Recent Updates Toggle Comment Threads | Llwybrau Byr Bysellfwrdd

  • Gareth Morlais 5:36 PM on 21 May 2013 Permalink | Ateb  

    Cymorth i gychwyn gwefan lleol 

    Mae’r Carnegie UK Trust a Cooperatives y D.U.  yn trefnu cyfarfod/cyflwyniad i’r rhai sydd am gychwyn co-op cyfryngau er mwyn darparu newyddion lleol. Mae ‘na sesiwn ar yr 28ain o Fehefin 2013 yng Nghaerdydd ac un arall yn Crewe (sy’n fwy gyfleus o’r Gogledd) ar y 26ain o Fehefin. Make the News yw enw’r sesiynau ac mae na fanylion yma.

    Wedi’r daith, bydd na gyngor a chefnogaeth ar gael am ddim i’r rhai sydd am gychwyn coop cyfryngau.

     
  • Carl Morris 2:12 PM on 21 May 2013 Permalink | Ateb  

    Trafod gwersi côd i blant 

    Mae Andrew Misell yn awyddus i drefnu gwersi côd i blant. Darllena isod (dw i wedi copio ei e-bost gyda chaniatâd). Allai unrhyw un helpu? Gadawa sylwadau isod neu gysyllta yn uniongyrchol gyda Andrew.

    Dwi wedi cael fy sbarduno i ymysgwyd o ‘nifaterwch am fod y mab wedi cael gwahoddiad i gwpl o gyfarfodydd Young Rewired State – un yn Nhrefynwy ym Mehefin, a’r Ŵyl Gôd sy’n cael ei chynnal ym Mryste a sawl man arall yn Awst. Does dim un o’r rhain yn ymarferol i ni, ac, wrth gwrs, mi fyddan nhw yn Saesneg.

    Dwi’n fodlon rhoi cynnig ar weld beth gallwn ni ei wneud o ran trefnu sesiwn undydd yn ne Cymru – Caerdydd, Casnewydd, Pontypridd, efallai. (Un broblem gyda’r Ŵyl Gôd oedd ei bod yn para am wythnos gyda rhan ym Bryste a rhan arall y Mirmingham, ac felly’n mynd yn eithriadol o ddrud o ran llety a theithio). Baswn i am wneud rhywbeth digon rhad i bawb.

    [...]

    Oes gyda chi blentyn sydd wrth ei fodd gyda chôd?

    Oes gyda chi blentyn sydd wrth ei fodd (neu ei bodd) gyda’r cyfrifiadur – yn sgwennu rhaglenni, creu gêmau, neu ddatblygu gwefannau? Gall cyfrifiadura fod yn hobi pur unig weithiau – lot o amser yn plygu dros y cliniadur yn trïo datglymu rhyw ddarn bach o gôd. A does dim byd gwell i arloeswyr a dyfeiswyr na rhannu syniadau.

    Hoffwn i wybod a oes rhieni eraill allan yn y byd mawr fasai gyda diddordeb mewn cynnal sesiwn undydd i blant a phobl ifanc oedran ysgol ddod ynghyd yn ne Cymru, i ddysgu gan ei gilydd a rhannu eu prosiectau yn Gymraeg.

    I ddangos diddordeb (neu i gynnig help) cysylltwch ag andrew.misell@hotmail.co.uk, neu trydar at @andrewmisell

    Cofion

    Andrew

     
  • Gareth Morlais 9:16 AM on 21 May 2013 Permalink | Ateb
    Tags: canllaw   

    Sut i fewnosod eitemau o eBay 

    “Sut alla’i ennill bach o bres i gadw mynd?” – dyna’r cwestiwn mawr sy’n herio perchnogion gwefannau lleol (hyperlocal)
    Dros y blynyddoedd, dwi wedi bod yn arbrofi gyda ‘dolenni cildwrn’   (affiliate links). Mae hyn yn ffordd o arddangos cynnyrch a gwasanaethau cwmnïau eraill ar eich gwefan chi. Os bydd un o’ch ymwelwyr chi yn prynu, mae’r cwmni mawr yn danfon cildwrn atoch chi – dim ond ychydig geiniogau.
    Ffrwd o ddolenni recordiau finyl Cymraeg ar Twtlol.co.uk oedd y gyntaf:
    Am fod yr arholiadau yn bwysig yn y cartref hwn ar hyn o bryd, dyma fi’n mynd ati i gasglu llyfrau adolygu TGAU at ei gilydd fesul pwnc:
    tgau.co.uk

