddoniol?….)

    • Huw Waters 7:27 PM ar 19 Chwefror 2010 Dolen Barhaol

      Nes i feddwl am syniad Menna heddiw, tra’n breuddwydio mewn darlith!

      Gwefan sy’n rhestru cwmniau detholedig (nid pawb) yn ôl tref neu’r nwyddau a werthwyd. Bydd gwybodaeth sylfaenol am y cwmni, enw’r siop, cyfeiriad, rhif ffôn. Yn ogsytal a hyn mae adolygiadau gan gwsmeriaid gyda’r gallu i gofnodi sylw a sawl seren allan o bump – fel system Amazon, a rhoi cymhariaeth o sylwadau – dangos sylw am un adolygiad a gafodd 5 seren ochr yn ochr ag adolygiad a gafodd 1 seren.

      Y ffactor unigryw am hyn yw defnyddio system goleuadau traffig fel lliw cefndir. Gwyrdd am wasanaeth cwbwl Gymraeg, oren am wasanaeth rhannol Cymraeg (e.e. un aelod o staff), coch am ddim Cymraeg.

      Ffyrdd o wneud pres allan o’r wefan yw: cynnig derbyn hysbysiadau am siopau a’u nodi fel siop ag argymhellwyd, fel Google a’u ‘recommended link/sponsored link’; cynnig wasanaeth o brosesu archebiadau arlein i gwmniau, fel Amazon marketplace; gwerthu rhaglen iPhone o’r wefan sy’n gallu eich cyfeirio at siopau cyfagos gydsa GPS etc.

    • Gareth Morlais 3:33 PM ar 5 Chwefror 2011 Dolen Barhaol

      Dwi am drio arbrawf bach. Cadwch lygad ar baecolwyn.com dros y misoedd nesa. Dim byd yno eto ond dwi’n gobeithio creu adnodd sy’n debyg i abergelepost.com – ond yn Gymraeg y tro hwn.

    • Carl Morris 3:53 PM ar 5 Chwefror 2011 Dolen Barhaol

      Edrych ymlaen

      Gyda llaw newydd ychwanegu i gyfeirlyfr newydd
      http://hedyn.net/wici/Baecolwyn.com

  • Carl Morris 12:34 PM ar 11 February 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: chwerthin, , , lols   

    Dw i’n chwilio am LOLs yn y Gymraeg arlein.

    Sgwenna sylwadau gyda dolenni os ti’n gallu cofio unrhyw gwefannau/lluniau/fideos/ayyb doniol arlein. Diolch!

     
  • Carl Morris 7:27 PM ar 10 February 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , buzz, , meicroflog   

    Dw i’n trio Google Buzz

     
  • Carl Morris 1:28 PM ar 10 February 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau: , ,   

    Diwrnod Ada Lovelace 2010 

    http://chocolateandvodka.com/2010/02/08/time-to-sign-up-to-ada-lovelace-day-2010/

    Faint o gofnodion allen ni darllen yn Gymraeg eleni? :-)

    Enghraifft llynedd

    http://metastwnsh.com/diwrnod-ada-lovelace-delyth-prys/

     
  • Rhodri ap Dyfrig 2:59 PM ar 9 February 2010 Dolen Barhaol | Ymateb
    Tagiau:   

    Mae eisoes trafod am ddatblygu ar sylfaen Hacio’r Iaith a gwneud digwyddiadau pellach. Dyma ddau syniad a drafodwyd hyd yn hyn (teitlau dors dro di’r rhain gyda llaw!):

    1. Hacio’r Ymgyrch – digwyddiad yn dod ag ymgyrchwyr a rhaglennwyr at eu gilydd i gydweithio a dysgu am sut i ddefnyddio’r we ar gyfer ymgyrchu llwyddiannus drwy gyfrwng y Gymraeg.

    2. Hacio’r Fideo – digwyddiad yn edrych ar gynnwys fideo ar-lein cyfrwng Cymraeg.

    Sgynnoch chi sylwadau ar y rhain, neu syniadau eraill?

     
    • Elin HG Jones 8:08 PM ar 9 Chwefror 2010 Dolen Barhaol

      Dau syniad gwych!

