Adolygiad o’r dydd: http://gwenudanfysiau.blogspot.com/2010/01/wedi-hacior-iaith.html
Posts Mentioning RSS Toggle Comment Threads | Keyboard Shortcuts
-
Rhys Wynne
-
Sioned Edwards
Fideos byr o Hacio’r Iaith
Dwi wedi rhoi rhwyfaint o fideos o Flip Cam Rhodri ar sianel Youtube. Dwi ddim am embedio nhw i gyd yma a’ch sbamio chi eto, ond popiwch draw at fy nhudalen YouTube newydd sbon i gael golwg ar cwpl o gyfweliadau ac un fideo eithaf arbennig – Cyfrinach llwyddiant hacio’r Iaith
-
Rhys Wynne
Newydd weld cyflwyniad Gruffydd Prys am y ferswin Cymraeg o’r gêm Civilization IV, mwy ar ei wefan: http://www.civilizationcymraeg.com/wordpress/
-
Gruff Prys
Hedd: Fe wna i roi gwybod i ti pan fydd y pecyn iaith ar gael ar y safle (mewn diwrnod neu ddau).
Dwi wedi cyfieithu OpenTTD hefyd, fersiwn cod agored (gwell!) o Transport Tycoon, sef un o fy hoff gemau erioed. Efallai bod angen i mi ddiweddaru’r cyfieithiad.
Wedi gweld Freeciv hefyd, ac yn chwarae efo’r syniad o ddefnyddio cyfieithiad Civ IV fel cof cyfieithu ar ei gyfer.
-
-
Rhodri ap Dyfrig
Gruffydd Prys “Os ydan ni’n ariannu cyfieithu gweithiau mawr o lenyddiaeth yna dylen ni’n sicr ariannu cyfieithu gemau cyfrifiaduron.”
-
Elin HG Jones
Y broblem ydy dydan ni ddimyn ariannu gweithiau mawr o lenyddiaeth chwaith!
-
Hedd
Diolch am hwn. Dwi newydd brynu’r gêm a’i lawrlwytho (1.3GB!) Nawr angen i mi drio deall sut mae ei chwarae!!
Byddai’n bendant yn lawrlwytho’r pecyn iaith pan yn barod. Gyda llaw, oes gemau da cod agored rhad ac am ddim ar gael ar gyfer y PC? Falle gallwn gyfieithu rhai o’r rhain a wedyn rhoi dolen iddynt ar Meddal?
Llongyfarchiadau i bawb am eu gwaith ddoe!
-
Hedd
Be am Freeciv er enghraifft – http://freeciv.wikia.com/wiki/Main_Page
-
Gruff Prys
Diolch am gychwyn yr edefyn Rhodri
Tra mod i’n aros i rywbeth osod yn y gwaith…
Elin HG Jones: Maddeua i mi – be o’n i’n trio dweud oedd bod gwerth cyfieithu llenyddiaeth fawr i’r Gymraeg eisoes yn cael ei gydnabod yn gyffredinol yn y Gymru Gymraeg (gw. erthygl Graham Davies yn Planet dro yn ôl, er enghraifft). Mae cynsail hefyd yn bodoli, fel y gyfres o ddramâu a oedd yn cynnwys cyfieithiad Bruce Griffiths o Le Malade Imaginaire gan Molière, a’r gyfres o gyfieithiadau o straeon gwerin o wahanol ddiwylliannau lleiafrifol, i enwi dim ond dwy enghraifft.
Dwi ddim yn meddwl bod yno werthfawrogiad tebyg o’r gwerth sydd mewn cyfieithu gemau cyfrifiadur i’r Gymraeg. Dweud y gwir, mae’n hawdd chwerthin ar osodiad o’r fath – dydyn ni yng Nghymru ddim yn cymryd y cyfrwng newydd yma ddigon o ddifrif (er ei bwysigrwydd economaidd a’i gynulleidfa enfawr), ac mae’n gyfrwng sydd bron yn llwyr ar goll o’n hiaith ni, yn wahanol i lenyddiaeth lle mae gynnon ni ddiwylliant llenyddol brodorol cymharol iach.
Dwi’m am eiliad yn dweud y dylwn ni fod yn cymryd arian oddi ar lenyddiaeth i ariannu gemau cyfrifiadur – dim ond ei bod hi’n bryd i’n hagwedd ni fel Cymry at y cyfrwng aeddfedu, yn union fel y mae’r cyfrwng wedi gwneud yn y blynyddoedd diwetha’.
-
Gruff Prys
Ymateb i Carl: Dwi ddim yn siwr a oes ‘na ddadl economaidd ar hyn o bryd i gwmnïau gyfieithu gemau i’r Gymraeg. Ond, petai gêm fel Civ IV ar y cwricwlwm addysg yng Nghymru (a dwi’n meddwl y dylai fod), byddai rheswm masnachol dros ei gyfieithu, a byddai’n dechrau normaleiddio’r disgwyliad o ggael gemau cyfrifiadur yn y Gymraeg. Gallai hynny yn y pen draw greu marchnad fwy cyffredinol ar gyfer gemau Cymraeg, yn enwedig os ydi technolegau cyfieithu yn gallu gostwng pris cyfieithu yn y cyfamser.
