Chwilio termau

Tra fod Tim Berners-Lee a’i gyfeillion yn arwain prosiect i agor fyny y gwybodaeth sy’n cael ei greu gan y llywodraeth mae Cymru yn dal i fod yn ofn ‘dod allan’. Mae’r Cynulliad wedi ariannu nifer o brosiectau technoleg iaith dros y blynyddoedd a allai fod yn werthfawr iawn i ddatblygwyr yn y byd ‘agored’ ond mae’r wybodaeth hwnnw yn dal tu ôl i ddrysau caeëdig.

Lle mae’r geiriaduron Cymraeg fyddai ar gael i’w defnyddio yn rhad ac am ddim mewn prosiectau GPL (meddalwedd cywiro sillafu fel Aspell a fyddai hefyd o fudd i OpenOffice a WordPress). Lle mae’r API ar gyfer danfon testun i Cysill er mwyn ei gywiro? Mi fyddai gwasanaethau o’r fath yn werthfawr iawn.

Mae Prifysgol Bangor newydd gyflwyno porth i chwilio termau ar draws nifer fawr o eiriaduron arbennigol. Mae’r wefan yn defnyddio AJAX er mwyn gofyn am y canlyniadau a’i ddangos, a felly yn gwbl anhygyrch (mae angen Javascript i’w redeg). y Does dim posib rhoi dolen uniongyrchol i derm er enghraifft, a dyw hi ddim yn bosib creu peiriant chwilio yn eich porwr.

Mae’n enghraifft perffaith o ddatblygwr gwe yn defnyddio technoleg llawer rhy ‘glyfar’ am ddim rheswm o gwbl. Efallai fod hyn allan o anwybodaeth neu efallai ei fod yn ‘hawdd’ adeiladu y math yma o beth mewn .Net dwi ddim yn siwr.

Felly fe es i ati heddiw i wneud fersiwn hygyrch. Cwpl o oriau gymerodd hi a dyma’r canlyniad.