    • Rhodri ap Dyfrig 9:55 PM ar 9 Chwefror 2010 Dolen Barhaol

      3. Hacio’r Lleol – eto, digwyddiad i ddod â phobl sydd eisiau dechrau rhywbeth at ei gilydd gyda’r rheiny all roi gwybodaeth ar sut i wneud hynny. Mae angen chwyldro ar gyfryngau lleol Cymraeg yn fy marn i. Mae Papurau Bro yn troi yn eu hunfan heb unrhyw siawns o ddenu cyfrannwyr newydd. Pwy sydd eisiau newyddion lleol unwaith bob mis? Ma isio fo rwan! Oes modd creu cenhedlaeth newydd o sylwebwyr lleol drwy ddefnyddio technoleg i’r eithaf? Wrth gwrs – ma jest angen y bobol i’w ddechrau…

    • Menna Mach 10:27 PM ar 9 Chwefror 2010 Dolen Barhaol

      Waw – syniadau gwych. Mae gen i ddiddordeb ym mhob un, ond y syniad am ymgyrchu yn enwedig. Dwi wedi bod yn gofyn i raglennwyr dawnus ers amser os oes modd gwneud rhywbeth fel hyn ond ar gyfer ymgyrchwyr iaith?: http://apps.facebook.com/superbadger/ a http://besuperbadger.wordpress.com/
      Mae Superbadger yn lobio cwmniau/llywodraeth am faterion fel masnach teg, polisiau newid hinsawdd, cynorthwyo cymunedau tlawd y byd. Mae modd danfon ebost yn syth o facebook, ac er fod geiriad y llythyr yno’n barod mae’n nhw’n gofyn i chi bersonoli’r llythyr. Byddai rhaglen fel hyn yn wych ar gyfer aelodau Cymdeithas yr Iaith sydd eisiau ffordd cyflymach a haws (a hwyliog) o lobio. Ni wedi trio ebostio o’n gwefan, ond mae modd i’r Llywodraeth flocio’r cyfeiriad wedyn.

    • Carl Morris 12:52 PM ar 10 Chwefror 2010 Dolen Barhaol

      Ymgyrch/lobio – diddorol. Mae popeth ar mysociety.org yw côd agored os ti eisiau cyfrannu cyfieithiad neu dechrau fersiwn eich hun…

      Lleol – hoffi. Dylai pobol (gyda diddordeb) dilyn digwyddiadau led led y byd hefyd, e.e. Hyperlocal news.

      Mae arbenigaeth wastad yn wych!

      Mae’r wefan gyda ni yn barod. Felly os chi eisiau gwahodd pobol eraill i drafod syniadau yma, mae’n bosib. (Paid colli dy syniadau mewn ebost, plis!)

      Dw i’n awgrymu dyn ni’n defnyddio’r enw “Hacio’r Iaith” gyda isdeitl bob tro. Pam? Dyn ni wedi cael digwyddiad llwyddiannus yn barod. Mae cymuned yn bodoli yn barod, gyda brand digon da (am pynciau technolegol yn enwedig). Nawr dyn ni’n gallu adeiladu’r cymuned mwy. Gobeithio dyn ni’n gallu rhannu dealltwriaeth rhwng arbenigaethau gwahanol.
      e.e. Hacio’r Iaith yn cyflwyno: Fideo Arlein
      e.e. Hacio’r Iaith yn cyflwyno: Newyddion Lleol
      (neu isdeitlau debyg)

    • Rhys Wynne 10:54 AM ar 12 Chwefror 2010 Dolen Barhaol

      Efallai’n wir mai trefnu sesiynnau mwy ‘arbennigol’ yw’r ffordd ymlaen.

      Ymgyrchu
      Dw i’n siwr byddai Hacio’r Ymgyrch yn dal y dychymyg. Hoffwn i wedl rhywbeth fel What Do They Know yn cael ei addasu ar gyfer gohebiaeth rhwng unigolion a sefydliadau/cwmniau. Dw i wedi llythyru rhai fel unigolyn, ond byddai hyn yn dangos fain to bobl eraill sydd hefyd wedi bod yn cysylltu a’r sefydliadau/cwmniau, a beth oedd eu hymateb. Fel nododd Carl, gan mai MySocieety sydd wedi creu’r wefan, mae’n god agored, ac felly mae modd ei addasu i’n gofynion ni efallai.

      Newyddion lleol – am ymateb i gofnod newydd Carl

c
ysgrifennu cofnod newydd
j
cofnod nesaf/sylw nesaf
k
cofnod blaenorol/sylw blaenorol
r
ymateb
e
golygu
o
dangos/cuddio sylwadau
t
mynd i'r brig
l
mynd i fewngofnodi
h
dangos/cuddio cymorth
esc
diddymu