    tgau.co.uk

    Mae’n rhatach weithiau i brynu’r llyfrau o eBay a dwi’n bwriadu cyflwyno cyngor adolygu ar y wefan pan ga’ i amser.
    Os ydych chi am wneud rhywbeth tebyg gydag eBay ar eich gwefan WordPress, penderfynwch ar y niche dych chi am ganolbwyntio arni, wedi dilynwch y camau hyn:
    1. Ymaelodwch gyda’r Ebay Partner Network https://www.ebaypartnernetwork.com
    2. Ewch i tab Campaigns, wedyn Create a new campaign
    3.  …dryw gwneud hyn, dych chi’n cael rhif sy’n dangos i eBay pwy dych chi
    4. Ewch i Tools > Widgets > RSS Feed Generator
    5. Dewiswch Program (.co.uk); y Campaign ID dych chi newydd greu; categori ac allweddeiriau; llenwi’r gweddill; Generate Code
    6. copïwch y cod ar eich clipfwrdd
    Wedyn ewch i adran Admin eich WordPress a mewnosod y teclyn HungryFeed http://verysimple.com/products/hungryfeed/. Mae hyn yn eich galluogi i fewnosod RSS mewn Post WordPress.
    Ysgrifennwch Bost neu Dudalen newydd, cliciwch symbol HungryFeed a gludo’r cod EPN o’r clipfwrdd i’r blwch. Safiwch y dudalen a chael cipolwg arni cyn cyhoeddi.
    A dyna ni. Pob tro bydd rhywun yn prynu eitem ar eBay drwy ddilyn linc o’ch gwefan chi, bydd eBay yn talu cildwrn bach i chi. Dydy hyn ddim yn ffortiwn, ond mae’n gam bach tuag at fod yn fwy cynaliadwy.
     
  • Rhodri ap Dyfrig 3:05 PM on 9 May 2013 Permalink | Ateb
    Tags: , , ,   

    #creadigidol – Dadansoddiad Mewnol-Allanol (SWOT) o’r Cyfryngau Cymraeg Digidol 

    Dwi yng nghynhadledd #creadigidol yng Nghaernarfon heddiw (ond mae ar y we ac yng Nghaerdydd hefyd). Dwi newydd gyflwyno ar y pwnc uchod felly meddwl baswn i’n postio dolenni i’r cyflwyniad yma.

    Mae wedi bod yn ddiwrnod diddorol iawn a dwi’n falch iawn o weld bod lot o’r pryderon oedd gen i yn y cyflwyniad wedi eu hateb neu’n dechrau cael eu hateb gan S4C. Dyddiau cyffrous yn sicr, a dwi’n siwr bydd lot o sdwff da’n dod allan dros y blynyddoedd nesaf.

    http://www.apdyfrig.com/wp-content/uploads/2013/05/SWOT-digidolcymraeg.docx

     
  • Carl Morris 1:12 PM on 7 May 2013 Permalink | Ateb
    Tags: , data agored   

    Hargreaves yn galw am fwy o ddata agored yng Nghymru 

    Mae Click on Wales wedi cyhoeddi trawsgrifiad o araith gan Yr Athro Ian Hargreaves am sut i wella Cymru, yn bennaf trwy mabwysiadu agwedd ‘agored’ yng Nghymru a data agored.

    [...] Which brings me to the main point I would like to make this evening. Given a choice between doing something in a way which is open, transparent and contestable or in a way which prioritises privacy, obscured authority or even secrecy, we should never be in any doubt:

    Choose open.

    Or, as the point is often put in debates about information and the Internet, we should set the default switch to open and then mitigate the risks of being open, rather than first and foremost worrying about loss of control. And we should use these open channels to design solutions around the expressed and researched preferences of users of services – of citizens. [...]

    Mae fe’n defnyddio’r gair ‘open’ 36 gwaith (gan gynnwys ‘openly’, ‘openness’ ayyb).

    Efallai mae fe’n euog o ddiffiniad rhy slac o’r gair – e.e. dw i ddim yn gweld y cysylltiad rhwng yr enghraifft pel-droed a manteision data agored.

    Hoffwn i drafod mwy am y ddarn nesaf sydd yn mynd tu hwnt i ddata agored:

    [...] With open also comes plurality – healthy competition between individuals and institutions. The opposite course tends towards the concentration of information and power in the hands of a few: a real danger here in Wales.

