Posts Mentioning RSS Toggle Comment Threads | Keyboard Shortcuts

  • Carl Morris 8:41 PM on 28 February 2010 Permalink | Reply
    Tags: celf,   

    Celf + Technoleg 

    Dw i’n meddwl bod e’n ddiddorol i gyflwyno artistiaid i bobol yn y byd technoleg (a vice-versa) am diwrnod.

    http://www.rhizome.org/sevenonseven/

    (Paid edrych at y prisiau… )


    “Seven on Seven will pair seven leading artists with seven technologists in teams of two, and challenge them to develop something new –be it an application, social media, artwork, product, or whatever they imagine– over the course of a single day. The seven teams will unveil their ideas at a one-day event at the New Museum on April 17th.”

     
    • Kevin Donnelly 10:58 AM on 1 Mawrth 2010 Permalink

      Mae gan Gymru rhywbeth o’r fath – Bloc (http://www.bloc.org.uk). Tasech chi’n licio gwneud cyflwyniad am Hacio’r Iaith yn un o’i events, dwi’n siŵr buasai Stefhan Caddick yn falch o glywed gennych. Neu hyd yn oed trefnu’r Haciaith nesaf fel cyd-broject?

  • Dafydd Tomos 9:25 PM on 26 February 2010 Permalink | Reply  

    Chwilio termau 

    Tra fod Tim Berners-Lee a’i gyfeillion yn arwain prosiect i agor fyny y gwybodaeth sy’n cael ei greu gan y llywodraeth mae Cymru yn dal i fod yn ofn ‘dod allan’. Mae’r Cynulliad wedi ariannu nifer o brosiectau technoleg iaith dros y blynyddoedd a allai fod yn werthfawr iawn i ddatblygwyr yn y byd ‘agored’ ond mae’r wybodaeth hwnnw yn dal tu ôl i ddrysau caeëdig.

    Lle mae’r geiriaduron Cymraeg fyddai ar gael i’w defnyddio yn rhad ac am ddim mewn prosiectau GPL (meddalwedd cywiro sillafu fel Aspell a fyddai hefyd o fudd i OpenOffice a WordPress). Lle mae’r API ar gyfer danfon testun i Cysill er mwyn ei gywiro? Mi fyddai gwasanaethau o’r fath yn werthfawr iawn.

    Mae Prifysgol Bangor newydd gyflwyno porth i chwilio termau ar draws nifer fawr o eiriaduron arbennigol. Mae’r wefan yn defnyddio AJAX er mwyn gofyn am y canlyniadau a’i ddangos, a felly yn gwbl anhygyrch (mae angen Javascript i’w redeg). y Does dim posib rhoi dolen uniongyrchol i derm er enghraifft, a dyw hi ddim yn bosib creu peiriant chwilio yn eich porwr.

    Mae’n enghraifft perffaith o ddatblygwr gwe yn defnyddio technoleg llawer rhy ‘glyfar’ am ddim rheswm o gwbl. Efallai fod hyn allan o anwybodaeth neu efallai ei fod yn ‘hawdd’ adeiladu y math yma o beth mewn .Net dwi ddim yn siwr.

    Felly fe es i ati heddiw i wneud fersiwn hygyrch. Cwpl o oriau gymerodd hi a dyma’r canlyniad.

     
    • Carl Morris 5:02 AM on 27 Chwefror 2010 Permalink

      Syr, ti’n arbenigwr. Gwela i ti ar y top o ganlyniadau – gyda Llyfrgell Owen Phrasebank…

      Ti’n nabod http://eurfa.org.uk (meddalwedd rydd GPL). Efallai creu projectau gyda fe pan dyn ni’n aros am eiriadur mawr?

      Dw i dal yn chwilio am eiriadur go iawn arlein. Mae’n ddrwg iawn. (e.e. Yn Saesneg dw i’n defnyddio http://m-w.com )

    • Kevin Donnelly 11:45 AM on 27 Chwefror 2010 Permalink

      Am waith diddorol! Dwi’n meddwl fel ‘y mod i’n clywed atsain – dwi wedi bod yn dweud yr un peth yn union ers saith mlynedd. Mae’r stwnsiad yn codi nifer o bwyntiau diddorol iawn o safbwynt dull a canlyniadau ail-becynnu. Buasai hi’n lot haws tase polisi glir ledled y wlad am ddefnydd allbynnau projectau wedi’u cyllido gan drethi. Ydych chi wedi ystyried bod yr amhosibilrwydd o greu “dolen uniongyrchol i derm” yn “nodwedd gynllun”? :-) Mae Carl wedi sôn ma Eurfa. Ar hyn o bryd, dwi’n gweithio ar wneud fersiwn 2: ceisio ehangu’r rhestr hyd at 40,000 o eiriau (i’w dewis ar sail y geiriau yn Crubadán Kevin Scannell), mewnblannu Rhedadur (bydd hwn ar-lein eto yn fuan), rhoi dyfyniadau lle bosib allan o gorpora fel Wikipedia-cy, PNAW, Siarad ac ati, a mewnblannu Kywiro. Swn i’n falch siarad rhagor gyda chi ynglŷn â hyn – er enghraifft, os ydych wedi genued rhestr o eiriau ar gyfer eich cyfieithiadau o WP (roedd “paraddolen” yn newydd i mi).

