Annwyl Gwales, Pan da chi’n diweddaru e…
Annwyl Gwales,
Pan da chi’n diweddaru eich gwefan nesaf, wnewch chi wneud yn siwr bod pobol yn gallu lawrlwytho ffilmiau Cymraeg oddi yno?
Does dim posib cael gafael ar Hedd Wyn rhagor hyd yn oed. Mae bron pob dysgwr dwi’n siarad â nhw eisiau gwylio ffilmiau. Ydi hi ddim yn hen bryd sortio hyn?
Cofion cynnes,
Rhodri


Carl Morris 1:52 AM ar 16 Chwefror 2010 Dolen Barhaol
Mae cynllun busnes yma os rhywun eisiau wneud hwn eu hun?
http://docs.google.com/View?id=ddg65vwh_28hdm75rks
Dw i’n iawn gyda Hedd Wyn, er oedd rhaid i mi brynu’r fersiwn addysg am £25. Ble mae’r pris neis? GWALLGOF
Rhodri ap Dyfrig 10:10 AM ar 16 Chwefror 2010 Dolen Barhaol
waw, gwych Carl. Ma angen i rywun wneud hwn. Gallai na fod arian i wneud ynddo hyd yn oed. (shock horror!)
Carl Morris 10:14 PM ar 16 Chwefror 2010 Dolen Barhaol
Dw i dal yn chwilio am enwau rhaglenni. Hoffwn i wneud e rhywbryd. Ond faswn i ddim yn poeni os gallai rhywun arall wneud e cynt.