    So, we should be open to

    • Competition from wherever competition stems.
    • New ideas and innovation, even where change is painful.
    • The movement of people, ideas and culture in the confident belief that strong cultures learn quickly and become stronger as a result. [...]

    O safbwynt iaith dw i ddim yn siŵr os yw’r Gymraeg yn ddigon cryf eto i wynebu’r ‘agored’ (yn ôl y diffiniad yma) yn gyfan gwbl. Ond mae’n bosib fy mod i wedi camddeall.

     
  • Hywel Jones 10:53 PM on 26 April 2013 Permalink | Ateb
    Tags:   

    Cyfle i godwyr ifanc, 1-2 Mehefin 2013 

    Mae Young Rewired State (@youngrewired) yn trefnu digwyddiad yn Nhrefynwy ar 1-2 Mehefin i godwyr ifainc. https://youngrewiredstate.org/events/gb/2013/yrs-wales

    Gallai fod yn gyfle i rai hŷn gyfrannu hefyd gan eu bod yn chwilio am fentoriaid.

     
  • Carl Morris 5:52 PM on 18 April 2013 Permalink | Ateb
    Tags: ,   

    Bjarne Stroustrup, dyfeisiwr C++ yn Abertawe 

    Dw i newydd clywedd am ymweliad Bjarne Stroustrup i Abertawe i siarad am C++ ddoe. Aeth unrhyw un? Sut oedd e?

     
  • Rhodri ap Dyfrig 12:32 PM on 17 April 2013 Permalink | Ateb
    Tags: css, , html,   

    Hysbys: cwrs HTML/CSS i Ddechreuwyr (Caerdydd – 26 Ebrill) 

    CWRS NEWYDD – 26 Ebrill 2013 (Caerdydd)

    Angen cael gwybodaeth o HTML/CSS i’ch rhoi ar ben ffordd?

    Eisiau’r gallu i greu gwefannau syml?

    Cwrs undydd perffaith fydd yn rhoi i chi’r hyder i fynd a chreu ar gyfer y we!

    (cwrs drwy gyfrwng y Saesneg fydd hwn)

    Lleoliad: Caerdydd

    Manylion llawn:

    http://www.cyfle.co.uk/home/shortCoursesDetails/html-csscym

     
  • Gareth Morlais 11:59 AM on 13 April 2013 Permalink | Ateb
    Tags:   

    Sut i roi fideo ‘Google Streetview Hyperlapse’ ar eich blog 

    Dyma fideo o bromenad Bae Colwyn wnes i wrth arbrofi gyda Google Streetview Hyperlapse. Does dim sain.

    clip fideo o blip.tv Nid oedd modd mewnosod fideo i’r post yn y blog yma

    Os am greu fideo o’r fath o’ch ardal chi:
    1. dilynwch y ddolen o  http://www.teehanlax.com/labs/hyperlapse/ at y teclyn
    2.  llusgwch  tagiau A a B ar y map i ddynodi’r dechrau a’r diwedd
    3.  defnyddiwch meddalwedd dal fideo fel Faststone Capture i recordio’r olygfa
    4.  lanlwythwth y fideo gorffenedig i YouTube, Vimeo neu Blip.tv
    5. cydiwch yn y code mewnosod er mwyn ei arddangos yn eich blog
     
  • Sioned Mills 10:57 AM on 12 April 2013 Permalink | Ateb
    Tags: , , ,   

    Haciaith #27 – ‘Home’ 

    Ar Haclediad y tro hwn, byddwn yn trafod dyfodiad y ffôn Facebook cyntaf – caru neu gasáu gwefan Mr Zuckerberg, mae hi rŵan ar gael ar ffôn Android ei hun. Hefyd, byddwn ni’n cymryd golwg ar arian arlein Bitcoins, a’r codi a chwymp yn ei gwerth ar farchnad stoc rithwir y we. Hyn oll a llawer mwy o fwydro am deithiau tramor Bryn, yn eich rhifyn diweddaraf o’r Haclediad!

    Ac wrth gwrs, diolch ENFAWR eto i Gafyn Lloyd am gymysgu, sortio a pholsio’r Haclediad eto mis yma!

     
c
compose new post
j
next post/next comment
k
previous post/previous comment
r
reply
e
edit
o
show/hide comments
t
go to top
l
go to login
h
show/hide help
esc
cancel