    • Rhys Wynne 12:40 PM on 28 Chwefror 2010 Permalink

      Diolch Dafydd. Wedi ychwanegu hwn at y Wicipedia.

  • Carl Morris 4:53 AM on 26 February 2010 Permalink | Reply
    Tags: cwmniau davewiner busnes facebook google apple   

    Dewis ac amrywiaeth arlein 

    http://www.scripting.com/stories/2010/02/25/bigChangeInTheTechWorld.html

    gan Dave Winer, arloeswr gwe

     
  • Carl Morris 2:11 PM on 24 February 2010 Permalink | Reply
    Tags: wordpress cyfieithu cyfieithiad lleoleiddio   

    WordPress 3.0 

    Mae WordPress a WordPress MU yn ymuno gyda’i gilydd yn y fersiwn nesaf.

    http://wordpress.org/development/2010/02/menus-merge-patch-sprint/

    Dylen ni dechrau’r cyfieithiad NAWR! (Dyn ni’n gallu ailgylchu hen gyfieithiad). Os ti eisiau ymuno’r project cyfieithiad, gadawa sylw. Diolch!

     
  • Rhodri ap Dyfrig 11:39 AM on 24 February 2010 Permalink | Reply
    Tags: , , , , , Learn Welsh, Peblig, SeiberCofis   

    Fideos Hacio’r Iaith: app iPhone ‘Learn Welsh’ a SeiberCofis 

    Hacio’r Iaith: Neil Taylor gan Rhodri ap Dyfrig ar Vimeo.

    Hacio’r Iaith: SeiberCofis gan Rhodri ap Dyfrig ar Vimeo.

     
    • Dafydd Tomos 9:29 PM on 24 Chwefror 2010 Permalink

      Diolch am rhein. Mae Seibercofis yn brosiect da ond mae tipyn o brosiectau tebyg o gwmpas ers nifer o flynyddoedd. Cyn symud swyddfa yn 2007 fe aeth llawer o’n hen gyfrifiaduron ni (+monitors CRT) i brosiect fel hwn yng Nghaerdydd sy’n ei ail-gylchu ar gyfer pobl ddi-freintiedig yn y cymoedd.

      Ddim yn siwr os wnaeth hyn ei grybwyll (mae’n anodd clywed y gynulleidfa) – fe ddylai John edrych ar Ghost for Linux er mwyn gallu gosod delwedd Ubuntu yn syth i’r ddisg galed.

    • Rhodri ap Dyfrig 10:56 AM on 25 Chwefror 2010 Permalink

      Diolch am dy sylw Dafydd. Na’i basio fo mlaen at John.

      Mae’r sain ar gyfer sylwadau am fod yn broblem ar bob fideo yn anffodus. Doedd ganddon ni ddim roving mic. Tro nesa…

    • Rhys Wynne 11:09 AM on 26 Chwefror 2010 Permalink

      Heb wrando ar y cyflwyniad ar Cybercofis eto, ond des ar draws cynllun Free Geeks yn Portland, UDA sy’n rhoi hyfforddiant o bobl yn ogystal a darparu cyfrifiaduron ac hefyd sydd a siop yn gwertthu darnau ail law. Hoffwn weld lot o bethau fel hyn er mwyn help cael gwared o hen PC ayyb o’r cartref a’r gweithle.

  • Rhodri ap Dyfrig 6:05 PM on 23 February 2010 Permalink | Reply
    Tags: Aran Jones, , ,   

    Fideos Hacio’r Iaith: Aran Jones 

    Mwy ar y ffordd pan ga’i amser i lanlwytho…

    Hacio’r Iaith: AranJones from Rhodri ap Dyfrig on Vimeo.