-
Gruff Prys
Hedd: Fe wna i roi gwybod i ti pan fydd y pecyn iaith ar gael ar y safle (mewn diwrnod neu ddau).
Dwi wedi cyfieithu OpenTTD hefyd, fersiwn cod agored (gwell!) o Transport Tycoon, sef un o fy hoff gemau erioed. Efallai bod angen i mi ddiweddaru’r cyfieithiad.
Wedi gweld Freeciv hefyd, ac yn chwarae efo’r syniad o ddefnyddio cyfieithiad Civ IV fel cof cyfieithu ar ei gyfer.
-
Elin HG Jones
Deall ergyd dy bwynt yn iawn Gruff. Wrth gwrs mae arian yn cael ei fuddsoddi mewn cyfieithu cynnyrch diwylliannol yn enwedig animeiddio teledu a llyfrau plant. Mae hi’n amserol iawn i godi’r mater gemau cyfrifiadurol ar hyn o bryd yn enwedig gan y bydd gwasanaeth plant hy^n gan S4C yn cychwyn yn y Gwanwyn, a chwmni Boomerang fydd yn ei ddatblygu.
-
-
Rhodri ap Dyfrig
Gruffydd Prys rwan yn siarad am gyfieithu gem gyfrifiadur Civilisation IV i’r Gymraeg.
-
Carl Morris
lluniau gan Rhys Llwyd
http://metastwnsh.com/bore-da-hacior-iaith/
http://metastwnsh.com/podlediad-byw-yn-hacior-iaith/
-
Rhodri ap Dyfrig
Sesiwn ochr ar greu fideos “How To”
Sesiwn bach ochr gyda Rhys Wynne, Carl Morris, Mal Pate, Pete Telfer a fi.
- Newid iaith eich porwr (language preferences)
- Sut i olygu erthyglau Wicipedia
- Creu blog ar WordPress.com
- Creu blog ar WordPress.org
- Beth yw Twitter? Sut alla i ddefnyddio fo?
- Sut ma defnyddio cysill Ar-lein
- Sut ma defnyddio Google Reader / Bloglines
- Camau syml i Gymreigio’r cyfrifiadu
- Sut i ddefnyddio Google Docs
- Sut i roi sylwadau ar flog ?
- Sut i greu eich cardiau fflach eich hunain
- Creu fideo syml ar YT gyda lluniau llonydd a thrac sain (neu dim on y broses lwytho?)
Pa fath o feddalwedd sydd yn bosib defnyddioi recordio
- Screencast (pa fath o file ma’n creu?)
Oes ganddoch chi fwy o syniadau? Oes meddalwedd gwell na ScreenCast?
-
Dafydd Tomosd
Recordio’r sgrin gyda CamStudio, a’i lwytho i’ch hoff olygydd fideo.
-
Iwan
Ynghylch Cymreigo’r cyfrifiadur, dwi’n meddwl gellid cael dau bwnc – 1. iaith y rhyngwyneb 2. offer drafftio. Mae gwirydd sillafu ar gael fel rhan o MS Office ers 2003, beth bynnag ydy iaith y rhyngwyneb. Byddai’n dda cael fideo syml i ddangos sut mae tagio testun fel testun Cymraeg er mwyn cael budd o hyn (ac er mwyn osgoi dogfennau Cymraeg efo llnellau coch o dan bob gair oherwydd taw Saesneg ydy’r default!)
-
Elin HG Jones
gwych
-
Gruff Prys
Fe wnes i greu fideos Flash yn dangos sut i newid iaith Word i’r Gymraeg flynyddoedd yn ôl ar gyfer y Cynllun Sabothol (i athrawon).
Gweler yma:
Rhys Wynne
Gwefan Llen Natur (Cymdeithas Edward Llwyd) yn llawn dop o wybodaeth, graffiau, darluniau a thermau. Licio eu defnydd o googlemaps – teipiwch ‘morfil’ yn y blwch chwilio ar y dudalen yma:
Rhodri ap Dyfrig
Di son am fy ymdrech shimpil i i leoleiddio Drupal, a faint mor annodd oedd o i ddeall cyd-destun pan roedd cymaint o strings i’w trosi. Eraill yma’n dwedud bod y gwendid gwreiddiol yn y fersiwn Saesneg sy’n cael ei gyfieithu.
Rhodri ap Dyfrig
Gwrando ar sesiwn ar leoleiddio wedi ei arwain gan Rhys Wynne ac Iwan Standley. Pawb yn siarad bod angwen cydweithio mewn rhyw ffordd. Annodd: cael cywirdeb vs lleoleiddio cyflym + cywair mwy anffurfiol. Oes angen ffordd o greu lleoleiddiadau wedyn bod y rheiny’n cael eu prawfddarllen?
(Da ni wedi bathu term newydd heddiw gyda llaw: realaeth estynedig / augmented reality.)

Rhodri ap Dyfrig 11:45 PM on 1 Chwefror 2010 Permalink
Diolch am y fid o Ll. Ma’r foment pan ma hi a Rhys yn troi rownd r’un pryd yn aur!