Sesiwn ochr ar greu fideos “How To”
Sesiwn bach ochr gyda Rhys Wynne, Carl Morris, Mal Pate, Pete Telfer a fi.
- Newid iaith eich porwr (language preferences)
- Sut i olygu erthyglau Wicipedia
- Creu blog ar Wordpress.com
- Creu blog ar Wordpress.org
- Beth yw Twitter? Sut alla i ddefnyddio fo?
- Sut ma defnyddio cysill Ar-lein
- Sut ma defnyddio Google Reader / Bloglines
- Camau syml i Gymreigio’r cyfrifiadu
- Sut i ddefnyddio Google Docs
- Sut i roi sylwadau ar flog ?
- Sut i greu eich cardiau fflach eich hunain
- Creu fideo syml ar YT gyda lluniau llonydd a thrac sain (neu dim on y broses lwytho?)
Pa fath o feddalwedd sydd yn bosib defnyddioi recordio
- Screencast (pa fath o file ma’n creu?)
Oes ganddoch chi fwy o syniadau? Oes meddalwedd gwell na ScreenCast?

Dafydd Tomosd 4:24 PM ar 30 Ionawr 2010 Paraddolen
Recordio’r sgrin gyda CamStudio, a’i lwytho i’ch hoff olygydd fideo.
Iwan 9:12 PM ar 30 Ionawr 2010 Paraddolen
Ynghylch Cymreigo’r cyfrifiadur, dwi’n meddwl gellid cael dau bwnc – 1. iaith y rhyngwyneb 2. offer drafftio. Mae gwirydd sillafu ar gael fel rhan o MS Office ers 2003, beth bynnag ydy iaith y rhyngwyneb. Byddai’n dda cael fideo syml i ddangos sut mae tagio testun fel testun Cymraeg er mwyn cael budd o hyn (ac er mwyn osgoi dogfennau Cymraeg efo llnellau coch o dan bob gair oherwydd taw Saesneg ydy’r default!)
Elin HG Jones 10:30 AM ar 31 Ionawr 2010 Paraddolen
gwych
Hacio’r Iaith – what it is, why it is and what happened (monster post!) | Quixotic Quisling 6:34 AM ar 1 Chwefror 2010 Paraddolen
[...] especially showing non-geeks and normal people how to get the best use of software and the web. The ideas we generated are available to [...]
Gruff Prys 11:19 AM ar 3 Chwefror 2010 Paraddolen
Fe wnes i greu fideos Flash yn dangos sut i newid iaith Word i’r Gymraeg flynyddoedd yn ôl ar gyfer y Cynllun Sabothol (i athrawon).
Gweler yma:
http://www.cynllunsabothol.org/cymraegarycyfrifiadur.html