     
  • Carl Morris 4:04 AM on 23 February 2010 Permalink | Reply
    Tags: , diy, fanzine, punk   

    Meddyliau am diwylliant DIY arlein 

    Cofnod newydd

    http://quixoticquisling.com/2010/02/meddyliau-am-diwylliant-diy-arlein/

     
    • Rhodri ap Dyfrig 6:07 PM on 23 Chwefror 2010 Permalink

      Welais i bod Nike yn hysbysebu yn Gaernarfon: “Jest ffwcin gna fo cont”

      Efalli bod pethau bychain all pawb wneud…

  • Carl Morris 10:18 PM on 22 February 2010 Permalink | Reply
    Tags: , ,   

    Teclynnau Democratiaeth 

    http://www.democracyclub.org.uk

    Digwyddiad yng Nghastell-Nedd (Dydd Iau 25 Chwefror)

    http://maps.google.com/maps/ms?ie=UTF8&hl=en&msa=0&msid=115970034959401285048.00047ff9558f7d3d0c00f&ll=53.891391,-0.461426&spn=8.590785,19.753418&z=6

     
    • Rhys Wynne 1:41 PM on 23 Chwefror 2010 Permalink

      Ac ym Mhrestatyn hefyd (pam bod rhai yn haul a rhai yn pins?)

  • Dafydd Tomos 10:15 PM on 18 February 2010 Permalink | Reply
    Tags: ,   

    Testun-i-lais Cymraeg 

    Mae tipyn o waith wedi ei wneud dros y blynyddoedd ar greu beiriant testun-i-lais Cymraeg fel yr ymdrech yma gan brosiect WISPR, sydd a’r fantais o fod yn agored a rhydd i’w ddefnyddio.

    Mae cwmni CereProc o’r Alban yn gwneud gwaith diddorol yn y maes a mae nhw’n gallu creu llais drwy samplo lleisiau adnabyddus fel Obama neu Arnie. Mae nhw wedi cydweithio i greu llais ar gyfer Catalaneg a fe fyddai’n dda gweld un Cymraeg. Pwy fyse’ch chi’n dewis fel llais safonol? Dewi Llwyd, Beti George neu efallai Jonsi?

     
    • Carl Morris 12:56 AM on 19 Chwefror 2010 Permalink

      Diolch Dafydd, wnes i lawrlwytho WISPR am Windows. Ond mae e jyst llyfrgell dw i’n meddwl, ble mae’r demo?

    • Dafydd Tomos 10:29 AM on 19 Chwefror 2010 Permalink

      Roedd yna esiampl rywle ond mae wedi diflannu. Ond mae’n bosib clywed y llais yma ar wefan Bwrdd yr Iaith.

    • Gruff Prys 2:44 PM on 22 Chwefror 2010 Permalink

      Mae llais newydd ar y ffordd. Bydd wedi’i integreiddio yng ngwefan newydd SALT Cymru a fydd yn cael ei lansio ar Fawrth y 15fed. Mae’r llais yn seiliedig ar yr un adnoddau WISPR a’r hen lais, ond mae’n swnio’n llawer mwy naturiol. Bydda’ i’n trefnu seminar cyn bo hir ar gyfer unigolion a sefydliadau sydd â diddordeb. Llenwch y ffurflen ar wefan gyfredol SALT cymru (www.saltcymru.org) os oes gennych chi ddiddordeb.

    • Rhodri ap Dyfrig 6:11 PM on 23 Chwefror 2010 Permalink

      Newyddion da iawn Gruff. Beth yw’r datblygiadau o ran llais i destun Cymraeg?

  • Carl Morris 8:03 PM on 18 February 2010 Permalink | Reply
    Tags: , , wicis   

    Hedyn, meddyliau? 

    Beth ydy pobol yn meddwl am Hedyn?

    Ydy e’n rhy cymhleth ar hyn o bryd? Defnyddiol?

    Ydyn ni eisiau WYSIWYG? (Golygu heb côd.) Mae e’n defnyddio DokuWiki ond dw i’n trio Twiki fel prawf.

    Meddyliau plis!

     
    • Rhodri ap Dyfrig 9:39 PM on 18 Chwefror 2010 Permalink

      Dwi wedi dod i arfer â’r golygydd testun, ond dwi’n gwybod ei fod yn anghyfarwydd iawn i sawl un oedd eisiau cofrestru gyda Hacio’r Iaith.

      Dwi’n meddwl ei fod yn raddol ddatblygu i fod yn ddefnyddiol. Mae’r elfen archifol ohono am fod yn ddefnyddiol os dim arall.

      Roedd yn hollol angenrheidiol, yn greiddiol, i drefnu Hacio’r iaith. Efallai y byddwn i ychydig yn ofalus am newid i system arall cyn profi’n go galed.

    • Carl Morris 1:03 AM on 19 Chwefror 2010 Permalink

      Dw i eisiau gweld cyfraniadau gan bobol normal!

      Dw i’n meddwl am gofrestrau ar hyn o bryd. Mae rhwydwaith “Cymraeg we agored” ar wasgar. Felly dyn ni’n casglu blogs yna, gwefannau eraill, casglu pobol ar fy nghofrestr Twitter.

c
compose new post
j
next post/next comment
k
previous post/previous comment
r
reply
e
edit
o
show/hide comments
t
go to top
l
go to login
h
show/hide help
esc
cancel